Yr Ystafell Ymchwilio

Beth sydd ar gael yn yr ystafell ymchwilio?

Mae lle i chwe ymchwilydd eistedd a ceir dau ddarllenwr microffilm a dau ddarllenwr microfiche yn yr ystafell ymchwilio. Hefyd ceir cyfrifiadur sydd ar gael i chwilio safleoedd hanesyddol ac achyddol ar y Rhyngrwyd ac i ddefnyddio CD ROMiau. Mae llungopïwr gyda bocs arian ar gael i ymchwilwyr wneud eu copïau eu hunain. Gellir cymryd archebion ar gyfer copïau o ficroffilmiau.

Ffynonellau:

  • Llyfrau astudiaethau lleol - casgliad cyfeiriol

  • Trawsysgrifau cofrestrau plwyf

  • Cofnodion o arysgrifau coffaol

  • Cyfrifiad Prydeinig 1881 a Mynegai Cenedlaethol ar CD-ROM

  • Dychweliadau Cyfrifiad 1841-1901 ar microffilm a microfiche

  • Cofrestrau plwyf gwreiddiol ar ficroffilm

  • Papurau newydd lleol o 1850 ar ficroffilm

  • Mynegai Profeb Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr 1858-1943 ar ficrofiche

  • Cyfnodolion lleol

  • Mapiau printedig

Rhaid cael tocyn darllenydd dilys i ddefnyddio casgliadau'r Ganolfan yn yr Ystafell Ymchwilio.

Mae Canolfan A.N.Palmer yn aelod o gynllun tocynnau darllenwyr CARN.

Os oes tocyn CARN gennych eisoes, dewch ag ef â chi.

Os nad oes gennych un, dewch â phrawf o'ch enw, cyfeiriad presennol a llofnod (e.e. trwydded yrru neu fil i'r ty a cherdyn gwarant siec) fel bod staff yn gallu rhoi tocyn darllenydd am ddim i chi.

Cofiwch nad yw pasport y DU yn unig yn ddigon o brawf, oherwydd nad oes nodyn o'ch cyfeiriad arno.

Gofynnir i bob deilydd tocyn gadw at reolau'r ystafell ymchwilio. Mae'r Ganolfan yn cadw'r hawl i atal neu wrthod rhoi tocyn darllenydd.

Pan fo tocyn darllenydd gennych:

  • Bydd catalogau a mynegeion ar gael

  • Dylech gwblhau ffurflenni cais unigol ar gyfer pob dogfen

  • Oherwydd bod yr holl gofnodion yn amnewidiadwy, gofynnir i chi ddilyn rheolau'r ystafel ymchwilio

  • Dylid defnyddio pensiliau'n unig yn yr ystafell ychwilio. Ni chaniateir unrhyw ffurf o inc

  • Dim ysmygu, yfed na bwyta (gan gynnwys melysion a gwm cnoi)

  • Peidiwch â phwyso nac ysgrifennu ar unrhyw ddogfennau na llyfrau

  • Rhowch eich ffôn symudol i ffwrdd

Ni ddylid mynd â deunyddiau na ffynonellau cyfeiriol allan o'r ystafell

Arddangosir rhestr lawn o reolau'r Ystafell Ymchwilio yn y Ganolfan. Gwnaed y rheolau hyn fel bod eich ymweliad yn bleserus ac i sicrhau bod deunyddiau hanesyddol yng Nghanolfan A.N. Palmer yn goroesi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

yn ôl i'r brig