|
Sefydlwyd
yn 1856 gan William a John Jones o Fferm Caia (nawr yn dafarn). Roedd
eu mam yn fragydd ac fe basiodd ei chrefft i’w mab John. Roedd gan
y Werddon fragdy 16 chwarter a 32 chwarter o fragu (mae 8 bwysel o haidd
yn gyfystyr ag un chwarter a fyddai’n cynhyrchu 150 galwyn o gwrw
fel arfer).
Bu’r brodyr Jones yn rhedeg y bragdy hyd 1905 ac yn bileri’r
gymuned leol. Talodd eu hymddiriedolaeth elusennol am hanner Ysbyty Goffa
Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych yn dilyn yr Ail Ryfel Byd (gweler Taith
Hanesyddol Wrecsam). Yn 1931, cyfundoddodd Bragdy’r Werddon â
dau fragdy lleol arall i ffurfio Border Breweries. Daeth adeiladau’r
bragdy yn ddim byd mwy na storfa ac, yn ôl y sôn, mae ysbryd
yno o’r enw John Jones. Mae’n bur debyg nad oedd yn hapus
iawn â thynged ei fusnes. Yn y 1970au, caewyd y safle a dechreuodd
adfeilio. Erbyn hyn, troswyd y bragdy’n fflatiau.
Dilynwch y Wenfro, gan groesi pompren, ewch ar hyd ochr
adeiladau’r Werddon. Croeswch dros Faes y Bragdy, gan edrych allan
i’r dde am Fragdy Mitre ym Mhentre Felin.
Roedd Bragdy Mitre yn bragu rhwng 1868 - 1916. Mae’r bragdy a’i
simnai wedi goroesi. Ar y chwith mae’r hen dafarn Old Three Tuns.
Symudodd y dafarn yma yn 1896 wedi i’r Old Three Tuns gwreiddiol
gael ei dymchwel i wneud lle i reilffordd Ellesmere - Wrecsam.
Pan fyddwch wedi ymuno â’r ffordd, trowch
i’r chwith ac ewch ar hyd Glan yr Afon. Edrychwch i’r chwith
am adfeilion y warws bond bychan. Roedd gan Wrecsam sawl warws fel hwn
yn ystod ei hanterth bragu. Os oes gennych rhywfaint o gyfalaf sbar, helpwch
i achub ychydig o dreftadaeth Wrecsam trwy brynu a diogelu’r adeilad
hwn.

Ymlaen i Allt y Ficerdy >>
dychwelyd i'r mynegai
|