|
Masnach fu'n gyfrifol am lwyddiant Wrecsam, tref lle mae mynyddoedd Cymru'n cwrdd â gwastadeddau Sir Gaer. Ffair Fawrth Wrecsam yn y Beast Market oedd uchafbwynt y flwyddyn fusnes. Ymhen hir a hwyr, adeiladodd rhai masnachwyr eu neuaddau marchnad eu hunain yn y dref. Gwerthai masnachwyr o Fanceinion decstilau yn Sgwâr Manceinion a gwerthai masnachwyr o Firmingham nwyddau haearn yn Sgwâr Birmingham; mae'r ddau sgwâr oddi ar Stryt Henblas. Roedd gwerthwyr Swydd Efrog yn masnachu o sgwâr ger Stryt Twtil.
Gyda dyfodiad y rheilffyrdd, daeth y ffeiriau i ben a chyrhaeddodd siopwyr, a allai werthu nwyddau'r cyn fasnachwyr teithiol trwy gydol y flwyddyn. Agorwyd siopau a busnesau newydd ar gyfer pobl a oedd wedi gwneud arian mawr trwy ddiwydiant, yn ogystal â'r cymunedau glofaol cyfagos.
" Bob dydd Llun a dydd Mawrth, cynhelir marchnadoedd yn nhref Wrecsam, a chynhelir tair marchnad flynyddol yn y dref, sef: ar y 12fed o Fawrth, y 5ed o Fehefin a'r 8fed o Fedi"
Arolwg Norden 1620 |
Adfywiwyd y marchnadoedd gan Farchnad y Cigyddion (adeiladwyd 1848), y Farchnad Fenyn (1879) a'r Farchnad Lysiau (1910 a 1927). Yn y 19eg ganrif, roedd siopwyr Wrecsam am gael y siopau diweddaraf. Maent yn dal i'w dymuno heddiw ac yn sgil hynny mae canol y dref yn parhau i newid.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|