|
Mae
Amgueddfa Glofa'r Bers yn cynnwys yr hen adeilad injan a'r offer pen pwll
olaf sy'n sefyll ar faes glo Gogledd Cymru. Adnewyddwyd yr offer pen pwll
gyda chymorth Cronfa Loteri Treftadaeth Cymru.
Hanes Cefndirol
Roedd glo yn ddeunydd crai hanfodol ar gyfer diwydiant. Trawsnewidiodd
y ffaith bod digonedd ar gael yn lleol (mae Maes Glo Sir Ddinbych yn ymestyn
o Groesowallt i ogledd Wrecsam) Wrecsam, a oedd yn dref marchnad i ganolfan
ddiwydiannol Gogledd-Ddwyrain Cymru. Tyfodd pentrefi megis Rhosllannerchrugog,
Ponciau a Llai wrth i'r diwydiant glofaeol ehangu yn y 19 Ganrif. Yn anterth
cyfnod y glo, roedd 38 gwaith glo yn cyflogi dros 12,000 o ddynion a cynhyrchwyd
dros 2.6 miliwn tunnel o lo. Y glo oedd yn dygrifol am dyfiant y diwydiant
haearn lleol o ganol y 18 Ganrif. Roedd diwydiannau eraill megis brics,
teiliau a gwaith terracotta Abenbury a Rhiwabon angen glo. Yn yr 20 Ganrif,
roedd gwaith dur Shotton hefyd yn defnyddio glo'r Bers.
Dechreuodd Glofa'r Bers yn 1868 trwy suddo'r siafft cyntaf yn yr hen
iard frics fel yr oedd bryd hynny. Gallwch weld y cawell bychan hyd heddiw
ar ben Siaft Rhif 1 a oed yn cludo'r glowyr a chyfarpar lawr i wyneb y
glo ac yn ôl.
Erbyn 1902, roedd y perchnogion gwreiddiol, y teulu Barnes o Lerpwl,
yn cyflogi 675 o ddynion o dan ddaear a 94 ar yr wyneb. Roedd yn waith
peryglus iawn. Yn 1880, lladdwyd 9 gweithiwr mewn ffrwydriad.

Gelwir y cyfarpar mawr metal ar y safle yn Offer Pen Pwll. Nawr mae wedi'i
adenewyddu, ond daeth yn wreiddiol o Lofa Gatewen gerllaw. Daethpwyd a'r
Offer Pen Pwll i Lofa'r Bers ar gyfer Siafft Rhif 2 yn 1930, wedi i dân
ddinistrio'r offer a adeiladwyd o bren a oedd yno ynghynt.

^ yn ôl i'r brig
Roedd yr offer pen pwll yn cynorthwyo i godi'r glo i fyny Siafft Rhif
2 o wyneb y glo 1269 troedfedd / 387 metr isod. Roedd hefyd yn gollwng
a chodi dynion a chyfarpar i ac o'r twneli a gysylltai wyneb y glo. Pan
welwch chi faint y peiriannau a fyddai'n gweithio o dan y ddaear (mae
rhai yn cael eu harddangos yng Nglofa'r Bers), mae'n syndod meddwl bu
raid eu gollwng i lawr y siafft hon. Yn yr adeilad bric agosaf i'r Offer
Pen Pwll, mae'r peiriant weindio trydan a oedd yn tynnu cawell y lifft
a oedd yn cynnwys y glo i'r wyneb. Gallwch weld pa mor bell yr oedd raid
i'r glowyr deithio o dan y ddaear oherwydd bod cloddio o amgylch Erddig
wedi achosi i'r plasdy ymsuddo, ac o ganlyniad, bu raid i Philip Yorke,
y perchennog symud allan a rhoi'r eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ni chaniatawyd i'r lofa weithio'r gwythiennau glo yn ardal Erddig ac effeithiodd
hyn ar hyfywedd y pwll yn fawr.

^ yn ôl i'r brig
Goroesodd Glofa'r Bers lawer o broblemau: roedd rhai o'r gwythiennau
glo yn llai na 2 droedfedd o uchder, roedd y pwll glo yn wlyb, roedd ffawt
Wrecsam - Swydd Stafford yn gwneud bywyd yn galed ac roedd problem bob
amser i godi'r glo i fyny i'r wyneb yn ddigon sydyn. Roedd peiriant clyfar
iawn a oedd yn chwythu'r glo i fyny pibell fel powdwr i'w werthu ymlaen
i'r orsaf ynni yn Fiddlers Ferry. Fodd bynnag, roedd y Bers yn lofa effeithiol
i'w rhedeg, er bod tueddiad dros maint economegol yn y diwydiant glo.

Glofa'r Bers oedd y lofa weithiol olaf ym Maes Glo Sir Ddinbych. Fe'i
caewyd yn 1986 gan golli 480 swydd. Lluniodd cloddio am lo gymeriad y
gymuned leol a'r tirwedd lawer pellach na phen y pwll. Roedd Glofa'r Bers
yn hynod bwysig i bobl leol, oherwydd bod sawl cenhedlaeth, meibion yn
dilyn eu tadau i lawr y pwll. Ni fyddai pentrefi megis Rhostyllen, Ponciau
a Llai yn bodoli oni bai am gloddio am lo. Yr offer pen pwll hwn yw'r
unig un ar ôl hen lofeydd wedi newid fel na fyddai neb yn eu hadnabod
bellach, mae'r offer pen pwll nawr yn ein hatgoffa o'r diwydiant lleol
hwn a'r glowyr a fu'n gweithio o dan y ddaear. Mae'n henebyn rhestredig
sy'n cael ei warchod yn gyfeithiol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
ac Ymddiriedolaeth Glofa'r Bers yn gofalu amdano.

Pwll Glo Glanrafon oedd yr olaf i gau ar faes glo Sir Ddinbych. © Yr Awdurdod Glo
|