Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwasanaeth Ymchwil

 

Gallwch ymweld â Chanolfan A.N. Palmer i ddefnyddio'r dogfennau, microffurfiau a ffynonellau argraffedig yn rhad ac am ddim. Os na allwch ymweld â'r Ganolfan yn bersonol, gallwn wneud yr ymchwil ar eich rhan.

Gallwn chwilio drwy gofnodion gwreiddiol, microffurfiau ac adnoddau argraffedig a gedwir yng Nghanolfan A.N. Palmer. Mae'r ffynonellau yn cynnwys cofnodion plwyfol, anghydffurfiol a chyfrifiadau, cofrestri etholaethol a phapurau newydd.

Mathau o ymchwil a wneir

  • Ymholiadau penodol - byddai chwilio am wybodaeth mewn cofrestri plwyf neu ffurflenni cyfrifiad yn gofyn am ymchwil syml e.e. dod o hyd i briodas John Jones a Mary Davies yn Wrecsam 1750-1760

  • Ymchwiliadau hwy e.e. papurau newydd, gwirio cyfuniad o ffynonellau, gwybodaeth am adeilad a'i ddeiliadaeth

Ni allwn wneud ymchwil ar bwnc cyffredinol o natur eang e.e. 'twf a datblygiad Wrecsam'

Gwybodaeth am ddaliadau

Mae gwybodaeth am y cofnodion a ffynonellau eraill sydd gennym a sut y gallwch eu defnyddio yn rhad ac am ddim. Gallwch gyflwyno eich cais dros y ffôn, drwy'r post neu ebost.

Ceisiadau

Rhaid cyflwyno ceisiadau am ymchwil ar y ffurflen gais swyddogol, ynghyd â'r ffi briodol, cyn y gallwn wneud yr ymchwil. Dylech anfon y ffurflenni at Ganolfan A.N. Palmer ar gyfer Astudiaethau Lleol ac Archifau, Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam, LL11 1RB.

 Ffurflen ceisiad am ymchwil

Gellir llwytho copi o'r ffurflen hon i lawr yn y ffurfiau canlynol:

Ffurflen ceisiad am ymchwil - Fersiwn Word 20Kb  

Ffurflen ceisiad am ymchwil - Fersiwn PDF 59Kb  

Ffurflen ceisiad am ymchwil - Fersiwn Testun Plaen 11Kb 

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Canlyniadau yr ymchwil

Unwaith i ni dderbyn eich ffurflen gais, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ac anelwn at ateb pob ymholiad o fewn 4 wythnos. Fodd bynnag, ar adegau, gall llwyth gwaith arwain at oedi.

Pan fyddwn wedi gorffen ymchwilio, byddwn yn anfon adroddiad wedi ei deipio atoch yn rhoi manylion llawn o'r ffynonellau a wiriwyd a'r wybodaeth a gafwyd. Byddwn yn rhoi cyngor ar fodolaeth a lleoliad ffynonellau perthnasol eraill, lle'n briodol.

Gwnawn bob ymdrech i gyflenwi'r wybodaeth y gofynnwch amdani ond ni allwn sicrhau y bydd yr ymchwil yn cael canlyniad cadarnhaol bob tro.

Cadwn yr hawl i wrthod gwneud ymchwil.

Taliadau am yr ymchwil (gan gynnwys TAW)

Y tâl am ymchwil yw £15 yr awr (lleiafswm o awr, mwyafswm o ddwy awr). Codir tâl o 10c fesul copi A4 a 15c fesul copi A3 am lungopïo du a gwyn a £1.00 fesul copi A4 a £1.50 am gopi A3 lliw. Codir tâl o 30c fesul copi A4 am argraffu microffilmiau neu ficrofiche. Codir tâl ychwanegol am bostio a phecynnu os bydd raid. Arolygwn y taliadau hyn bob blwyddyn.

Dulliau talu

Rhaid i chi anfon y tâl am yr ymchwil gyda'ch ffurflen gais. Lle bo angen copïo, codwn dâl pellach am unrhyw lungopïau/microprintiau a ddarparwn. Gallwch dalu â siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Os ydych yn byw tu allan i'r DU, dylech dalu â phunnoedd sterling.

Gwybodaeth Gyffredinol

Mae Canolfan A.N. Palmer yn cadw casgliadau cyfeiriol astudiaethau lleol, archifau a'r amgueddfa ar ran Gwasanaethau Treftadaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Oriau agor

Dydd Llun 10.00am - 5.00pm
Dydd Mawrth 10.00am - 5.00pm
Dydd Mercher 10.00am - 5.00pm
Dydd Iau 10.00am - 5.00pm
Dydd Gwener 10.00am - 5.00pm
Dydd Sadwrn 10.30am - 3.00pm


Tocyn Darllenwr

Os dymunwch ddefnyddio casgliadau'r Ganolfan yn yr ystafell ymchwil, rhaid i chi gael tocyn darllenwr. Cyhoeddwn y tocynnau hyn ar gais, yn rhad ac am ddim, a chyhoeddir nhw'n unol â'r rheolau sy'n effeithiol ar hyn o bryd.

Wybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ymchwil, cysylltwch â:

Chanolfan A.N. Palmer ar gyfer Astudiaethau Lleolac Archifau
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Rhaglaw
Wrecsam
LL11 1RB

Ffôn: 01978 317973
Ffacs: 01978 317982

E-bost: localstudies@wrexham.gov.uk or archives@wrexham.gov.uk

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint