|
Roedd ymateb Wrecsam i adroddiad y Bwrdd Iechyd yn gyflym.
Roedd tair carfan yn fras:
- Yr adweithwyr – gwrthwynebwyr unrhyw newid
- Y Pwyllgor Gwella – roeddent yn awyddus i wella’r dref, ond yn teimlo y byddai Bwrdd Iechyd Lleol yn costio gormod ac yn fraich llywodraeth ganolog yn Llundain.
- Y Pwyllgor Glanweithdra – roeddent yn cefnogi creu Bwrdd Iechyd Lleol i ddatrys problemau cymdeithasol y dref.
Cefnogodd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref ar 31ain Mai 1850 y sefyllfa bresennol. Galwodd y cyfarfod ar y Syrfewyr Priffyrdd i godi treth flynyddol i wella carthffosiaeth yn y dref. Cododd y Syrfewyr dreth, ond i ddarganfod nad oedd ganddynt unrhyw bŵer i wario’r arian ar garthffosiaeth a chyflenwadau dŵr.
Yna cymrodd y Pwyllgor Gwella’r cam cyntaf. Yn 1851 cyflwynwyd mesur yn y Senedd i sefydlu Comisiwn Gwella Wrecsam. Gwrthwynebwyd y mesur hwn gan y Pwyllgor Glanweithdra a’r adweithwyr. Anfonwyd deisebau i’r Senedd yn erfyn ar AS ac arglwyddi i drechu’r mesur. Trechwyd y mesur. Yn y cyfamser gwaethygodd problemau Wrecsam.

Posteri a deisebau o’r ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn y Mesur Gwella.
© Gwasanaeth Archifau Wrecsam
Yn 1856, penderfynodd y Pwyllgor Gwella a’r Pwyllgor Glanweithdra, erbyn hyn wedi cymodi, ddeisebu’r Cyfrin Gyngor am Siarter Corffori ar gyfer Wrecsam.
Yn yr ymchwiliad yn Neuadd y Dref yn gynnar yn 1857, rhestrodd Thomas Edgworth, cyfreithiwr lleol a diwygiwr blaenllaw, y lliaws rhesymau pam fod ar Wrecsam angen ei llywodraeth ei hun: i wella’r amgylchiadau moesol a glanweithdra gwael yn y dref, i wella’r ffyrdd, a chynnal cyfraith a threfn. Anfonodd y bonedd lleol eu cyfreithwyr i sicrhau bod eu hystadau’n aros oddi allan i ffiniau’r fwrdeistref newydd.
Ym mis Mai 1857 cyrhaeddodd newyddion y dref y byddai Wrecsam yn cael cyngor bwrdeistref ei hun gyda 12 o gynghorwyr a 4 henadur. Roedd cyffro mawr ynghylch yr etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 1857. Lluniwyd rhestr, a’i gosod tu allan i Neuadd y Dref, o bawb a hawl i bleidleisio. Thomas Edgworth ddaeth uchaf yn yr etholiad a dewiswyd ef i fod yn faer cyntaf Wrecsam.
Penododd y Cynghorwyr John James fel Clerc y Dref, John Jones fel Crïwr Tref, a David Higgins fel Rhingyll y Byrllysg ac Arolygydd Niwsans a Thai Llety Cyffredin. Roedd llawer o waith iddynt ei wneud.

David Higgins, Rhingyll y Byrllysg cyntaf.
© Archifau Wrecsam
We urged the Ratepayers to be awake, to be vigilant and on their guard. Let them be aware of certain 'hole and corner' meetings held for the purpose of hatching some notable project – nothing less than the Incorporation of this Town… We have now the pleasure of congratulating our fellow townsmen the said project has been strangled at birth, never again we hope to be conceived.
Golygyddol, Wrexham Recorder, 1848
We fear that for sometime to come the town of Wrexham is condemned to remain in that filthy and unhealthy state in which it cannot be denied to be in, and a disgrace to its inhabitants.
George Cunliffe, Cadeirydd,
Pwyllgor Iechydol, 1850
The principal benefit to be derived from a Charter will be that the town will have a recognised head to direct its affairs and in this will be an advantage of no ordinary magnitude.
Golygyddol, Wrexham Advertiser, 1857
Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:
Cyfri'n Ô'l i'r Siarter - fformat PDF 2.1Mb 
To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Adobe's Online conversion tools for Adobe PDF documents.
|