Golygyddol
Siarter Corffori: Yr Ymchwiliad Cyhoeddus

Print o'n Stryt Fawr.
© Archifau Wrecsam
Ni fydd Wrecsam yn gorfod aros yn hir am benderfyniad a yw’r dref i gael Siarter Corffori. Agorodd yr ymchwiliad cyhoeddus ddydd Iau diwethaf yn Neuadd y Dref.
Manylodd Mr Buckton yr achos dros newid: diffyg pennaeth cydnabyddedig dros y dref gyfan, dim unfrydedd ymhlith y swyddogion cyhoeddus ar ôl eu penodi, Wrecsam y Brenin ar wahân i Wrecsam yr Abad, rhannwyd yr adran Oleuo yn bedair ardal. Mae cutiau moch a lladd-dai ymhobman heb eu hatal gan Bwyllgor Dileu Niwsans sydd heb bŵer i beri unrhyw newid. Mae popeth yn dibynnu ar ymdrechion unigolion preifat ac, felly, mae’n ysbeidiol ac anghyflawn. O ganlyniad ni wneir dim fel y dylai fod.
Gwrthwynebodd Mr Griffiths o Kings Mills y Siarter gan honni bod y byddai’r draul ar y trethdalwyr yn treblu ac y byddai eto’n dal i fethu datrys y problemau a nodwyd.
Teimlwn yn ddiamau y bydd y Siarter o’r fantais fwyaf i’r dref, ond rydym yn amau a fydd yn dileu rheidrwydd cael pwerau ychwanegol mewn Mesur Gwella, neu drwy fabwysiadu Deddf Iechyd Trefi, os yw ei gefnogwyr yn dymuno glanhau ein tref mewn gwirionedd. (Chwefror 1857)
Corffori Wrecsam

Crïwr y dref gyhoeddodd y newyddion am gael y siarter.
© Archifau Wrecsam
Cafwyd hysbysrwydd ddydd Mercher diwethaf bod Y Cyfrin Gyngor wedi penderfynu rhoi Siarter Corffori i dref Wrecsam. Mae’r fwrdeistref yn cynnwys Wrecsam yr Abad a Wrecsam y Brenin i gyd a rhan o Esclus Is y Clawdd. Derbyniwyd gwrthwynebiadau Syr Watkin, Mr Yorke ac eraill: ni fydd y Cae Ras, tir am y ffin â’r rheilffordd ac eiddo o gwmpas Kings Mills yn rhan o’r fwrdeistref. (Mai 1857).
Swyddi Gwag ac yn Eisiau
Yn eisiau dyn sefydlog cymedrol fel GWAS TŶ, sy’n gyfarwydd â dyletswyddau’r swydd ac sy’n gweini’n dda wrth y bwrdd.
Yn eisiau gan Ferch Ifanc, swydd fel LLAETHFAM.
Sesiwn Fach Wrecsam
Dihangwyr o’r Tloty’n mynd i’r Carchar
Cyhuddwyd pedwar bachgen 11 a 12 oed gan Mr Bragger, y llywodraethwr, o ddianc o Dloty Wrecsam. Ni ddywedodd tri o’r ffoaduriaid ddim o’u plaid, ond rhoddodd y pedwerydd fel rheswm bod yr ysgolfeistr wedi ei guro. Dywedodd Cadeirydd y Fainc fod raid atal y math hwn o beth ac anfonodd hwy i’r Cyweirdy yn Rhuthun am 21 diwrnod gyda llafur caled. (Mai 1857).
Cartref Newydd i’r Milisia

© Archifau Wrecsam
Mae’r Uwch-ringyll a chwe rhingyll wedi meddiannu’r Depo newydd yn ffurfiol. Gall yr arfdy i fyny’r grisiau ddal arfau 450 o ddynion. Mae ystafelloedd y swyddogion yn glyd iawn, tra bo ystafell yr Uwch-ringyll yn helaeth dros ben. Mae’r depo yn amserol iawn gan fod y Llywodraeth wedi mynegi ei fwriad i alw traean o’r milisia i ymarferion oherwydd bod cysylltiadau â Tsieina’n gwaethygu. (Mehefin 1857).
Cyhoeddiadau
Yr Ysgol Brydeinig - Adran y Merched
Mae Miss Coghill, yr Athrawes, yn cyflwyno hyfforddiant o’r fath gymeriad na all fethu bod yn y ffordd o addasu Merched i lenwi amrywiol sfferau bywyd diwydiannol a chartref. Y canghennau sy’n cael eu dysgu yw Darllen, Ysgrifennu, Rhifyddeg, Gramadeg Saesneg, Daearyddiaeth, Hanes, Gwnïo a Gweu. Y ffïoedd yw 2d, 3d a 6d. (Ionawr 1857).
Yr Ysgol Brydeinig - Adran y Bechgyn
Yn ddiweddar adeiladwyd orielau yn yr ysgol wedi helaeth a rannwyd â llenni i ganiatáu hyfforddi pob dosbarth ar wahân ac yn effeithlon. Mae’r cyrsiau hyfforddiant yn cynnwys y canghennau canlynol: Darllen, Ysgrifennu, Gramadeg Saesneg, Rhifyddeg, Mesur, Daearyddiaeth, Hanes, Lladin, Arlunio, llinol a phersbectif. Mae ffïoedd yn amrywio yn ôl oed a chyrhaeddiad y disgyblion, 2d i 6d. (Ionawr 1857).

Prifathro, cynorthwy-ydd a disgybl-athrawon, Yr Ysgol Brydeinig.
Nodyn i ddarllenwyr: mae’r ffotograff hwn at ddibenion egluro’n unig.
© Archifau Wrecsam
Ymwelydd annerbyniol yn ystod Ffair Mawrth
Aeth tarw cynhyrflyd i mewn i eiddo Mr Powell, cyffeithiwr, Stryt Siarl ddydd Llun diwethaf. Pryderai Mr Powell am ei stoc ond, yn ffodus iddo ef, nid oedd dant melys gan y tarw a chymhellwyd ef allan gan e berchennog cyn gwneud unrhyw ddifrod. (Mawrth 1857).
Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:
Wrexham Telegraph 1857 - fformat PDF 957Kb 
Newyddion - Wrexham Telegraph 1857 (Saesneg yn unig) - fformat PDF 1Mb 
To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Adobe's Online conversion tools for Adobe PDF documents.
|