Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Bragwyr a Bractai

 

Roedd Wrecsam yn enwog am ei chwrw ers y canol oesoedd. Roedd gan y dref gyflenwadau dwr tanddaearol da ac roedd dwr da yn golygu cwrw da. Yn y 19eg ganrif, roedd gan y bragwyr a'r bractai le blaenllaw yn Wrecsam. Erbyn y 1860au roedd 19 o fractai yn y dref. Roedd gan y bragwyr swyddi mewn awdurdod; gwnaeth dau ohonynt, Thomas Rowland a Peter Walker, hyd yn oed ffraeo am bwy ddylai fod yn Faer.

Llun hanes o Wrexham Lager ar y trên

Roedd y bractai yng nghanol y dref, wedi'u lleoli ar hyd Afon Gwenfro. Yr un enwocaf oedd Bracty Wrexham Lager. Fe'i sefydlwyd yn 1882, a hwn oedd bracty lager llwyddiannus cyntaf Prydain. Sefydlwyd y bracty gan grwp o fewnfudwyr Almaenig a gwnaeth Almaenwr arall, Robert Graesser, ei gwrw lager yn enwog drwy'r byd.

" rhaid ystyried bod ymwelydd sy'n mynd trwy Wrecsam heb flasu cwrw cartref y Nag's Head wedi methu yn ei ddyletswydd pennaf ac amlycaf, ac yn greadur hynod iawn"

 

Ymhellach i lawr yr afon roedd Bracty Soames. Yn nhaith Alfred Barnard o fractai Prydain yn 1892, dewiswyd Soames fel y bracty a gynhyrchai cwrw gorau Wrecsam.

Roedd yr 20fed ganrif yn anodd i fractai Wrecsam. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, bu'n rhaid i Fracty Soames ymuno â dau wrthwynebydd lleol i ffurfio Border Breweries er mwyn goroesi. O ganlyniad i resymoli a'r newid yn chwaeth pobl, caewyd Border Breweries yn 1984 a Bracty Wrexham Lager yn 2000.

Cysylltiadau Perthnasol

GweCamerau Byw o Wrecsam

Canolfan Croeso

Taith Ar-Lein

Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam

Treftadaeth |  Archifau |   Pobl Enwog |  Astudiaethau Lleol

 

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Stori'r Dref Fawr
Twf Wrecsam
Diogelwch
Iechyd Da
Cludiant
Tref Farchnad
Prysurdeb Diwyddiannol
Bragwyr a Bractai
Dysgu
Adloniant
Chwaraeon
Y Tlawd a'r Cyfoethog
Map Rhyngweithiad
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint