|
Daeth
bragu i ben yn y bragdy hwn yn 2000 ac, ar hyn o bryd, mae adeiladau modern
y bragdy yn cael eu dymchwel. Gobeithir y bydd yr adeilad bragdy gwreiddiol
yn goroesi, oherwydd mai Bragdy Wrexham Lager oedd y bragdy lager llwyddiannus
cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Cynnyrch meddwl Ivan Levinstein ac Otto Isler, mewnfudwyr o’r Almaen,
oedd y bragdy. Nid oeddent, ynghyd â’u cydweithwyr o Sacsoni
a Bohemia, yn meddwl rhyw lawer o’r cwrw lleol ac roeddent yn sicr
y byddai lager yn gwerthu yma. O’r diwedd, dyma ddod o hyd i’r
lleoliad delfrydol, yng ngorllewin Wrecsam: roedd y d@r yn debyg i dd@r
Plzen (Pilsen), yn y Weriniaeth Czech Fodern ac roedd osgo’r tir
yn ddelfrydol ar gyfer selerydd dwfn o dan y ddaear a oedd yn hanfodol
i aeddfedu’r lager.
Yn 1882, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r bragdy ac roedd gan
y bragwyr lleol ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddigwyddai. Roedd gwneud trwyth,
burum eplesu lager gwaelodol ac eplesu deuol yn dechnegau a fu’n
destun siarad mawr. Gwelodd yr Almaenwyr eu cyfle i allforio, tra roedd
y Wrexham Advertiser yn credu y byddai’r bragwyr yn darganfod bod
ein gaeafau’n rhy gynnes ar gyfer eu lager.
Dechreuodd y bragu yn 1883 ac roedd y bobl “mi ddywedais i”
yn gywir – nid oedd y selerydd yn ddigon oer i gynhyrchu’r
lager euraidd clir yr oeddent am ei gynhyrchu. Yn bwysicach, mae yfwyr
yn anodd i’w troi – nid oedd pobl leol am yfed y diod newydd
hwn, lager, neu dyma’r hyn a ddywedwyd gan y bragwyr eraill.

Cliciwch y ddelwedd am fersiwn mwy
Roedd y Bragdy Lager yn wynebu distryw, hyd nes i Ivan Levinstein gyfarfod
â Robert Graesser ar y trên o Lerpwl. Roedd Graesser yn ddiwydiannwr
a oedd yn berchen ar waith cemegol yn Acrefair. Roedd ganddo oergell mecanyddol
a chredai y byddai’n oeri selerydd y bragdy, felly ymunodd â’r
cwmni. Fodd bynnag, er eu bod erbyn hyn yn ennill gwobrau am fragu, roedd
y system tafarnai clwm yn golygu nad oedd llawer o leoedd i’w werthu
yn nhref Wrecsam. Yn 1892, aeth y cwmni i’r wal.
Roedd Graesser yn ddyn penderfynol. Ail-lansiodd Gwmni Cwrw Wrexham Lager.
Nid oedd yn poeni am y dref ac aeth ar ôl dwy farchnad fawr: yr
Ymerodraeth a’r fyddin. Roedd hyd yn oed y milwyr dan warchau gyda’r
Cadfridog Gordon yn Khartoum yn y Swdan yn boddi eu gofidiau gyda Wrexham
Lager cyn iddynt gael eu malu’n ddarnau gan luoedd y Mahdi yn 1898.
Roedd y prynwyr mwy heddychol yn cynnwys nifer cynyddol o longau teithio
trawsatlantig. Roedd Wrexham Lager yn teithio’n dda dros ddwr ac
fe ffynnodd y cwmni.
Roedd Cwmni Cwrw Wrexham Lager yn cynhyrchu 4 prif lager: Pilsener euraidd,
lager Bafaraidd tywyll, lager ysgafn ac un tywyll heb ei ffiltro. Roedd
yr un olaf yn boblogaidd ymysg glowyr lleol, oherwydd ei fod yn bryd ar
ben ei hun. Fel arfer, roedd ar gael ar y safle o “dap y bragdy”.


Roedd
teulu’r Graessers yn rhedeg y bragdy hyd at 1949 a heblaw am rai
dadleuon dros gyfarwyddyd y cwmni, roedd yn fusnes teuluol llwyddiannus.
Daeth yr unig ffwdan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd yr Almaenwr,
Julius Kolb, y prif fragwr, ei gaethiwo ar Ynys Manaw fel estronwr annymunol.
Roedd teimladau gwrth- Almaenig yn bygwth gwerthiant, er na fu teyrngarwch
y teulu Graessers erioed dan amheuaeth.


Roedd hanes y bragdy wedi’r rhyfel yn llawn llwyddiannau ac anlwc.
Arweiniodd newidiadau mewn chwaeth a rhyngwladoli’r masnach bragu
at i Fragdy Wrexham Lager fod yn eilbeth. Yn y 1980au, roedd Wrexham Lager
yn parhau i ennill gwobrau am eu cynnyrch, ond diwedd y gân yw’r
geiniog a caeodd y bragdy yn 2000. Ni wireddwyd cynlluniau i barhau i
fragu Wrexham Lager ar raddfa lai, er cymaint o gefnogaeth leol a gafwyd.


Cerddwch yn ôl i fyny’r Ffordd Ganol. Byddwch
yn ofalus wrth groesi Ffordd Bradle. Er mwyn bod yn ddiogel, defnyddiwch
y groesfan ar gyffordd Stryt y Rhaglaw. Cerddwch heibio ochr yr Orsaf
Dân ac ewch drwy faes parcio’r Werddon. Dylech basio’r
maes parcio aml-lawr ar y chwith.
Rydych nawr yn pasio heibio seidins Gorsaf Ganolog Wrecsam. Byddai Wrexham
Lager yn anfon eu cynnyrch o’r fan hon i farchnadoedd allforio yr
Ymerodraeth. Byddai Rheilffordd Great Western yn gweini Wrexham Lager
yn eu cerbydau bwytai.

O du allan i Argos a Gorsaf Ganolog Wrecsam, ewch ymlaen
ar draws y maes parcio hyd nes i chi gyrraedd safle hen Fragdy’r
Werddon. Anelwch am ochr dde hen adeiladau’r bragdy. Os ydych yn
edrych i lawr ar yr hen fragdy ar draws nant fechan (sef Afon Gwenfro),
rydych yn y man cywir.

Ymlaen i Oriel Bragdy Wrexham Lager >>
Ymlaen i Fragdy’r Werddon >>
dychwelyd i'r mynegai
|