|
'Tref ffasiynol fethiannus', gyda llai na 3000 o drigolion, oedd Wrecsam yn 1800. Erbyn 1900, roedd hi'n 'ganolfan fasnachol a oedd wedi gwella ac yn parhau i wella', gyda phoblogaeth o dros 15,000. Roedd hi'n ganrif o newidiadau ac roedd yr hen arferion dan fygythiad.
Roedd llawer o broblemau'n wynebu Wrecsam: tlodi, budreddi echrydus, troseddau, a strydoedd mwdlyd ac anwastad. Daliodd y Llysoedd Maenorol a Warden Eglwys y Plwyf ati i ymlafnio, ond nid oedd ganddynt mo'r pwer na'r modd i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
Y bygythiad o golera yn 1849 oedd yr ergyd olaf. Gwnaeth y dref gais am Siartr Gorffori - i greu Cyngor Bwrdeistref. Bu cryn ddadlau. Yn ôl y gwrthwynebwyr, byddai'n costio'n ddrud i'r dref. Ym mis Medi 1857 rhoddwyd statws Bwrdeistref i Wrecsam.
| "... Clerc y Dref i hysbysebu am grïwr tref a fydd yn derbyn cyflog o 20 swllt, ac ar Ddydd Gwyl Dewi bob blwyddyn rhoddir côt lifrai a het blethedig â band aur iddo." |
Dewiswyd 12 cynghorydd gan y 646 bwrdeisiwr - pobl â'r hawl i bleidleisio. Roedd dwy blaid: y Gwynion (y Rhyddfrydwyr) a'r Cochion (y Ceidwadwyr). Yna dewisodd y Cynghorwyr 4 henadur. O'r diwedd, roedd rhywun yn gyfrifol am Wrecsam gyfan - roedd llawer o waith i'w wneud.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|