"Nid yw'r athro erioed wedi'i hyfforddi i ddysgu, mae'r arolygwyr yn ddi-glem a'r plant yn anwybodus"
Barn y Comisiwn Brenhinol i Gyflwr Addysg yng Nghymru, 1847 am yr Ysgol Wesleaidd, Wrecsam |
Amrywiai safon yr addysg yn fawr yn Wrecsam yn y 19eg ganrif. Yr unig ysgolion i'w canmol gan y Comisiynwyr Brenhinol ffiaidd oedd yr Ysgol Brydeinig ar Stryt y Nant - "ysgol er mwyn dysgu plant y dosbarth gweithiol a diwydiannol a'r dosbarthiadau tlawd eraill" - a'r Ysgol Ramadeg. Nid oedd unrhyw fath o addysg yn rhad ac am ddim a dim ond y lleiafrif cefnog allai fforddio anfon eu plant i sefydliad James Jackson, sef y Groves Academy ym Mharc y Gelli.
Chwaraeai crefydd ran bwysig. Cefnogai'r Eglwys yr Ysgol Genedlaethol ger y Beast Market, tra bo'r Ysgol Brydeinig ar Stryt y Nant ar gyfer yr Ymneilltuwyr. Yn 1871, crëwyd Bwrdd Ysgolion Lleol i oruchwylio ysgolion iau, ond parhaodd y cystadlu crefyddol.

Roedd disgwyliadau Bwrdd yr Ysgolion yn uwch. Yn 1882, condemniodd y Bwrdd yr Ysgol Genedlaethol fel un druenus ac o ganlyniad symudodd yr ysgol i adeiladau newydd ar Madeira Hill yn 1885. Agorodd Ysgol Sirol Grove Park i Fechgyn yn 1895 ac ar gyfer y merched flwyddyn yn ddiweddarach. Yn 1901, symudodd yr Ysgol Brydeinig i adeiladau newydd - Ysgol Bwrdd Fictoria ar Stryt Poyser.
Ffynnodd addysg yn Wrecsam yn yr 20fed ganrif pan agorwyd Sefydliad Technegol Sir Ddinbych, sef NEWI heddiw; Coleg Cartrefle - y coleg hyfforddi athrawon i ferched, ar ôl y rhyfel; Ysgol Morgan Llwyd - ysgol cyfrwng Cymraeg uwchradd gyntaf Wrecsam, a Choleg Iâl - coleg chweched dosbarth Wrecsam. Darlun gwahanol iawn i Frad y Llyfrau Gleision, fel y gelwir yr adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd yn 1847.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|