-
Llwyn Isaf
Y parc cyhoeddus hwn yw'r unig beth sydd ar ôl o erddi Llwyn Isaf, cartref gweinidog Wrecsam rhwng 1875 a 1950. Dymchwelwyd y ficerdy i greu lle ar gyfer Neuadd y Dref.
-
Beast Market
Cartref marchnad hanesyddol Wrecsam. Gwerthwyd gwartheg a defaid yma o'r oes ganoloesol tan yr 20fed ganrif. Cynhaliwyd y Ffair Fawrth flynyddol yma hefyd.
-
Stryt y Marchog
Wedi ei henwi ar ôl ty mawr a oedd yn sefyll i'r de. Eiddo hanesyddol a nodir mewn cofnodion mor gynnar â 1391. Dymchwelwyd ef i wneud lle ar gyfer rheilffordd Wrecsam - Ellesmere.
-
Dôl yr Eryrod
Dôl ar ymyl Wrecsam. Defnyddiwyd hi fel maes hamdden a man clymu ceffylau tra bod eu perchnogion yn y Ffair Fawrth neu'r arwerthiannau yn y Storfa Geffylau gerllaw. Arhosodd milwyr o UDA yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nawr yn faes parcio.
-
Sefydliad y Glowyr
Yn dal ar agor fel clwb cymdeithasol i hen lowyr a weithiodd yn y pyllau glo lleol, a'u ffrindiau.
-
Ffordd Parc y Gelli
Hwn oedd y datblygiad tai neilltuedig yn y 19eg ganrif hwyr yn Wrecsam.
-
Newtown
Adeiladwyd yr ardal hon yn y 19eg ganrif hwyr. Cynigiodd dai teras o ansawdd i weithwyr Wrecsam. Gwelliant mawr ar y 'llysoedd' ger Glan yr Afon.
-
Garden Village
Cynllun tai dyfeisgar yng ngogledd Wrecsam. Y bwriad oedd creu amgylchedd iach ar gyfer y preswylwyr. Rhwystrodd Dirwasgiad mawr cwblhau'r cynllun.
-
Parc Acton
Tir Llys Acton yn wreiddiol, cartref hanesyddol y teuluoedd Jeffreys a Cunliffe. Y Jeffreys enwocaf oedd y Barnwr Jeffreys, y barnwr a ddedfrydodd sawl un i farwolaeth yn dilyn gwrthryfel Monmouth yn erbyn y Brenin James II yn 1685. Roedd y teulu Cunliffe yn deulu cyfoethog a fu'n byw yn Llys Acton yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Dymchwelwyd y ty rhwng 1955 a 1956.
-
Queen's Park
Datblygiad tai wedi'r rhyfel a oedd yn fan eitha'r grefft bryd hynny.
-
Fferyllfa Thomas Griffith
Agorodd Thomas Griffith yr enghraifft gynnar hon o feddygfa a fferyllfa ar Stryt Yorke yn 1833. Roedd ar gyfer pobl a oedd yn rhy dlawd i dalu am eu meddyg eu hunain ond nid mor dlawd i fod yn y tloty.
-
Clafdy Wrecsam
Agorodd Clafdy Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw yn 1838. Noddodd pobl gyfoethog y clafdy tra roedd gweithwyr yn talu rhywfaint o'u cyflogau i sicrhau gofal meddygol. Mae'r adeilad yn gartref i Goleg Celf a Chynllun NEWI erbyn hyn.
-
Ysbyty Goffa Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych. Safle Academi'r Llwyni hefyd
Cododd pobl Wrecsam yr arian i adeiladu'r Ysbyty Coffa rhwng 1918 a 1927. Talwyd am y ward plant gan bantomeim blynyddol Cwmni Pantomeim Walter Roberts. Bu i'r ysbyty gau yn 1986 ac mae'n gartref i Goleg Iâl nawr. Roedd Academi'r Llwyni yn ysgol breifat yn y 19eg ganrif ar safle adeiladau newydd Coleg Iâl.
