Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Corffori Wrecsam

 

Yn 1857, roedd 646 o bobl â hawl i bleidleisio fel bwrdeisiaid (Roedd bwrgeisiaid yn ddynion gyda hawl i bleidleisio.  Gallech fod yn fwrdais os oeddech chi’n berchen ar ddigon o eiddo, neu’n berchen ar fusnes yn y dref.) a 206 â hawl i sefyll fel cynghorwyr, ond roedd dyletswydd Cyngor y Fwrdeistref i holl drigolion y dref.


George Bradley, un o feiri cynnar Wrecsam.
© Archifau Wrecsam

No project was entered upon without the closest investigation as to the cost to the ratepayers, and careful regard for the healthy progress and  advancement of the Borough.

Thomas Bury, yr ail Clerc y Dref, yn ysgrifennu yn 1907


Neuadd y Dref gyntaf Wrecsam, Stryd Caer, 1914.
© Archifau Wrecsam

Blaenoriaeth y Cyngor oedd mynd i’r afael â charthffosiaeth a thai gwael Wrecsam. Rhwng 1863 a 1867, gosododd y Cyngor garthffosiaeth briodol a chaewyd y geudy carthbwll olaf erbyn 1894. Adeiladodd y Cyngor ysbyty neilltuo i bobl gydag afiechydon heintus, penodwyd ymwelydd iechyd i gynghori mamau plant newydd-anedig, ac agorodd faddonau cyhoeddus (ar gyfer ymolchi’n ogystal â nofio!) ar Tuttle Street. 

Roedd y buddiannau iechyd yn amlwg. Disgynnodd cyfradd farwolaethau’r dref o 29 y mil yn 1857 i 11 y mil yn 1957. Cynorthwyodd yr ymwelydd iechyd ostwng marwolaeth babanod o 152 y mil yn 1907 i 29 y mil yn 1957.


Tai a gondemniwyd ar Farndon Street, Wrecsam.
© Archifau Wrecsam

Gweithiodd Swyddogion Meddygol a Glanweithdra’r Cyngor hefyd i wella amgylchiadau byw yn slymiau Wrecsam, yn aml yn groes i agweddau moesoli’r oes. Erbyn 1907 sylweddolodd y Cyngor nad oedd gwella bywyd yn y slymiau’n ddigon; rhaid oedd eu symud ymaith ac adeiladu tai newydd. Adeiladwyd stad gyntaf tai cyngor Wrecsam, a ddyluniwyd gan Patrick Abercombie, y pensaer enwog, ar dir ym Mharc Acton yn y 1920au. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd Queen’s Park fel Jerwsalem Newydd Wrecsam yn y Caia. Cliriwyd y slymiau, ond mae cael gwared ar dlodi ac allgáu cymdeithasol yn waith y mae’r Cyngor yn dal i geisio’i gyflawni heddiw.

Queen’s Park is being developed to become a complete social entity with its own school, places of worship, shopping centre, playing fields and a community centre.

Hanes Wrecsam, 1957


Maer, Henaduriaid a Chynghorwyr Bwrdeistref Wrecsam, 1957.
© Archifau Wrecsam

Gweithiodd y Cyngor i wella’r dref mewn llawer ffordd. Wynebwyd a lledwyd strydoedd ac adeiladwyd ffyrdd newydd ar ôl 1879 gan ddefnyddio stêm-roler gyntaf erioed y Cyngor. Yn 1895 sefydlodd y Cyngor y frigâd dân broffesiynol gyntaf yn y Fwrdeistref ar ôl i’r frigâd wirfoddol leol aneffeithiol ddod yn ormod o gyff gwawd.


© Archifau Wrecsam


Mrs Milly Edwards-Jones, y fenyw gyntaf i fod yn faer Wrecsam, 1927-29.
© Archifau Wrecsam

Deisebodd Cyngor y Fwrdeistref y Senedd i gefnogi adeiladu rheilffyrdd newydd i Wrecsam a galwodd ar y cwmnïau rheilffyrdd i gynnig gwasanaethau rhatach. Cefnogodd y Cyngor ddatblygiad economaidd mewn llawer ffordd: pwyso’n llwyddiannus ar y Senedd i ddiddymu’r tollbyrth drud oedd yn amgylchynu’r dref, adeiladu marchnad wartheg newydd oddi ar Ffordd Smithfield, a moderneiddio ffeiriau a marchnadoedd cynnyrch y dref; gan gynnwys adeiladu Marchnad Lysiau newydd ac, yn fwy diweddar, Marchnad y Bobl.


Plant o Ysgol Parc Acton yn cynorthwyo dathlu ymestyn y fwrdeistref, 1935.
© Archifau Wrecsam

Yn fuan daeth addysg a ffyniant plant yn flaenoriaeth. Agorodd Cyngor y Fwrdeistref lyfrgell gyhoeddus yn 1878 a gwnaeth Clerc y Dref gais i Carnegie am yr arian ar gyfer llyfrgell gyntaf y dref a adeiladwyd i’r diben. Cynorthwyodd Cyngor y Fwrdeistref gyda sefydlu Bwrdd Ysgolion y dref yn 1871 a chefnogodd addysg alwedigaethol, syniad gwreiddiol yn yr oes honno, trwy agor Ysgol Wyddoniaeth a Chelfyddyd Wrecsam yn 1888, er nad oedd addysg yn un o’i gyfrifoldebau. Bellach, cyfrifoldeb y Cyngor yw ysgolion a daeth addysg yn un o wasanaethau blaenoriaethol llywodraeth leol.

Trawsffurfiodd y Cyngor, gyda chymorth rhoddion pobl leol, y Parciau yn barc cyhoeddus a maes chwaraeon. Rhoddodd John Jones, bragwr y Werddon, a William Aston, dyn busnes lleol, Faes Chwaraeon Rhosddu a Pharc Acton ôl eu trefn i’r dref. Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor yn parhau’r traddodiad cynharach hwn o ddarparu mannau hamdden agored i bobl leol heddiw.

Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:

Corffori Wrecsam Rhan 1- fformat PDF 3Mb

Corffori Wrecsam Rhan 2- fformat PDF 1.2Mb

To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Download the free Acrobat reader from the Adobe website

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Adobe's Online conversion tools for Adobe PDF documents.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint