Llyfrgell Gyhoeddus Newydd Wrecsam

Llyfrgell Gyhoeddus Newydd Wrecsam.
© Archifau Wrecsam
Agorodd Syr Foster Cunliffe y llyfrgell newydd ddydd Gwener, yng nghwmni’r Maer, Henaduriaid a Chynghorwyr. Mae’r llawr isaf yn cynnwys llyfrgell fenthyca, ystafell newyddion, ystafell gylchgronau ac ystafell y merched. Ar y llawr cyntaf mae darlithfa braf iawn, siop lyfrau a swyddfeydd. Fel sy’n hysbys, wrth gwrs, rhodd Mr Andrew Carnegie yw’r llyfrgell. (Chwefror 1907).
Tail yn Peri Drewdod yn Siambr y Cyngor

Yr Henadur Thomas Jones, Maer Wrecsam gynt.
© Archifau Wrecsam
Achosodd niwsans honedig yn Watery Road ddadleuon chwyrn yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Iechyd. Anghytunodd yr Arolygydd Glanweithdra a’r Henadur Thomas Jones ynghylch a oedd cadw llond trol o dail ceffyl o dan ffenestr ystafell wely tŷ cymydog yn ffurfio niwsans.
Dywedodd yr Arolygydd Glanweithdra bod y perchennog wedi cael gorchymyn i roi’r gorau i ddefnyddio ei bwll tail, ond ei fod wedi dechrau defnyddio trol i gadw tail am amryw ddyddiau. Meddai’r Henadur Jones “Ni allaf gytuno â’r Arolygydd bod mymryn o dail ceffyl mewn buarth yn niwsans.” Atebodd yr Arolygydd Glanweithdra “Mae o dan ystafell wely ffenestr, syr.” Ymyrrodd y Cadeirydd “Fyddwn i ddim yn hoffi cysgu yn yr ystafell wely honno!” Ychwanegodd y Cynghorydd Edward Jones “Rydym yn hyrwyddo agor ffenestri ac rwy’n herio neb i agor ffenestr os oes tail oddi tani.” Cytunwyd i gyflwyno rhybudd i’r perchennog yn galw arno symud y drol dail ymaith. (Mawrth 1907).
Slymiau Wrecsam yn Waeth na Llundain
Condemniodd Swyddog Meddygol Wrecsam barhad bodolaeth slymiau yn y Fwrdeistref yn ei adroddiad diweddaraf i’r Pwyllgor Iechyd. Dywedodd Dr D. Ll. Williams yr achoswyd nifer hynod y marwolaethau babanod yr haf diwethaf gan yr amgylchiadau aflan yr oedd gormod o’n pobl yn byw danynt. Roedd rhai o’r tai’n waeth na’r rhai yr ymwelodd â hwy yn Nwyrain Llundain. Galwodd y Cynghorydd Glascodine ar y Pwyllgor Iechyd i gondemnio’r eiddo hwn a gorfodi’r perchenogion i gyflawni eu cyfrifoldebau. Cefnogodd y Cynghorydd Edward Jones y Swyddog Meddygol gan ddweud pe bai’r Gorfforaeth yn adeiladu a rhentu ei thai ei hun am 3s neu 3s 6d yr wythnos, byddai landlordiaid preifat yn wynebu rhywfaint o gystadleuaeth. Galwodd y Cynghorydd Taylor am bwyll gan fod llawer o’r bobl oedd yn byw mewn tai o’r fath wedi arfer â hynny a bod yn well ganddynt fyw mewn slymiau. (Ebrill 1907).
Maeres yn Arlwyo Gwledd
Cafodd dros 1200 o blant de yn y Drill Hall diolch i godi arian gan y Faeres, Mrs Edward Hughes. Talodd y tanysgrifiadau a godwyd am de, teisen, bara menyn, mins-peis, pasteiod cig ac orennau, gyda sioe adloniant Professor Garlant yn dilyn. (Chwefror 1907).
Hysbysrwydd Lleol
Holt a Farndon
Mae Blaenoriaid Capel wedi condemnio gwerthu papurau Dydd Sul yn y ddau bentref. Beiwyd gwerthwyr papurau newydd Wrecsam.
Coedpoeth
Roedd cyffro yn y pentref ddydd Sul diwethaf. Gorymdeithiodd dyn ar hyd y Stryd Fawr yn bloeddio nerth ei ben “ Paratowch, Paratowch i gyfarfod eich Duw!” Cafwyd bod y dyn yn dod o ‘rhos ac aeth yn ei flaen i’r Mwynglawdd, gan ddal i weiddi.
Cefn Mawr
Bu dadl fywiog yng Nghymdeithas Lenyddol Seion. Y pwnc oedd – “A ddylid datgysylltu’r Eglwys?” Ar y diwedd pleidleisiodd 67 o blaid datgysylltu, 11 yn erbyn.
Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:
Wrexham Telegraph 1907 - fformat PDF 5.8Mb 
Newyddion - Wrexham Advertiser 1907 (Saesneg yn unig) - fformat PDF 993Kb 
To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Adobe's Online conversion tools for Adobe PDF documents.
|