Fe'ch cynghorir i neilltuo lle er mwyn defnyddio darllenwr microffilm neu ficrofiche yn enwedig os ydych yn dod o bell.
Gallwch neilltuo lle dros y ffôn, drwy lythyr, ffacs neu ebost.
Bydd ymwelwyr sy'n cyrraedd heb neilltuo lle yn cael lle os yw hyn yn bosibl. Fodd bynnag, bydd y rhai sydd wedi neilltuo lle yn cael blaenoriaeth i'r cyfleusterau.
Peidiwch â dod ag eitemau mawr gyda chi, megis bag dogfennau mawr, ayb gan nad oes llawer o le yn yr ystafell chwilio.
Mae chwe sedd ar gyfer ymchwilwyr, felly ar adegau prysur, gellid gweithredu system neilltuo ar gyfer lle wrth ddesg hefyd.
Os nad oes gennych docyn darllenwr, sicrhewch fod gennych rywbeth arall i'ch adnabod.