-
Neuadd y Dref, Stryt Caer
Cartref gwreiddiol Ysgol Ramadeg Wrecsam, daeth yn fan llywodraeth leol yn 1883. Roedd y Frigâd Dân, llyfrgell am ddim y dref a'r Coleg Celfyddyddau a Gwyddoniaeth yno hefyd. Roedd cerflun o'r Frenhines Victoria tu blaen i Neuadd y Dref. Mae hi ym Mharc Bellevue erbyn hyn. Dymchwelwyd Neuadd y Dref yn y 1970au ac mae nawr yn safle T.J Hughes.
-
The Bridewell, Sgwâr y Deinturwyr
Mae 'bridewell' neu garchar cyntaf Wrecsam yn dyddio o'r 17eg ganrif ac roedd ger Ffordd Sir Amwythig. Roedd y carchar ar Sgwâr y Deinturwyr, ger Pen-y-Bryn, yn adeilad mwy. Dymchwelwyd ef yn y 1980au. Mae 'deinturio' yn cyfeirio at yr arfer o hongian brethynnau allan i sychu, proses o wneud brethyn gwlân a lliain.
-
Tafarn y Plu a Gwesty'r Wynnstay Arms
Dwy dafarn hanesyddol yng nghanol Wrecsam. Mae Tafarn y Plu â stablau ar gyfer 30 ceffyl a cherbytai'n dal yno, er bod y dafarn yn wag erbyn hyn. Mae wyneb y Wynnstay Arms yn dyddio o'r 18fed ganrif gynnar. Mae'r gwesty wedi gweld sawl digwyddiad pwysig yn hanes y dref, gan gynnwys sefydlu Cymdeithas Bêl-Droed Cymru a chyfarfodydd y gymdeithas Jacobitaidd gyfrinachol, Y Cylch.
-
Y Marchnadoedd: Marchnad y Cigyddion, Y Farchnad fenyn (Sgwâr Manceinion gynt) a'r Farchnad Lysiau (Sgwâr Birmingham gynt)
Mae Wrecsam wedi bod yn dref farchnad erioed. Mae ei lleoliad yn berffaith ar gyfer ffermwyr bryniau Cymru a phrynwyr o Sir Gaer a'r tu hwnt. Tan y 19eg ganrif, roedd y marchnadoedd yn denu gwerthwyr teithiol. Yn hwyrach, datblygasant yn farchnadoedd dan do.
-
Gwaith Haearn Cambriaidd
Roedd gwaith haearn Powell Bros & Whittaker drws nesaf i Orsaf Drên Gyffredinol Wrecsam. Roeddent yn gwneud peiriannau fferm. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn ffatri arfau. Wedi'r rhyfel, roeddent yn cynhyrchu beiciau modur. Mae enghraifft brin yn rhan o gasgliad yn Amgueddfa Wrecsam.
-
Gwaith Lledr Cambriaidd
Tyfodd y Gwaith Lledr Cambriaidd o danerdy defaid yn y 18fed ganrif hwyr dan berchnogaeth John Peers. Bu i Charles Rocke a John Meredith Jones ei droi i mewn i fusnes pwysig, ger Ffordd Sir Amwythig, rhwng y 1860au a'r 1880au. Caeodd y gwaith lledr yn 1975.
-
Gwaith Lledr Hugh Price a'r Cwmni, Stryt y Bont, a Phentrefelin yn ddiweddarach
Hugh Price a'i ddisgynyddion oedd yn rhedeg y gwaith lledr hwn. Roeddent yn gwneud lledr, o groen defaid, i'w ddefnyddio ar roleri yn y diwydiant cotwm, esgidiau a hyd yn oed gorchudd rhifyn o'r Encyclopedia Britannica. Eu logo oedd cath a mwnci a'r geiriau "Dal vi os medri" yn Gymraeg.
-
Lleoliad Arddangosfa Celf a Diwydiant Wrecsam
Cynhaliwyd Arddangosfa Celf a Diwydiant Wrecsam yn 1876. Cynhaliwyd hi mewn neuadd enfawr dros dro yn estyn o Stryt yr Hôb (de) i Ffordd Rhosddu (gogledd) a Stryt Egerton (gorllewin) i Stryt Argyle (dwyrain). Y porth ar Stryt yr Hôb oedd prif fynedfa'r arddangosfa a dyma'r unig beth sy'n dal i fodoli o Arddangosfa Fawr Wrecsam.
-
Bragdy Cambrian
Agorwyd ef fel Bragdy Clark ac Orford yng nghanol y 19eg ganrif. Hyfforddodd Peter Walker, sefydlwr Walker Breweries, Tetley Walker yn hwyrach, fel bragwr yma. Dymchwelwyd y bragdy yn 2004 fel rhan o gynllun ailddatblygu.
-
Bragdy Soames
Cyn fragdy hanesyddol islaw Eglwys Blwyf San Silyn. Adnabyddwyd ef yn wreiddiol fel Bragdy'r Nag's Head ac mae tafarn o'r un enw yn dal i fodoli drws nesaf i'r bragdy. Adeiladodd Frederick Soames y bragdy i fod yn gwmni llwyddiannus rhwng 1879 a 1926. Mae'n cael ei drosi i fflatiau a bwyty ar hyn o bryd.
-
Ysgol Genedlaethol, Madeira Hill
Roedd ysgolion cenedlaethol yn ysgolion yr Eglwys yn Lloegr. Roedd yr ysgol wreiddiol ger y Beast Market. Condemiwyd yr ysgol honno. Agorwyd yr ysgol newydd yn yr adeilad cain hwn yn 1885.
-
Ysgol Bwrdd Fictoria, Stryt Poyser
Agorodd yr ysgol yn 1901. Gwnaed medalau cain i ddathlu ei hagoriad. Mae'r maes chwarae ar safle hen dir claddu.
-
Sefydliad Technegol Sir Ddinbych, sef NEWI
Mae'r adeilad hwn ar Ffordd yr Wyddgrug yn enghraifft wych o bensaernïaeth fodern. Mae'r cerfweddau tu allan i'r adeilad yn dathlu'r addysg alwedigaethol y mae'r athrofa'n ei chynnig i'w myfyrwyr.
-
Coleg Cartrefle ac Ysgol Morgan Llwyd heddiw
Adeiladwyd Coleg Cartrefle fel hostel i weithwyr arfau rhyfel yn y Ffatri Ordnans Brenhinol, Marchwiel, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn hwyrach, roedd yn goleg hyfforddi athrawesau. Mae nawr yn safle ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.
-
Cae Ras, Wrecsam
Cartref hanesyddol Clwb Pêl-Droed Wrecsam. Cynhaliwyd y ras geffylau gyntaf yma yn 1807. Parhaodd rasio yno trwy gydol y 19eg ganrif. Defnyddiodd Milwyr Sir Ddinbych ef fel maes hyfforddi hyd nes iddynt symud i Farics Hightown yn 1877.
-
Pwll nofio Stryt y Twtil, gyferbyn â chyn safle Sgwâr Hynafol Sir Efrog
Pwll nofio go iawn cyntaf Wrecsam ar Stryt y Twtil. Mae gan lawer o bobl leol atgofion da o'r pwll nofio. Yn amgylcheddol, roedd yn wych. Roedd llosgydd y dref yn creu'r gwres i gadw'r dwr yn gynnes. Roedd Sgwâr Hynafol Sir Efrog yn ganolfan siopa gynnar a ddefnyddiwyd gan werthwyr brethyn o Swydd Efrog.
-
Ty'r Eglwys, Ffordd Sant Marc
Neuadd Eglwys Sant Marc, ger Stryt y Rhaglaw. Cynhaliwyd yr ymchwiliad swyddogol i drychineb glofa Gresffordd yn yr adeilad hwn. Cymerodd Syr Hartley Shawcross, prif erlynydd Prydain yn nhreialon Nuremburg yn hwyrach, a Syr Stafford Cripps, Canghellor y Trysorlys dan lywodraeth lafur Attlee, ran yn yr ymchwiliad.
-
Y Glynn ger Stryt y Lampint
Honnir mai hon oedd y sinema gyntaf a adeiladwyd i'r pwrpas yng Ngogledd Cymru. Agorodd y Glynn yn 1910. Dyma lle mae swyddfeydd y Cyngor a'r Ganolfan Groeso nawr.
-
Y Neuadd Gyhoeddus ac yn ddiweddarach yr Hippodrome, Stryt Henblas
Agorodd y Neuadd Gyhoeddus ar Stryt Henblas fel neuadd gerddoriaeth ac adloniant ysgafn yn 1873. Dinistrwyd hi gan dân yn 1906. Ailagorwyd hi fel y Ty Opera Newydd a daeth yn Theatr Amrywiaeth yr Hippodrome yn 1913. Dangosodd y ffilm 'talkie' gyntaf (sef ffilm â sain) yn 1929. Caeodd fel sinema yn 1998 ac mae'n aros am ddatblygiad ar hyn o bryd.
-
Plas Acton, a ddymchwelwyd yn 1955-56
Cartref y teulu Cunliffe. Mae'r ty wedi cael hanes amrywiol wedi eu hymadawiad. Prynodd Syr Bernard Oppenheimer y llys yn 1917. Agorodd ffatri deiamwntau a chynllun tyddynnau ar gyfer cyn filwyr. Yn hwyrach, bu i Syr William Aston newid y tir yn barc cyhoeddus. Sefydlodd y Môr-Filwyr Brenhinol a milwyr UDA yn Acton yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ni fu iddynt drin y lle'n dda. Dymchwelwyd y ty'n fuan ar ôl y rhyfel.
-
Erddig
Plasty gwledig godidog a adeiladwyd oddeutu 1680 -1730. Yn gartref i aelodau poblogaidd o'r boneddigion lleol, y teulu Yorke. Rhoddodd Philip Yorke Erddig i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1973. Mewn pleidlais yn ddiweddar, dywedwyd mai Erddig oedd yr ail blasty gwledig gorau ar agor i'r cyhoedd ym Mhrydain.
-
Plas Wynnstay, Rhiwabon
Cartref teulu cyfoethog iawn a gwleidyddol bwysig Williams Wynn o ganol y 18fed ganrif i ganol yr 20fed ganrif. Enwyd cenedlaethau hwyrach yn Syr Watkin. Mae'r ty presennol yn dyddio o'r 19eg ganrif mewn arddull Ffrengig. Gwerthwyd y ty yn 1947 a daeth yn ysgol cyn y troswyd hi'n ddiweddar i fflatiau.
-
Croesnewydd, safle'r cyn wyrcws.
Mae Croesnewydd yn blasty gwledig o'r 17eg ganrif hwyr sy'n dal i sefyll ar ymyl orllewinol Wrecsam. Roedd y wyrcws ger y ffordd i Groesnewydd, yn agos i'r rheilffordd. Pe byddech yn dlawd yn y 19eg ganrif, dyma beth fyddech yn dibynnu arno. Mae'r rhan fwyaf o'r disgrifiadau'n creu darlun diflas iawn.
-
Bragdy Wrexham Lager
Sefydlwyd bragdy enwog Wrexham Lager gan fewnfudwyr o'r Almaen yn 1882. Achubodd Robert Graesser y cwmni yn 1892 a daeth yn fragdy enwog dros y byd i gyd. Dyma'r bragdy lager llwyddiannus cyntaf ym Mhrydain. Rheolodd y Graessers a'u prif fragwyr Almaenig y bragdy tan 1949. Caeodd y bragdy yn 2000. Dim ond y bragdy gwreiddiol sy'n dal i sefyll wedi gwaith dymchwel yn 2002-03.
