|
Roedd tân bob amser yn fygythiad. Nid oedd injan dân y Warden Eglwys o fawr o werth a dim ond edrych ar ôl ei gwsmeriaid ei hun a wnâi injan dân Cwmni Yswiriant Provincial. Yn 1863, sefydlodd trigolion y dref Frigâd Dân Wirfoddol Tywysog Cymru. Fe'u beirniadwyd am fod yn hwyr i ddelio â thân yn y Beast Market yn 1895, ac o ganlyniad ymddiswyddodd yr holl wirfoddolwyr.
Ffurfiodd y Cyngor Bwrdeistref ei frigâd dân ei hun, a leolwyd yn Neuadd y Dref. Erbyn 1915 roedd gan y dref ddiffoddwyr tân proffesiynol ac injan dân â motor o'r enw "Maud Elsie". Dyna oedd dechrau'r gwasanaeth tân modern.
" Ni all ein heddlu ddal lleidr na'i gadw ar ôl ei ddal. Mae ganddynt hen ddigon o asgwrn a chyhyrau, bloneg a phastynau, ond mae angen mwy o ben na pherfedd ac mae hwnnw'n brin. Maent yn costio £1000 y flwyddyn ac mae'n rhaid fod eu diffygion yn amlwg i bawb."
Protestiwr, Wrecsam, 1848 |
Cafodd Wrecsam ei wasanaeth heddlu go iawn cyntaf yn 1840 - uwcharolygydd a phedwar cwnstabl. Nid oeddent yn boblogaidd yn y dref gan fod nifer o drigolion o'r farn eu bod yn aneffeithiol. Bu'r Ynadon Heddwch bron â dileu'r gwasanaeth heddlu yn 1844. Ond, goroesodd, a wynebodd y sialens. Bu'r carchar newydd ym Maes y Deinturau yn 1849 a'r Orsaf Heddlu newydd yma yn Adeiladau'r Sir yn 1879 yn gymorth i wneud yr heddlu'n effeithiol ac i ennyn parch y bobl.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|