Ar ôl ei wneud yn enwog gan John ‘Hurt am Haearn’ Wilkinson, ffigur blaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol, erbyn hyn mae Gwaith Haearn y Bers a fu mor swnllyd unwaith yn swatio’n ddistaw yn Nyffryn Clywedog deniadol, dwy filltir i’r gorllewin o Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae teithiau tywysedig i grwpiau ar gael ar gais. Cysylltwch â Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 01978 297460 i gael manylion.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr arwyddion brown ar gyfer y Bers a Chlywedog oddi ar un ai’r A525 i’r B5098, A483 i’r B5605 a B5098, neu’r B5099 i’r gorllewin o Wrecsam. Edrychwch am arwyddion brown gyda Gwaith Haearn arnynt. 




Gwaith Haearn y Bers – Y Blynyddoedd Cynnar

oedd gwaith haearn yn y Bers ynghanol yr ail ganrif ar bymtheg.

Roedd y Bers mewn lle gwych i wneud haearn. Roedd ar y meistr haearn angen carreg haearn, siarcol, carreg galch a nerth dŵr. Yn y ddeunawfed ganrif roedd arno angen glo yn ogystal. Roedd y cyfan ar gael gerllaw:

  • Glo a charreg haearn o byllau yn y Ponciau, Rhos, a Llwyn Einion.
  • Carreg galch o chwareli yn y Mwynglawdd.
  • Siarcol o’r coedydd o gwmpas Coed-poeth.
  • Nerth dŵr o Afon Clywedog.

Roedd marchnad gynyddol hefyd am nwyddau haearn yn Wrecsam a Chaer.

Tocyn John Wilkinson
© Canolfan Dreftadaeth Y Bers

Adeiladodd Charles Lloyd, cyfaill i Abraham Darby o Coalbrookdale (Abraham Darby oedd y meistr haearn enwog o Swydd Amwythig. Arloesodd gynhyrchu haearn gan ddefnyddio glo colsio – digwyddiad allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol), ffwrnais chwyth yma tua1717 i gyflenwi gefail Pont y Blew yn y Waun. Yn y 1730au dechreuodd meistri haearn y Bers wneud nwyddau haearn bwrw fel potiau coginio, ond roedd problemau. Roedd costau nwyddau crai’n codi, roedd pris haearn yn amrywio ac roedd yn anodd gwneud haearn bwrw. Methodd meistri haearn un ar ôl y llall.

Yn 1753, cymrodd Isaac Wilkinson, meistr haearn a dyfeisydd o ogledd Lloegr, yn awyddus i gael hyd i waith haearn gyda gobeithion, awenau Gwaith Haearn y Bers. Ehangodd y gwaith a gwnaeth botiau, pibelli, rholwyr, ac arfau, ond roedd ef hefyd mewn trafferthion ariannol erbyn 1761. Roedd ei fab, John Wilkinson, yn fwy llwyddiannus.

‘I understood Bersham Furnace ceased this day blowing with charcoal and went on blowing with coakes for potting.’

O ddyddiadur John Kelsall, Rhagfyr 3ydd 1721.


Y Mr Wilkinson Dawnus

Ganed John Wilkinson yn 1728 ym mhentref Clifton, ger Penrhydd (Penrith) yng Nghymbria. Cafodd addysg dda a gwasanaethodd fel prentis i werthwr haearn yn Lerpwl (roedd gwerthwyr haearn y ddeunawfed ganrif yn wneuthurwyr ac yn werthwyr yn y fasnach haearn). Gweithiodd hefyd ochr yn ochr â’i dad, Isaac, yn y ffowndri a dysgodd sut i wneud haearn bwrw.

Priododd Anne Mawdesley, ei wraig gyntaf, yn 1755 a symudodd gyda hi i Wrecsam. Bu farw flwyddyn yn ddiweddarach a gadawodd ddigon o arian iddo ddechrau ei fusnes ei hun

John Wilkinson, tua 1780au.
© Science & Society Picture Library

Yn 1757 cymrodd Wilkinson awenau gwaith haearn mewn trafferthion yn Willey yn Swydd Amwythig. Roedd yn amser da wrth i’r Rhyfel Saith Mlynedd (1756-63) beri mwy o alw am y gynnau mawr a wnaeth y gwaith haearn. Gallai Wilkinson weld hefyd y marchnadoedd newydd am haearn ar adeg heddwch a chafodd enw da am gynhyrchu rhannau haearn bwrw o safon ar gyfer peiriannau stêm Newcomen.

Rheolodd Wilkinson Waith Haearn y Bers ar ran ei dad, ond roedd yn uchelgeisiol. Nid cariad oedd ei unig reswm dros briodi Mary Lee, ei ail wraig ac un o gyfranddalwyr Gwaith Haearn y Bers. Yn raddol prynodd ran y partneriaid ym musnes ei dad. Erbyn 1763 roedd Isaac Wilkinson yn gorfod derbyn mai ei fab oedd mewn gofal.

Roedd John Wilkinson yn fwy na dyn busnes craff. Roedd yn arbrofwr a dyfeisydd gwych. Roedd yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o wneud haearn, i redeg gwaith haearn ac i wneud darnau bwrw manwl gywir.

Y ‘gwirionedd’ oedd gair diwydianwyr y ddeunawfed ganrif am gywirdeb darnau bwrw a gwnaeth chwilio am hynny Wilkinson yn ffigur canolog yn y Chwyldro Diwydiannol ac yn ddyn cyfoethog iawn.

An Iron Forge at Merthyr Tydfil, Julius Caesar Ibbetson, dyfrlliw, 1789.
© Amgueddfa a Chastell Cyfarthfa

“I think it better to work than write. Indeed a man that hath not the former to do – may amuse by penning long.”

John Wilkinson, yn sôn am waith ac, yn ôl pob tebyg, yn anelu at ei frawd


Gwneud Haearn

Tan y ddeunawfed ganrif gwnaed haearn gan ddefnyddio haearnfaen (carreg haearn), carreg galch a siarcol. Yn 1709 mwyndoddodd Abraham Darby yr haearn cyntaf gan ddefnyddio golosg, ffurf burach ar lo. Gwnaeth meistri haearn y Bers eu haearn cyntaf mewn ffwrnais chwyth a defnyddio golosg yn 1721.

Haearn bwrw yw’r haearn yn syth o’r ffwrnais chwyth.

Caiff pethau haearn bwrw eu gwneud mewn ffowndri. Mae haearn bwrw’n galed iawn, ond mae’n frau ac nid yw’n plygu. Roedd yn ddefnyddiol i wneud gynnau mawr, silindrau, rhannau o beiriannau a rheilin addurnol.

Caiff pethau haearn gyr eu gwneud mewn gefail neu efail gof. Defnyddiwyd y ffurf burach hon o haearn i wneud arfau ac offer.

Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae dur (ffurf ar haearn yn cynnwys swm arbennig o garbon) wedi disodli haearn bwrw a haearn gyr. Gall dur fod â rhinweddau’r ddau a dim o’u hanfanteision.


Tyllu Dros Brydain

Roedd ar Brydain angen gynnau mawr diogel a manwl gywir, ond nid oedd llawer o ynnau mawr y cwmnïau haearn naill ai’n ddiogel nac yn fanwl gywir.

The Board are greatly alarmed at the frequent bursting of the Guns cast by the Carron Company of late which must be owing to some fault in their construction or the Badness of the Metal.

Cofnod Swyddfa’r Bwrdd Arfau, Mawrth 22ain 1771

Dechreuodd John Wilkinson weithio ar ffordd newydd o wneud gwn mawr. Bwriodd Wilkinson y gwn mawr haearn yn soled, yn wahanol i feistri haearn cynharach. Defnyddiodd ddril ac yna ‘far tyllu gyda thorwyr neu gyllyll’ i wneud twll manwl gywir.

Yn 1774 profodd y Bwrdd Arfau ynnau mawr newydd Wilkinson. Roeddent yn llwyddiant ysgubol. Gorchmynnodd y Bwrdd wneud holl ynnau mawr yn ôl dull Wilkinson. Ceisiodd cwmnïau cystadleuol ddarganfod yn union sut y gwnaeth Wilkinson ei wn mawr. Clywodd y Ffrancod am lwyddiant Wilkinson ac aethant mor bell ag anfon asiant, y Brigadydd Marchant de la Houlière i ddarganfod cyfrinachau Gwaith Haearn y Bers

Twll Enfawr

James Watt’s steam engine powered the Industrial Revolution. He patented his invention in 1769. However, Watt’s engine needed accurately made cylinders to work properly and Watt couldn’t find any cylinders made to the standards he required. Only the best ironmaster and engineer could solve Watt’s problem. In 1773 Matthew Boulton, Watt’s new business partner, introduced him to John Wilkinson.

Wilkinson experimented. Initially he tried adapting his cannon boring machine. Then he built a new machine at Bersham that could bore cylinders of various sizes. In April 1775 Wilkinson delivered the cylinders to Watt in Birmingham and the steam engine worked. In 1776 the two inventors installed a steam engine at Wilkinson’s blast furnace in Bradley, Staffordshire. It was a great success. Orders soon followed from other ironmasters. The engines were sold to use in the mines and the cotton mills. Boulton & Watt recommended all their steam engines be fitted with Wilkinson cylinders made at Bersham.

Peiriannau stêm Watt yrrodd y Chwyldro Diwydiannol
© Science & Society Picture Library

Wilkinson hath bored us several cylinders that doth not err to the thickness of an old shilling in no part.

Matthew Boulton, 1776


Ymerodraeth Wilkinson – Y Canolfannau

Canolfannau ymerodraeth fusnes John Wilkinson oedd ei waith haearn yn y Bers, Bradley (Swydd Stafford), Willey (Swydd Amwythig) ac, yn ddiweddarach, Brymbo.

Roedd ei fusnesau’n cynnwys diwydiannau hanfodol i’w waith haearn: pyllau glo, cyflenwad haearnfaen, chwareli carreg galch ac odynau calch. Buddsoddodd pa le bynnag y gallai wneud arian, yn enwedig yn y diwydiannau metel (plwm, copr ac alcam) a chamlesi.

Tan 1795 roedd cysylltiad agos rhwng Wilkinson â Boulton a Watt ym Mirmingham yn cyflenwi silindrau a rhannau ar gyfer eu peiriannau ager. Roedd yn well gan Wilkinson ganolbwyntio ar y busnes ‘peiriannau’ gan y gwelai hynny’n fwy proffidiol dros gyfnod na gwneud gynnau mawr.

Archwiliodd Wilkinson ddefnyddiau newydd i haearn ar bob cyfle. Ef oedd y catalydd i syniad adeiladu pont haearn yn Coalbrookdale. Ynghyd â’i gyfaill, Abraham Darby III, rhoddodd yr arian i’w chodi.

The Demands for Guns & Ordnance bring great and pressing and with the Engine Work taking so much time, room and men that would dispatch 10 Tons in Armament for one of the latter… I should consider it a favourable Circumstance at this time if Engine Orders had been more slack. However, I shall continue to sacrifice to the Engine Branch as I have done – considering it a more lasting Trade than the other which the Present War alone occasions.

John Wilkinson at James Watt, Awst 3ydd 1779

Ymerodraeth Wilkinson – Y Byd Ehangach

Roedd busnes John Wilkinson yn ddibynnol ar ddigwyddiadau yn y byd ehangach. Cynyddodd rhyfeloedd y galw am arfau, ond rhwystrodd fasnach allforio.

Meistrolodd sgiliau gwneud gynnau mawr ac adeiladodd fusnes ei waith haearn llwyddiannus cyntaf yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-63). Cynyddodd Rhyfel Annibyniaeth America (1775-83) y galw ymhellach fyth. Ehangodd y Llynges Frenhinol ei fflyd a Wilkinson oedd cyflenwr blaenaf gynnau mawr ar longau.

Enillodd enw da Wilkinson yn y fasnach haearn gwsmeriaid tramor iddo. Gofynnodd Monsieur Périer i Wilkinson gyflenwi pibelli dŵr a pheiriannau pwmpio ar gyfer ei waith dŵr newydd ym Mharis. Roedd yn gontract anferth a ddaeth â llawer o drafferth i Wilkinson: bygythiodd môr-ladron ei longau, cymrodd press gang y Llynges Frenhinol ei forwyr ac roedd trwyddedau allforio’r Llywodraeth yn anodd eu cael.

Roedd unrhyw fasnach â Ffrainc yn beryglus ar adeg rhyfel. Camgymrodd siopwr o Swydd Amwythig “silindrau o’r trwch mwyaf anghyffredin” am wn mawr a hysbysodd Wilkinson i’r Llywodraeth am werthu arfau i’r gelyn. Cliriwyd Wilkinson maes o law gan ymchwilwyr y Tollau.

This curs’d war will be the ruin of the Engine Branch in France. I see nothing but expense and difficulty on every side. While the Impress Act attracts by sea – the Militia Bill operates by land.

John Wilkinson, Y Bers, Gorfennaf 2ail 1779


Bwrw Ymlaen

Cymrodd John Wilkinson awenau Gwaith Haearn y Bers yn 1763, gyda’i frawd William fel isbartner a rheolwr. Ar y dechrau, aeth y gwaith haearn ymlaen fel cynt.

Yn ystod y 1770au a’r 1780au cafodd Wilkinson fwy a mwy o archebion am rannau gynnau mawr a pheiriannau. Gan adeiladu ar welliannau ei dad i’r gwaith haearn, gallodd John ymestyn i’r de ac agor gwaith haearn newydd yn nwyrain y safle hwn. Yn ystod y cyfnod hwn yr adeiladodd felin dyllu newydd, ffwrneisi aer, ffowndri gynnau mawr wythonglog, a chyfres o fythynnod i’w weithlu. Sefydlodd felin rolio yma hefyd lle cynhyrchwyd bwyleri ar gyfer y peiriannau stêm newydd.

Cafodd Gwaith Haearn y Bers archebion am ei gynhyrchion haearn bwrw o bob rhan o Brydain. Anfonodd Wilkinson nwyddau i Gaer i’w llwytho ar longau, ac i Prestonbrook i’w trosglwyddo ar y camlesi. Roedd Gwaith Haearn y Bers yn gweithredu bedair awr ar hugain, ond roedd yn dal i’w chael yn anodd ateb galwadau ei gwsmeriaid. Yn 1792 prynodd Wilkinson ystâd Brymbo lle gallodd sefydlu gwaith haearn modern o ddim gyda’i gyflenwadau ei hun o lo a haearn ar y safle. Y gwaith newydd oedd dechrau dirywiad y Bers.

The lease from Mr Myddelton comprehends the Cylinder and Gun Foundrys. The Boring Mill at the Place call’d the Rolling Mill and where we make Boylers, about 40 workmen’s houses and the waterworks secured so as to need very few repairs. As to Bersham old furnace: There are Two Wheels – one of which we bore at, the other is for the Joiner & Turners Shops. Mr Turner, Mr Gilpin, Abraham Storey & John Clayton, moulder, have their houses and gardens upon this part. The counting house, stables and twenty acres of good land.

William Wilkinson, llythyr i James Watt y mab, 1796

Tynnodd John Westaway Rowe fraslun o Waith Haearn y Bers c. 1780. Dychmygwch eich bod ar y ffordd ddeuol (A483) ac yn edrych i fyny’r dyffryn.  Dyma beth fyddech wedi ei weld.

Gwaith Haearn y Bers – y safle gorllewinol – gweler fersiwn mawr
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam

Tynnodd John Westaway Rowe fraslun o’r gwaith haearn dwyreiniol yn ei ddyddiau gorau.  Mae’n anodd bod yn sicr ynghylch defnydd yr holl adeiladau yn y llun.  Fodd bynnag, mae’r llun yn cynnwys:

Mae’r olygfa’n edrych o’r gogledd i’r de o le mae’r adeilad hwn yn sefyll heddiw. 

Gwaith Haearn y Bers – yr ochr ddwyreiniol – gweler fersiwn mawr
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam

Gwaith Haearn y Bers – yr ochr ddwyreiniol – gweler fersiwn mawr
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam

Teimladau Drwg

ymudodd William Wilkinson i Ffrainc yn 1777 ar wahoddiad Llywodraeth Ffrainc. Moderneiddiodd y Waith Haearn y Wladwriaeth yn L’Indret (ger Nantes), sefydlodd waith haearn newydd a ffowndri gynnau mawr yn Le Creusot (Bwrgwyn), gweithredodd fel ymgynghorydd gwaith haearn yn yr Almaen a Llychlyn, a gwnaeth ei hun yn ddyn cyfoethog.

