Tywydd Ofnadwy

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon i’ch helpu chi os bydd tywydd drwg neu lifogydd difrifol yn y fwrdeistref sirol.

Pobl hyn, anabl, arunig neu sy’n agored i niwed

Yn ystod tywydd garw mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn poeni’n arbennig am bobl hyn, anabl a phobl sy’n agored i niwed neu bobl sy’n arunig ac yn byw ar eu pen eu hunain.  Rydym yn gofyn i aelodau’r gymuned roi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol os ydynt yn poeni am unrhyw un o ganlyniad i dywydd garw.  Gellwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01978 292066.

Pan mae’r tywydd yn troi’n arw, mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol restr o gleientiaid sy’n agored i niwed ac maent yn gweithio gydag adrannau cludiant i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn dal i gael eu darparu.

Cysylltiadau allanol cynorthwyol

Paratoi ar gyfer argyfyngau – tywydd garw a llifogydd

Gwybodaeth o wefan Llywodraeth EM, Paratoi ar gyfer Argyfyngau.  Mae’n cynnwys cysylltiadau cynorthwyol ag asiantaethau perthnasol mewn achosion o dywydd garw neu lifogydd.

Cymryd Gofal yn y Gaeaf gan DirectGov

Gwybodaeth gan DirectGov am gymryd gofal yn y gaeaf.

Taliad Tywydd Oer gan DirectGov

Gwybodaeth gan DirectGov am Taliad Tywydd Oer.

Rhybuddion Tywydd Garw gan y Swyddfa Dywydd

Mae’r rhybuddion hyn yn cael eu cyhoeddi er mwyn helpu’r cyhoedd i wneud penderfyniadau cytbwys i amddiffyn eu bywydau, eu lles a’u heiddo mewn achosion o dywydd garw yn yr ychydig oriau nesaf.  Maent yn cael eu cyhoeddi pan fydd trothwyon tywydd penodol yn cael eu cyrraedd.

Llifogydd – Asiantaeth yr Amgylchedd

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd rôl bwysig wrth rybuddio pobl am beryglon llifogydd a lleihau’r tebygolrwydd o afonydd a’r môr yn gorlifo.

AgeCymru

Mae AgeUK yn gweithio’n galed i greu byd lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad i’r gymdeithas, yn cael eu cynnwys yn eu cymunedau lleol ac yn gwireddu eu hanghenion, eu gobeithion a’u dyheadau.

Newyddion y BBC: Gogledd-ddwyrain Cymru

Newyddion a gwybodaeth ddiweddar am ogledd-ddwyrain Cymru.

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

yn ôl i'r brig