|
Yn anaml iawn y byddai anghymeradwyaeth grefyddol yn llesteirio agwedd y bobl leol tuag at adloniant. Roedd Ffair Fawrth yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn ac ar Ddydd Llun Pawb byddai'r strydoedd dan eu sang a'r Beast Market yn llawn o sioeau ffair. Roedd ymladd ceiliogod a phoenydio teirw'n dal i fod yn ffasiynol ddechrau'r 19eg ganrif, ond roedd chwaeth pobl Wrecsam yn newid.
Yn 1818, adeiladodd Thomas Penson theatr gyntaf y dref ger y Beast Market. Byddai George Stanton, y rheolwr, yn denu'r cwmnïau teithio gorau ac, yn anffodus, denai gynulleidfaoedd swnllyd hefyd. Cynyddodd y galw am adloniant ac yn 1873 agorwyd y Neuadd Gyhoeddus ar Stryt Henblas fel y lleoliad ar gyfer sioeau amrywiaethol. Agorwyd y Glynn ger Stryt y Lampint yn 1910 fel sinema gyntaf y dref, ond yn yr Hippodrome, yn 1926, darlledwyd y ffilm lafar gyntaf.
Byddai pobl Wrecsam yn creu eu hadloniant eu hunain hefyd. Trefnai Ross a Constance Wallis a Walter Roberts sioeau a phantomeimiau, a wnâi'n siwr fod y dref yn cadw i chwerthin yn ystod pedwar degawd cyntaf y 20fed ganrif. Yn ogystal â chodi gwên, codont filoedd o bunnoedd i elusennau lleol. Mewn mannau eraill, ffurfiwyd y Grove Park Little Theatre gan amaturiaid lleol, a threuliwyd llawer o oriau difyr yn y Joy Centre ar Ffordd Helyg ac mewn dawnsfeydd yng Nghwt Bodhyfryd, Ty'r Eglwys a Sefydliad y Glowyr.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|