|
Gofaint a gwifrweithwyr; seiri pres a gweithwyr tunplat; cyweirwyr a gwerthwyr crwyn; trinwyr a gwerthwyr lledr - roedd gan bob un ohonynt weithdai yn Wrecsam lle'r oeddent yn agos at eu cyflenwyr a'u marchnadoedd. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth y gweithdai llwyddiannus yn ffatrïoedd mawr. Cynhyrchai Gwaith Haearn Cambriaidd Powell Bros & Whitaker ger yr orsaf reilffordd, beiriannau ac injans fferm, arfau rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a beiciau modur yn ddiweddarach. Roedd cysylltiad y tanerdai ag Afon Gwenfro yn cael ei barhau gan y Gwaith Lledr Cambriaidd ger Ffordd Sir Amwythig a Gwaith Lledr Hugh Price a'r Cwmni ger Stryt y Bont, a Phentrefelin yn ddiweddarach.
Nid oedd y diwydiannau cartref eraill mor ffyniannus. Y cyfan a adawyd ar ôl gan y gwehyddwyr oedd yr enw Sgwâr y Deinturau, ger Pen y Bryn, yn agos at Faes y Deinturau lle'r oeddent yn arfer ymestyn eu brethynnau gwlân a lliain.
Roedd Wrecsam yn gwerthfawrogi ei diwydiannau. Roedd Arddangosfa Celf a Diwydiant Wrecsam yn 1876, a gynhaliwyd ar dir rhwng Stryt yr Hôb a Ffordd Rhosddu, yn arwydd o uchelgais y dref i fod yn un o ganolfannau diwydiannol mawr yr Ymerodraeth Brydeinig. Drwy newid y Ffatri Ordnans Frenhinol ym Marchwiel yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sicrhawyd bod Wrecsam yn parhau i fod yn ganolfan fasnachol a diwydiannol hyd heddiw.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|