Mae prif atyniadau ymweliad â Gwaith Haearn y Bers yn cynnwys gweddillion cloddiedig y ffwrnais chwyth gyntaf yng Ngogledd Cymru i doddi haearn gan ddefnyddio golosg, lôn wagen 18fed Ganrif unigryw sydd wedi goroesi, a ddefnyddiwyd i gludo defnyddiau crai i'r gwaith ac offer ac eitemau personol a ddarganfuwyd yn ystod y cloddio archeolegol. Mae arddangosfeydd yn adrodd stori'r Gwaith Haearn ac mae cyflwyniad golau a sain yn ailgreu diwrnod gwaith nodweddiadol gweithiwr ffowndri y 18fed Ganrif.
Manylion CyswlltCanolfan Treftadaeth Y Bers
Y Bers
Wrecsam
LL14 4HT
Ffôn: 01978 318 970
Ffacs: 01978 318 971
Ebost: bershamheritage@wrexham.gov.uk