
Maer, Byrllysgwr, Henaduriaid a Chynghorwyr Bwrdeistref Wrecsam, 1957.
© Archifau Wrecsam
Dywedodd y Cynghorydd John Albert Davies, Maer, yng Nghinio Blynyddol Cymdeithas y Trafeilwyr ‘Mae tref bresennol Wrecsam ymhell o fod yn foddhaol. Byddem yn hoffi gwneud llawer o welliannau – mae neuadd y dref newydd, er enghraifft, yn hanfodol ar unwaith.’ (Ionawr 1957).

Ni fydd Neuadd y Dref newydd a fwriadwyd yn Llwyn Isaf yn effeithio ar Coronation Walk.
© Archifau Wrecsam
Ciwiodd miloedd o ddilynwyr y tu allan i Gae Ras Wrecsam fore Sadwrn am docynnau’r Gêm Gwpan rhwng Wrecsam a Manchester United. Sicrhaodd rhai cefnogwyr tanbaid docyn trwy aros y tu allan i’r maes drwy’r nos. (Ionawr 1957).
Gwnaeth Brian Griffiths ddychweliad egnïol i’r tîm hŷn trwy sgorio tair gôl ym muddugoliaeth Wrecsam dros Darlington. Ar ôl dechrau di-ffrwt gwelodd 12,829 o ddilynwyr Wrecsam yn ennill 5-0 dros y Crynwyr. Ar hyn o bryd Wrecsam yw’r 6ed yn y Trydydd Dosbarth Gogledd. (Ionawr 1957).
Dywedodd y Swyddog Meddygol wrth Bwyllgor Iechyd y Cyngor Dosbarth Gwledig mai elfen bwysig yn y gyfradd farwolaethau arbennig o uchel ymhlith yr henoed yn 1956 oedd y tywydd. Roeddent wedi cael ychydig iawn o haul ac, o ganlyniad, aeth pobl i wendid ac roedd yn ymddangos bod hen bobl yn arbennig yn marw. (Ionawr 1957).

Adeiladwyr yn gweithio ar dai cyngor newydd ar Ffordd Ashfield.
© Wrexham Archives
Croesawodd dau deulu Hwngaraidd i Wrecsam ddydd Sadwrn. Gadawodd y ddau deulu Hwngari pan waethygodd ymladd yn ystod y chwyldro. Daeth eu dyddiau trychinebus i ben pan groesawodd Maer Wrecsam hwy i’w cartrefi newydd. Dodrefnwyd y tai gyda grant o Gronfa Ffoaduriaid yr Arglwydd Faer. (Ionawr 1957).

Disgyblion Ysgol Gynradd Alexandra, ffotograff cofio Dathliadau Canmlwyddiant Wrecsam.
© Archifau Wrecsam
‘Lladrad Noeth’ - dyna farn rhieni dig Wrecsam. Dyma ganlyniad cynnydd arfaethedig o 2d a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, yn fuan ar ôl codiad arall o 2d ym mhris ciniawau ysgol ym mis Ionawr. Bydd ciniawau ysgol yn costio swllt o Ebrill 1af, Diwrnod Ffŵl Ebrill. ‘A dyna fyddem ni i’w dalu, i gyd yn ffyliaid!’ oedd barn un o famau Wrecsam. (Chwefror 1957).
Gwerthwyd pob eiddo yn Garden Village, y stad dai arloesol, i’w tenantiaid presennol erbyn hyn. Rhedodd prisiau o £200 i £450 am y tai llai ac o £750 i £1,350 am y rhai mwy, ymhell islaw gwerth y farchnad. Ailwerthwyd un tŷ llai yn ddiweddar am £1,200. (Chwefror 1957).
Plediodd Ivor Bellingham, 25 oed, llafurwr fferm o Holt, yn euog o ddwyn heffer a’i gwerthu ym Marchnad Caer am £44 15s. Eglurodd fod arno angen arian am ei fis mêl ar ôl gorfod gwario ei gynilion ar borthiant gaeaf ar gyfer ei anifeiliaid ei hun. Arweiniodd llythyr cefnogol oddi wrth Ficer Holt y Llys i ryddhau Bellingham yn amodol, oedd eisoes wedi cyflwyno £50 i’r heddlu fel iawndal.

Yr Ysgol Gymraeg, ffotograff i gofio Dathliadau Canmlwyddiant Wrecsam.
© Archifau Wrecsam
PRENTIS SYRFËWR ei angen gan Bwll Glo’r Hafod, Rhiwabon. Prentis heb fod yn hŷn na 18 oed. Lefel O mewn pedwar pwnc gan gynnwys Mathemateg a Gwyddoniaeth. Cyflog £2 i £3 10s.
Clerc cyffredinol BENYW yn eisiau gan siop ddillad adnabyddus yn Wrecsam. Gobeithion da, rhaid gallu derbyn cyfrifoldeb.
YN EISIAU Mab neu ferch ifanc gyda chwaeth at Lyfrau a Llenyddiaeth Cymraeg i Siop Lyfrau. Hughes Evans a’i feibion, Lerpwl.
Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:
Amserau'n Newid, Lleoedd yn Newid - Wrexham Telegraph 1957 - fformat PDF 1Mb ![]()
Newyddion - Wrexham Advertiser & Star 1957 (Saesneg yn unig) - fformat PDF 2.2Mb ![]()
To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.
Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Accessible Adobe® Reader.