Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Amserau’n Newid, Lleoedd yn Newid

 

Yn 1848 roedd Wrecsam yn dref farchnad ffyniannus yn ymestyn, ond roedd y trigolion yn wynebu llawer o broblemau.

Roedd carthffosiaeth yn Wrecsam yn echrydus. Roedd 600 o gytiau moch, 12 lladd-dy, geudai a charthbyllau di-rif, a dim carthffosiaeth. Roedd pawb yn ofni haint y geri. Galwodd George Cunliffe, Ficer Wrecsam, gyfarfod cyhoeddus i sefydlu Pwyllgor Glanweithdra. Gwnaeth y Pwyllgor ei orau i lanhau’r dref, ond ychydig o bwerau oedd ganddo a fawr ddim arian.

Rhannwyd y dref yn hanesyddol. Roedd llysoedd maenorol Wrecsam y Brenin a Wrecsam yr Abad yn aneffeithiol.  Nid oedd Festri’r Plwyf, corff llywodraeth leol arall, yn ddim gwell. Roedd pobl oddi allan allan i’r dref yn gwrthwynebu talu unrhyw drethi i wella bywyd yn y dref. Roedd anghydffurfwyr yn gwrthwynebu talu unrhyw drethi o gwbl i Festri’r Plwyf.


Stryt Fawr, Wrecsam, a Neuadd y Dref

Yn rhwystredig, deisebodd y Pwyllgor y Bwrdd Iechyd i gynnal ymchwiliad yn Wrecsam ac argymell ffordd ymlaen. Ym mis Hydref 1849 cynhaliodd George T. Clarke yr ymchwiliad yn Neuadd y Dref, gwnaeth arolwg o’r dref ac, ym mis Ebrill 1850, cyhoeddodd ei adroddiad.

Roedd yr adroddiad yn ddigalon i’w ddarllen:

The mortality rate, 29 per thousand , is excessive even for a town and is the highest in North Wales.

Abbot Street is the most unhealthy street in the town, death rate 56 per thousand.

Yorke Street, death rate 52 per thousand, here the refuse is thrown into the churchyard and drains down the public steps into Tuttle Street.

The local government is powerless for sanitary purposes and its responsibilities too much divided, to be conducted efficiently. Matters requiring practical knowledge, such as the construction of sewers and roads, are entrusted to unskilled persons whose tenure of office is besides too brief to allow any settled plan to be adopted.

Greater power, with direct responsibility, is what is needed. Such a government the Public Health Act will at once provide under the name of a Local Board, elected by the ratepayers.

George Clarke,
Supt. Inspector of Health.
General Board of Health, 1850.

Sut fyddai’r dref yn ymateb?

Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:

Amserau'n Newid, Lleoedd yn Newid - fformat PDF 1Mb

To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Download the free Acrobat reader from the Adobe website

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Adobe's Online conversion tools for Adobe PDF documents.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint