|
Roedd Wrecsam yn dref a oedd wedi'i chysylltu'n dda â lleoedd eraill: byddai cerbydau post yn mynd i Lundain bob dydd a gwennol Yr Amwythig - Caer yn aros yma bob amser cinio. Roedd coetsis mawr yn gadael o'r Feathers Inn ac yn ddiweddarach o'r Wynnstay Arms.
Daeth dibyniaeth Wrecsam ar y ffyrdd tyrpeg i ben yn yr 1840au pan adeiladwyd rheilffordd Yr Amwythig a Chaer. Ehangodd y rheilffyrdd eu gwasanaethau'n fuan: o 1866 anelodd rheilffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug a Chei Connah i gyfeiriad y gogledd a chafwyd mynediad i'r de ar hyd llinell Wrecsam-Ellesmere yn 1895.
Datblygodd cludiant lleol: roedd tramiau ceffylau'n cysylltu pobl Rhos a Johnstown â Wrecsam yn 1876. Yn 1903, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio ceffylau wrth i dramiau trydan Cwmni Tramffyrdd Trydan Wrecsam a'r Ardal gysylltu'r pentrefi glofaol â gorsaf reilffordd Gyffredinol Wrecsam a chanol y dref. Yn 1927, fe'u disodlwyd gan fysiau Cwmni Gwasanaethau Modur Crosville.
Yn 1950, roedd Wrecsam yn fan aros ar gyfer gwasanaeth hofrennydd rheolaidd cyntaf y byd i deithwyr. Nid oedd llawer o alw am y gwasanaeth rhwng Lerpwl a Chaerdydd a daeth i ben yn 1951.
Ers yr 1960au, y car yw'r prif ddull o deithio. Drwy adeiladu ffordd osgoi A483 Wrecsam, sicrhawyd bod Wrecsam yr un mor hygyrch heddiw ag y bu yn y gorffennol ac y gall ei thraddodiad masnachu barhau i'r dyfodol.
Cysylltiadau Perthnasol
GweCamerau Byw o Wrecsam
Canolfan Croeso
Taith Ar-Lein
Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam
Treftadaeth | Archifau | Pobl Enwog | Astudiaethau Lleol
|