|
29 Medi 1807 oedd y tro cyntaf i geffylau fynd i'r llinell ddechrau ar Gae Ras Wrecsam. Denwyd y ceffylau rasio gorau, y boneddigion lleol a holl ddandis a merched cyfnod Rhaglywiaeth Wrecsam gan Gwpan Aur Wrecsam a Chwpan Arian y Gwyr Meirch. Condemniwyd y rasys yn llym gan y capeli a'r eglwysi.

Daeth y rasio ceffylau i ben yn 1857. Roedd y Cae Ras yn dal i fod yn ganolbwynt chwaraeon y dref gan mai yno cynhaliwyd rasys asynnod a beicio'r Hydref. Cynhaliwyd rasys merlod yno hefyd ar ôl 1890. Lleolwyd y clwb criced lleol yno, ac mewn cyfarfod yn y Turf Hotel yn 1872 sefydlwyd Clwb Pêl-droed Wrecsam.
" Cyfyngwyd y bwcis i badog y Cae Ras. Wrth iddynt weiddi'r ods drwy'r rheiliau roeddent yn ymddangos, i'r anwybodus, fel tyrfa wedi'i charcharu.. Roeddent yn ysblennydd yn rhai o'r gwisgoedd mwyaf godidog y gellir eu dychmygu. Roedd rhai wedi eu gwisgo mewn glas plethedig ac yn edrych fel llyngesyddion, roedd eraill yn gwisgo rhuddgoch plýsh ac eraill eto'n gwisgo hetiau llwydwyn uchel a siwtiau siec bras. Roedd bron pob un ohonynt yn cario bagiau o'u blaenau, gan ysgwyd yr arian a dderbyniont yn un llaw tra'n defnyddio'r law arall i estyn slipiau bach rhyfedd yr olwg." |
Cefnogwyd chwaraeon yn frwd yn y dref. Daeth y Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig, Johnny Basham, yn arwr lleol pan ddaeth yn bencampwr bocsio pwysau welter y Prydain ac Ewrop yn 1916. Roedd pwll nofio Stryt Twtil, a agorodd yn 1901, hefyd yn bwysig. Mae clybiau chwaraeon cryf yn y dref - rygbi, tenis a hoci i enwi ond tri ohonynt; er, mae'r dyddiau pan chwaraewyd tenis ar gyrtiau Stryt y Brenin wedi hen ddiflannu.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|