Wrecsam - Stori'r Dref Fawr

Mae'r arddangosfa ddiweddaraf "Wrecsam - Stori'r Dref Fawr" sydd i'w gweld yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn archwilio hanes Wrecsam yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf. Yn y cyfnod hwn mae Wrecsam wedi datblygu o fod yn 'dref foneddigaidd wedi dadfeilio" gyda llai na 3000 o bobl, i dref y gellir hawlio ei bod yn brif ddinas gogledd Cymru.

Yn yr arddangosfa gellwch ddarganfod pam ddaeth Wrecsam yn fwrdeistref, sut mae'r dref wedi ehangu, yr ymdrech i wella iechyd a diogelwch dinasyddion, pwysigrwydd marchnadoedd Wrecsam, twf diwydiant lleol a chludiant, y newidiadau i ysgolion y dref, sut y defnyddia pobl eu hamser rhydd a'r rhaniad rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa yn codi blys arnoch i ganfod mwy am y dref hanesyddol Gymreig hon.

Dyma'r arddangosfa gyntaf yn yr amgueddfa sy'n cwmpasu'n gyflawn y 200 mlynedd diwethaf o hanes Wrecsam gan gynnwys sawl eitem o gasgliadau'r amgueddfa sydd heb eu gweld o'r blaen. Mae hefyd sawl gweithgaredd yn yr arddangosfa ar gyfer plant er mwyn eu cynorthwyo i ddeall hanes eu tref leol. Efallai y bydd oedolion yn eu mwynhau hefyd.

Llun hanes Y Stryt Fawr, Wrecsam
 
Llun hanes o gweithiwr arfau rhyfel, Gwaith Cambrian Powell
 
     
Llun hanes o Stryt yr Hb
 
Llun hanes o faniau dosbarthu Bragdy Wrexham Lager
 
     
Llun hanes o Heddlu Wrecsam y tu allan i Adeiladau'r Sir, Stryt y Rhaglaw
 
Llun hanes o Ysgol Sirol Parc y Gelli i Fechgyn, Wrecsam
 
     
Llun hanes o Ysbyty Clafdy Wrecsam, Stryt y Rhaglaw
 
Llun hanes y syrcas yn dod i'r dref, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam
 
     
Llun hanes o bysiau Wrecsam - y dyddiau cynnar
 
Llun hanes o tim Polo Wrecsam, Baddon Stryt y Twtil
 
     
Llun hanes o Armstrongs, Siop Ddillad Dynion, Stryt y Bont
 
Llun hanes o deulu nodweddiadol canol dosbarth yn Wrecsam
 
     
Llun o Map Rhyngweithiad - Y Stori'r Dref Fawr
 

Am wybodaeth bellach cysylltwch yr amgueddfa.

Cysylltiadau Perthnasol

GweCamerau Byw o Wrecsam

Canolfan Croeso

Taith Ar-Lein

Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam

Treftadaeth |  Archifau |   Pobl Enwog |  Astudiaethau Lleol

yn ôl i'r brig