|
Wrecsam yn 1833 - tref â 5,500 o bobl. Dim ond i Lwyn Isaf estynnai'r dref tua'r gogledd, i'r dwyrain estynnai cyn belled â'r Beast Market (Cilgant Sant Siôr bellach) ac i'r gorllewin estynnai cyn belled â Stryt y Brenin. I'r de o San Silyn, lleolwyd diwydiannau'r dref ger Afon Gwenfro. Plasty yn y wlad oedd Y Werddon gan fod ffiniau'r dref ym Mhentrefelin a Phen y Bryn. I'r dwyrain, ffermydd a Dôl yr Eryrod oedd y tu hwnt i Stryt y Bryn a Stryt Sir Amwythig.
O ganlyniad i boblogaeth gynyddol Wrecsam a disgwyliadau cynyddol ei thrigolion, ehangodd y dref. Roedd y tai'n amrywio. Roedd filas ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar hyd Ffordd Grosvenor ac ym Mharc y Gelli. Roedd closydd cyfyng ar hyd Stryt y Nant, neu dai teras gwell yn Newtown ger Ffordd Bradley, ar gyfer y gweithwyr.
Gofynnwyd i'r cynlluniwr tref uchel ei barch, Patrick Abercrombie, gynllunio twf Wrecsam yn 1918. Garden Village, Parc Acton, Spring Lodge ac yn ddiweddarach yn y 1950au, Queen's Park, oedd yr ymatebion beiddgar i anghenion tai Wrecsam yn yr 20fed ganrif. Mae'r gwaith datblygu yn parhau i fynd rhagddo, ond heb y ddelfrydiaeth a gafwyd yn ystod y blynyddoedd wedi'r rhyfel.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|