Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Yr Hen Ddyddiau nad oedd Mor Dda

 

Mae’n hawdd hiraethu am yr hen ddyddiau dedwydd gynt. Roedd bywyd pobl Wrecsam yn y gorffennol yn un caled. Mewn ymateb daethant at ei gilydd i greu ysbryd y gymuned a edmygwn gymaint heddiw.

Fodd bynnag, ni ddylem anghofio ochr wael bywydau’r bobl na allwn ond eu gweld mewn sepia:

  • Yn 1907, bu 15% o blant a aned yn Wrecsam farw cyn eu pen-blwydd cyntaf, o’i gymharu â llai na 0.5% heddiw. Roedd y ffigur yn 1906 yn waeth fyth: bron i 20%.

  • Yn 1931, nid oedd gwaith gan 36% o ddynion o’r dosbarth gweithiol yn Wrecsam.

Os oeddech yn ddi-waith, yn rhy sâl neu’n rhy hen i weithio, yn ddi-briod a beichiog, neu’n blentyn amddifad, gallech gael eich anfon i’r tloty. Byddech yn dibynnu ar haelioni pobl eraill ac yn cael eich condemnio gan gymdeithas am fod angen cymorth. Yn 1907 cwynai’r papur newydd lleol bod y tlodion yn y tloty’n costio gormod i’w bwydo – 3s 6d bob un yr wythnos. Ar y pryd, roedd torth o fara’n costio 2d, tra’r oedd cyflog ar gyfartaledd yn llai na 10 swllt yr wythnos.


Prif Actoresau, Cwmni Pantomeim Walter Roberts, 1933.
© Archifau Wrecsam

Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:

Yr Hen Ddyddiau nad oedd Mor Dda - fformat PDF 1.1Mb

To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Download the free Acrobat reader from the Adobe website

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Adobe's Online conversion tools for Adobe PDF documents.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint