Gellir gweld y safle o'r ffordd ar bob adeg. Mae Gwaith Haearn y Bers yn agored drwy wneud apwyntiad o flaen llaw i ymweliadau grŵp, ac ar ddiwrnodau agored arbennig yn unig.
Mae Canolfan Dreftadaeth y Bers yn fan cychwyn rhagorol am ymweliad i Ddyffryn Clywedog a Dyffryn Llangollen. Os ydych yn cerdded, mae’r Ganolfan yn fan defnyddiol i aros ar Lwybr Clywedog. Dewch i gael gwybod am dreftadaeth ddiwydiannol y dyffryn, neu ddarganfod yr hanes tu ôl i 300 mlynedd o gynhyrchu haearn a dur yn y Bers ac ym Mrymbo gerllaw.
Manylion CysylltuCanolfan Dreftadaeth Y Bers
Y Bers
Wrecsam
LL14 4HT
Ffôn: 01978 318970
Ebost: bershamheritage@wrexham.gov.uk
Gwybodaeth HygyrcheddMae Canolfan Dreftadaeth y Bers ym mhentref y Bers rhyw ddwy filltir i’r gorllewin o Ganol Tref Wrecsam.
Mae maes parcio mawr ar gyfer ymwelwyr ar diroedd y ganolfan dreftadaeth. Bydd adwy’r maes parcio’n cael ei chau 30 munud cyn i’r safle gau ac yn cael ei chloi am 5pm.
Mae llain barcio unswydd ar gyfer deiliaid bathodyn glas wrth ymyl y fynedfa i’r ganolfan dreftadaeth. Mae ramp isel ar gyfer cyrraedd y fynedfa o’r llain barcio.
Mae mynedfa’r ganolfan dreftadaeth i’w chyrraedd ar hyd llwybr carreg gyda phum gris i lawr at y fynedfa neu ar hyd ramp isel. Mae canllawiau ar ramp y maes parcio, y grisiau a mynedfa’r ganolfan.
Mae gwasanaeth bysiau Rhif 6 o orsaf fysiau Wrecsam yn aros ger Canolfan Dreftadaeth y Bers. Ar Stryt y Brenin mae gorsaf fysiau Wrecsam. Mae gwasanaeth bws newydd yn cysylltu’r gorsafoedd bws a thrên yn Wrecsam.
Mae dwy orsaf drenau yn Wrecsam: Wrecsam Cyffredinol a Wrecsam Canolog. Mae gwasanaethau uniongyrchol rheolaidd o Gaerdydd, Amwythig, Lerpwl, Caergybi, Caer a Llundain.
Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans yr amgueddfa yw SJ312491.
Rhwng y Pasg a diwedd mis Hydref, mae’r ganolfan dreftadaeth ar agor rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 12 hanner dydd a 5pm ar benwythnosau a Gwyliau Banc. Sylwch fod y mynediad olaf am 4.30pm.
Mae’r holl orielau cyhoeddus ar y llawr isaf gyda mynediad i bopeth ar y gwastad.
Mae cylch clywed wrth y ddesg groesawu.
Nid oes unrhyw ddrysau awtomatig ond mae holl ddrysau’n 800mm o led fan leiaf.
Caiff toiled neillryw hygyrch ei ddarparu’n agos at fynedfa’r ganolfan dreftadaeth. Mae larwm i alw am gymorth os bydd angen.
Caiff holl arddangosfeydd eu dylunio i fod yn hygyrch, gyda fersiynau print bras o destun arddangosfeydd ar gael a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr iau.
Mae croeso i gŵn tywys
Mae sedd oddi allan i’r ganolfan dreftadaeth, buarth chwarae plant nesaf at y maes parcio a digon o dir glas ar gyfer picnicio. Gallwch fwynhau eich lluniaeth eich hun mewn lle unswydd i eistedd yn y ganolfan dreftadaeth. Cofiwch beidio â bwyta nac yfed yn yr orielau.