Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Gwaith Haearn y Bers - Y Blynyddoedd Cynnar

Roedd gwaith haearn yn y Bers ynghanol yr ail ganrif ar bymtheg.

Roedd y Bers mewn lle gwych i wneud haearn. Roedd ar y meistr haearn angen carreg haearn, siarcol, carreg galch a nerth dŵr. Yn y ddeunawfed ganrif roedd arno angen glo yn ogystal. Roedd y cyfan ar gael gerllaw:

Roedd marchnad gynyddol hefyd am nwyddau haearn yn Wrecsam a Chaer.

Tocyn John Wilkinson
© Canolfan Dreftadaeth Y Bers

Adeiladodd Charles Lloyd, cyfaill i Abraham Darby o Coalbrookdale (Abraham Darby oedd y meistr haearn enwog o Swydd Amwythig. Arloesodd gynhyrchu haearn gan ddefnyddio glo colsio – digwyddiad allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol), ffwrnais chwyth yma tua1717 i gyflenwi gefail Pont y Blew yn y Waun. Yn y 1730au dechreuodd meistri haearn y Bers wneud nwyddau haearn bwrw fel potiau coginio, ond roedd problemau. Roedd costau nwyddau crai’n codi, roedd pris haearn yn amrywio ac roedd yn anodd gwneud haearn bwrw. Methodd meistri haearn un ar ôl y llall.

Yn 1753, cymrodd Isaac Wilkinson, meistr haearn a dyfeisydd o ogledd Lloegr, yn awyddus i gael hyd i waith haearn gyda gobeithion, awenau Gwaith Haearn y Bers. Ehangodd y gwaith a gwnaeth botiau, pibelli, rholwyr, ac arfau, ond roedd ef hefyd mewn trafferthion ariannol erbyn 1761. Roedd ei fab, John Wilkinson, yn fwy llwyddiannus.

'I understood Bersham Furnace ceased this day blowing with charcoal and went on blowing with coakes for potting.'

O ddyddiadur John Kelsall, Rhagfyr 3ydd 1721.