Ar ôl dychwelyd i’r Bers yn union cyn y Chwyldro Ffrengig, aeth yn ddrwg rhwng William a’i frawd hŷn, John, dros arian a rheoli’r busnes. Teimlai William nad oedd wedi cael ei gyfran o’r elw. Aeth yr anghydfod yn chwerw am na wnâi’r naill na’r llall ildio. Rhwystrodd John ei frawd William rhag gweld y cyfrifon, gwaharddodd ef o’i fenter newydd ym Mrymbo ac ataliodd gynhyrchu yn y Bers.

Yn 1795 aeth yr anghydfod at ganolwr, ni fynnai’r ddau frawd fod yn yr un ystafell a chytunwyd i werthu Gwaith Haearn y Bers fel y gallai William gael ei ran ef o’r busnes. Ceisiodd William brynu’r gwaith, ond gwrthododd Boulton a Watt ei gefnogi’n ariannol. Prynodd John Wilkinson y gwaith, talodd £10,650 i’w frawd am ei gyfran, a symudodd yr offer o’r gwaith dwyreiniol i fyny i Frymbo.

Dialodd William ar ôl chwerwi. Dywedodd wrth James Watt y mab fod John wedi bod yn gwerthu fersiynau anghyfreithlon o beiriannau stêm Watt ac wedi bod yn pocedu’r breindaliadau ei hun. Aeth William mor bell â dangos y peiriannau anghyfreithlon i James Watt y mab yng ngwaith Brymbo pan oedd John i ffwrdd ar fusnes. Gofynnodd Boulton a Watt i John am y breindaliadau. Daeth y cyfeillgarwch hir rhwng y tri dyn i ben a bu raid i John dalu £4,425 i Boulton a Watt er mwyn osgoi cyhuddiadau o ladrad. Yn y cyfamser roedd William yn lledaenu clecs fwyfwy milain am ei frawd ac, yn ddirgel, anogodd weithwyr medrus i adael y Bers a Brymbo i weithio yn ffowndri newydd Boulton a Watt ym Mirmingham.

Ni ailgymodwyd William a John fyth wedyn.


‘The End of Bersham Ironworks’

“William Wilkinson collected a great number of men in the town of Wrexham in Wales, and marched with them to the large ironworks at Bersham, and there, with sledge hammer and other instruments, began to break up the expensive machinery. On intelligence of this reaching John Wilkinson, he collected a still greater number of men and followed exactly his brother’s example, so that in a very short time the famous Bersham Ironworks became a great wreck, each brother appropriating to himself as much of the spoil as came within his reach.”

Stori a ysgrifennwyd gan James Stockdale yn 1872

I was at Bersham three days ago… All the mills in the meadows are completely dismantled. The axe and saw with a number of horses have been fully employed these 3 weeks in pulling all to pieces.

William Wilkinson ar ei frawd yn chwalu Gwaith Haearn y Bers, llythyr at James Watt y mab, Ionawr 3ydd 1798


Talog Tu Hwnt

Un o ddynion ei oes oedd John Wilkinson. Cefnogai’r delfrydau wrth wraidd y Chwyldro Ffrengig a Datganiad Annibyniaeth America. Gwrthwynebai rym yr Eglwys a’r Goron. Roedd y gysylltiedig â’r Lunar Society (grŵp o ddiwydianwyr a meddylwyr o Ganolbarth Lloegr oedd y Lunar Society oedd yn cyfarfod i drafod gwyddoniaeth, diwydiant, celfyddyd, meddygaeth a gwleidyddiaeth) ac yn gyfaill agos i Joseph Priestley, y cemegydd a meddyliwr gwleidyddol. Cynorthwyodd Priestley ar ôl i dorf ‘eglwys a brenin’ ddinistrio ei dy a’i labordy ym Mirmingham yn 1791. Gosododd Wilkinson ynnau yma yn y Bers ac yn ei waith haearn yn Swydd Stafford gan ei fod yn ofni y byddai ei gredau chwyldroadol yn ei wneud yn darged y dorf hefyd.

Gyda’i lysenw ‘Iron Mad Jack’, roedd Wilkinson wedi gwirioni ar haearn a’i ddefnyddiau posibl. Yn 1787 er syndod y lliaws amheuwyr, lansiodd gwch haearn. Lluniwyd y cwch i gludo nwyddau ar gamlesi ac roedd o flaen ei oes. Adeiladodd gapel haearn hefyd a phulpud haearn ynddo. Ni fyddai marwolaeth hyd yn oed yn ei wahanu o’i annwyl fetel ac roedd wedi gwneud arch haearn iddo’i hun.

Ei docynnau sy’n crynhoi ei gymeriad orau. Ar un ochr roeddent yn rhoi lle amlwg i forthwylion gefail ac einionau, tra’r oedd ei broffil ar yr ochr llall. Ef oedd yr unig ddyn cyffredin i ymddangos ar unrhyw ddarn arian Prydeinig yn y ddeunawfed ganrif.

Manufacture and Commerce will always flourish where Church and King interfere least.

John Wilkinson

Tocyn arian John Wilkinson.
© Amgueddfa Cymru

Cyhoeddodd Wilkinson ei docynnau ei hun o 1787 ymlaen gan fod darnau arian yn brin. Fe’u gwnaed yn ffatri Matthew Boulton, a defnyddiodd Wilkinson y tocynnau i dalu ei weithlu. Cyhoeddodd lledr, docynnau copr ac arian, yn ogystal â phapurau gini. Cadwyd y tocynnau yn ei dŷ cyfrif yn y Bers. Gwnaeth ffugwyr a sylwebyddion hwyl am ben Wilkinson am roi ei wyneb ei hun ar ei docynnau.

John Wilkinson – Ei Effaith a’i Etifeddiaeth

Roedd John Wilkinson yn un o ffigurau arweiniol y Chwyldro Diwydiannol. Ei beiriant tyllu wnaeth y silindrau manwl gywir a roddodd fywyd i beiriant stêm Watt. Gyda’i gefnogaeth, lluniodd James Watt y peiriant stêm cyntaf oedd yn gallu gyrru peiriannau. Gallai diwydiant dorri’n rhydd o’i ddibyniaeth ar nerth dŵr a bod yn agos at ei ddeunyddiau crai neu farchnadoedd.

Cafodd Wilkinson batent ar ei ddyfeisiau ei hun: melin rolio stêm a ffwrnais grom i wneud darnau bwrw o safon. Cynorthwyodd ei ddisgleirdeb wrth wneud rhannau o beiriannau fecaneiddio’r diwydiannau a wnaeth Brydain y grym diwydiannol arweiniol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y cyfamser, oherwydd ei beiriant tyllu a’i fedr wrth rigoli cafodd y Llynges Frenhinol y gynnau mawr mwyaf manwl gywir yn y byd.

Archwiliodd Wilkinson dechnegau newydd i wneud haearn tan ei farwolaeth yn 1808. Claddwyd ef mewn arch haearn dan obelisg haearn yng Nghymbria. Gwrthwynebodd ei nai ewyllys Wilkinson oedd yn gadael y busnes dan ymddiried i’w feistres, Anne Lewis, a’u tri o blant. Yn 1823 penderfynodd Llys Siawnsri, ar ôl pymtheng mlynedd o ymgecru cyfreithiol, o blaid Anne a’r un ymddiriedolwr ffyddlon, James Adams.

Yn y cyfamser roedd y busnes wedi dioddef: caeodd Gwaith Haearn y Bers yn 1812. Dim ond Gwaith Haearn Brymbo aeth ag uchelgeisiau Wilkinson, brenin y meistri haearn, ymlaen i’r dyfodol.

The cylinder and the fitting of the piston were beyond my most sanguine hopes. It seemed to be truth itself.

James Watt ar bwysigrwydd silindrau Wilkinson iw beiriant stm.

Model o felin dyllu John Wilkinson 1775.
© Science & Society Picture Library
Model o felin dyllu John Wilkinson 1775.
© Science & Society Picture Library
Cedwir pob hawl