|
Hyd
at yn ddiweddar, roedd Wrecsam yn dref bragu. Efallai bod Burton-upon-Trent
a Warrington yn adnabyddus am eu cwrw, ond ni allai unrhyw un ddod yn
agos at yr amrywiaeth a ddarparwyd gan fragwyr Tref Wrecsam.
Fel arfer mae gan yr Amgueddfa rai deunyddiau treftadaeth bragdai i’w
gweld. Mae gennym ddiddordeb mewn derbyn mwy o ddeunyddiau sy’n
gysylltiedig â diwydiant bragu Wrecsam. Cysylltwch
â'r Curadur os gallwch chi helpu.
Ychydig o Hanes
Roedd cwrw’r Cymry yn ddiod gwahanol i ddiod y Sacsoniaid –
sbeislyd a chryfach – ond yn bendant at ddant y Saeson, oherwydd
fe’i derbyniwyd yn lle arian. Yng nghyfnod Hywel Dda roedd dau brif
fath o gwrw yng Nghymru:
-
Bragawd - y cwrw sbeislyd gyda mêl, sinamon, clof, sinisr
a phupur.
-
Cwrwrf - y cwrw cyffredin.
Hyd nes i hopys gyrraedd, y rhain oedd prif dorwyr syched y wlad. Roedd
y rhan fwyaf o ffermydd yn bragu cwrw a busnesau teuluol iawn oedd tafarndai
pob tref. Nid oedd tafarndai yn prynu cwrw i mewn i’w werthu hyd
nes y 19 ar 20 Ganirf. Y tafarndai olaf i fragu yn nhref Wrecsam oedd
yr Old Swan ar Stryt yr Abad, y Black Lion ar Stryt yr Hôb a’r
Hop Pole ar Stryt Yorke. Merched fyddai’n bragu fel arfer, er i
Hari VIII wahardd merched o dan 40 rhag bragu a gwerthu cwrw.
Byddai rhyfel bob amser yn arwain at ddiddefaint i bawb, ond daeth ymdrechion
Owain Glynd@r am annibyniaeth â llawer iawn o ddioddef i’r
dref. Nid colli gwaed, ond prinder o gwrw. Amharwyd ar ffermio, yn enwedig
cynaeafu, felly nid oedd yn bosibl bragu yn y dref ac roedd Caer wedi
gwahardd masnachu diodydd â Wrecsam. Hyd yn oed wedi i Gaer ildio,
cyn gynted y clwysent fod grymoedd Glyndwr yn mwynhau diod, ailosodwyd
y sancsiynau.
Yn fwy diweddar, yn ystod taith George Borrow o Gymru yn 1854, dywedodd
mai’r unig Gymraeg a wyddai pobl Wrecsam oedd cwrw da
a dim hyd yn oed os gwelwch yn dda i ddilyn. Efallai
bod Cymru wedi’i phortreadu fel gwlad yr anghydffurfwyr a’r
llwyrymwrthodwyr, ond ni fu hyn erioed yn wir yn Wrecsam. Byddai’r
goets fawr o Gaer i’r Amwythig bob amser yn anesboniadwy o hwyr,
hyd nes iddynt ddarganfod bod y gyrwyr (ac efallai’r teithwyr hefyd)
wedi hen arfer a stopio am hanner bach yn Wrecsam. Erbyn y 1860au, roedd
19 bragdy yn y dref. Roedd y bragwyr yn bobl bwysig yn y dref. Bu llawer
iawn ohonynt yn feiri. Darllenwyd hyd yn oed y Beibl yn Eglwys San Silyn
oddi ar ddarllenfwrdd a dalwyd amdano gydag elw bragu. I orffen popeth,
daeth Neuadd y Dref yn warws bond wedi i’r swyddogion symud allan.

Ychydig o Hanes
Roedd agwedd Wrecsam tuag at y ddiod yn nodweddiadol o Brydain ar y cyfan.
Roedd meddwdod yn gyffredin ymhell cyn i Lloyd George gyfyngu ar oriau
trwyddedu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mewn gwirionedd roedd yr oriau
trwyddedu mewn ymateb i hoffter y bedair gwlad tuag at y ddiod ac nid
y ffordd arall. Bydd llawer o bobl hyn yn cofio’r refferendwm lleol
i benderfynu a ddylai tafarndai agor ar y Sul ai peidio. Fel bob diwylliant,
roedd gan Wrecsam agwedd gymhleth tuag at ddiod feddwol. Agwedd a wnaed
yn fwy cymhleth trwy fod yn gynhyrchwyr yn ogystal ag yfwyr.
Pam Wrecsam?
Mae’r tywod a graean o amgylch Wrecsam yn gweithio fel ffilter
anferthol i’r dwr sy’n casglu ar y creigiau anhydraidd oddi
tanodd. Y dwr hwn a ddefnyddiai’r bragwyr i fragu, nid dwr Afon
Gwenfro.
Mae Wrecsam yn sefyll uwchben ffawt: i’r dwyrain mae dwr caled
gyda llawer o fwynau sy’n addas ar gyfer bragu cwrw; i’r gorllewin
ceir dwr meddal gyda llai o fwynau sy’n addas ar gyfer lager. Roedd
rheswm arall a ddylanwadodd ar leoliad bragdai a ddyddiai’n ôl
i gyfnod canoloesol, pan oedd yr Abad yn landlord o rannau’r dref
yn talu trethi is na’r rhai a oedd gan y Goron yn landlord. Roedd
y dref yn parhau i fod yn rhanedig fel Wrecsam Abad a Wrecsam Regis yn
y 19 Ganrif ac roedd bron iawn pob bragdy yn Wrecsam Abad.
dychwelyd i'r mynegai amgueddfa
|