|
Gwella iechyd trigolion Wrecsam yn y 19eg ganrif oedd her fwyaf y dref. Roedd draeniau agored, tomenni drewllyd a ffatrïoedd nwy bytheiriol i gyd yn beryglus i iechyd. Yn ôl Arolygydd o'r Bwrdd Iechyd yn 1849, "mae carthbyllau a chytiau moch y bythynnod ymhlith peryglon pennaf Wrecsam."
Ymgyrchodd George Cunliffe, Ficer Wrecsam, a'i Bwyllgor Iechyd o blaid newidiadau. O'r 1860au daeth y Gorfforaeth a Chwmni Dwr Wrecsam â dwr glân a charthffosiaeth briodol i'r dref. O ganlyniad, erbyn 1900 hanerwyd nifer y rhai a fu farw yn y dref.
Yn 1833, agorodd Thomas Taylor Griffiths, meddyg a dyngarwr, fferyllfa gyntaf Wrecsam ar Stryt Yorke. Yn fuan wedyn, dechreuwyd codi arian er mwyn adeiladu ysbyty pwrpasol. Agorwyd Clafdy Wrecsam, sydd bellach yn Goleg Celf, yn 1839. Trwy gyfuniad o danysgrifiadau gweithwyr, noddwyr cefnog a digwyddiadau elusennol, llwyddwyd i dalu am ystafell lawdriniaeth yn 1862 a ward glefydau yn 1866.
Yn 1918, penderfynodd pobl Wrecsam goffau'r rhai a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy adeiladu Ysbyty Goffa Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych, sef Coleg Iâl erbyn heddiw. Mae eu traddodiad o godi arian yn parhau hyd heddiw.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|