-
Gorsaf Heddlu, Adeiladau'r Sir, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam heddiw
Agorodd yr adeilad hwn ar Stryt y Rhaglaw fel Barics Milwyr Sir Ddinbych yn 1857. Yn 1879, roedd yn orsaf heddlu a llys y dref. Roedd dwy ystafell lys a chelloedd. Mae'r buarth ymarfer ar gyfer carcharorion yn dal yno gyda'i waliau uchel iawn i atal unrhyw un rhag dianc.
-
Gorsaf Drên Gyffredinol Wrecsam
Adeiladwyd yr orsaf drên gyntaf ar gyfer rheilffordd Amwythig a Chaer yn unol â chynllun gan Thomas Penson, pensaer lleol. Mae adeilad presennol yr orsaf yn dyddio o oddeutu 1882.
-
Parc Bellevue
Parc cyhoeddus cyntaf Wrecsam, a elwir yn Y Parciau hefyd. Sefydlwyd ef fel parc yn y 1910au a dyma leoliad Eisteddfod Genedlaethol 1933. Ailwampiwyd y parc yn ddiweddar a chynhelir sawl digwyddiad cymunedol yno.
-
Eglwys Plwyf San Silyn
Yn bendant yr adeilad hanesyddol pwysicaf ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae'r eglwys fendigedig hon yn enghraifft o bensaernïaeth ganoloesol babyddol. Mae tu mewn nenfwd canol yr eglwys, ei ffenestri gwydr lliw rhagorol, y wal ganoloesol uwchben arch y gangell a dringo i ben y twr yn gwneud yr eglwys hon yn rhywbeth na ddylech ei cholli.
-
Neuadd y Dref, a ddymchwelwyd yn 1940.
Roedd Neuadd y Dref yn sefyll drws nesaf i'r gyffordd rhwng y Stryt Fawr, Stryt yr Hôb a Stryt yr Eglwys. Dymchwelwyd hi yn 1940 mewn cynllun lledu ffordd. Siaradodd Charles I â phobl Wrecsam o Neuadd y Dref. Yn y tu cefn, roedd y Siambr Ddu, y carchar lleol, yr oedd ganddi enw drwg iawn.
-
Ffatri Ordnans Frenhinol ym Marchwiel, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam heddiw
Dechreuodd Ystad Ddiwydiannol Wrecsam allan fel Ffatri Ordnans yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y ffatri'n gwneud ffrwydriadau felly lledaenwyd yr adeiladau dros ardal fawr.
-
Ysgol Sirol Parc y Gelli i Fechgyn
Agorodd yr ysgol fechgyn yn 1895 i gynnig addysg ramadeg. Roedd yr ysgol ar Ffordd Caer. Aeth yr ysgol yn gyfun ac yn gymysg yn 1972 a chaeodd yn 1983. Mae'r adeiladau'n rhan o Goleg Iâl erbyn hyn.
-
Ysgol Sirol Parc y Gelli i Ferched
Agorodd yr ysgol i enethod yn 1896, ond ni chafodd ei hadeiladau ei hun tan 1939. Erbyn 1972, roedd yn ysgol gyfun a chymysg ac, ar ôl cyfres o newidiadau i'r enw, bydd yn cau yn 2004. Mae dyfodol y safle'n dal i gael ei drafod.
-
The Joy Centre, Ffordd Helyg
Roedd y Joy Centre yn glwb a sefydlwyd gan William Aston i ddarparu cyfleusterau i bobl ifanc yn Wrecsam.
-
Cwt Bodhyfryd
Lleoliad ar gyfer dawnsfeydd ac achlysuron cymdeithasol ger Bodhyfryd, i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref.
-
Little Theatre Parc y Gelli, Stryt yr Allt
Ystafell ysgol Eglwys Bresbyteraidd Stryt yr Allt oedd y theatr gymunedol hon yn wreiddiol. Mae'r theatr yn cynnal cynhyrchiadau amatur ac mae'n rhedeg grwp theatr ieuenctid cymunedol hefyd.