|
Bydd Taith y Bragdai a’r Tafarndai
yn eich hebrwng o amgylch cyn safleoedd bragdai Wrecsam. Yn anffodus,
nid oes llawer o adeiladau’r bragdai wedi goroesi ac mae’n
anodd trefnu mynediad i’r adeiladau sydd wedi goroesi. Fodd bynnag,
rwy’n sicr y byddwch yn cael blas o orffennol bragu Wrecsam trwy
ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir yn y daith hon. Roedd y diwydiant bragu
yn hanfodol i ddatblygiad Wrecsam a thrwy gymryd diddordeb yn hyn, gallwch
sicrhau bod y dreftadaeth yn parhau.
Taith y Bragdai a'r Tafarndai
Lawrlwythwch gopi o'r daith yn y fformat canlynol:
MS
Word
45Kb | PDF
104Kb | Plain
Text 27Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Taith Rithwir Bragdai a Thafarndai
Hyd: Mae'r daith yn para oddeutu awr.
Mynegai: Mae'r daith yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn,
gyda chynorthwy-ydd. Yn anffodus, bydd angen ymdopi â chyrbau ym
maes parcio'r Werddon. Yr unig allt serth ar y daith yw Stryt Yorke.
Gan gychwyn o du allan i Amgueddfa Bwrdeistref Sirol
Wrecsam, trowch i’r chwith heibio’r Eglwys Gadeiriol Babyddol,
croeswch y ffordd ar y groesfan a throwch i’r chwith i Ffordd Bradle.
Parhewch ar y ffordd hon a throwch i’r dde cyn y bont i’r
Ffordd Ganol.

Ymlaen i Fragdy Wrexham Lager >>
dychwelyd i'r mynegai amgueddfa
|