Mae
Dyn Brymbo wedi bod yn destun diddordeb mawr i archaeolegwyr oherwydd
ei fod yn brin: claddedigaeth Bicer yng Nghymru.
Mae cyn lleied o fywyd pobl yn nghyfnod cyn hanes wedi goroesi, mae safleoedd
claddu yn fwy pwysig i ni, i adrodd euhanes wrthym, na fydd ein mynwentydd
ni fyth yn adrodd ein hanes yn y dyfodol.
Yn eu byd nhw, roedd marwolaeth yn rhan fawr o'u bywyd. O'r herwydd,
mae arferion claddu pobl yr Oes Cerrig, Efydd a Haearn a oedd yn newid
yn ein cynorthwyo i ddatgelu eu credoau a'u systemau cymdeithasol.
Claddedigaethau Neolithig:
- Claddwyd pobl mewn grwpiau; plant ac oedolion gyda'i gilydd.
- Cymuned yn bwysicach nag unigolion.
- Hefyd, efallai bod y gymuned yn teimlo dan fygythiad gan natur neu
bobl eraill fel hawliad eiddo.
- Daethpwyd o hyd i garn hir yn Nhan y Coed yn Nyffryn Dyfrdwy.
- Daethpwyd o hyd i garn crwn yng Nghop Cairn, ger Prestatyn. Y garnedd
wneud ail fwyaf cyn hanes ym Mhrydain. Roedd adeiladu rhywbeth mor
fawr yn golygu bod y gymuned yn dweud rhywbeth pwysig.
Claddedigaethau Bicer
- Amser newidiol yn ystod diwedd yr Oes Cerrig a'r Oes Efydd Cynnar
a arweiniodd i newidiadau mewn cymdeithasau, credoau ac arferion.
- Daeth claddediaethau'n fwy unigolyddol. Claddu pobl ar eu pennau'u
hunain.
- Roedd y meirw'n mynd ag eiddo personol gyda nhw - tlysau pennau saethau,
arfau megis pennau bwyelli, cyllyll fflint a gwaith metel. Roedd y
gwrthrychau hyn yn adlewyrchu staws a dyheadau tra'n fyw. Efallai
bod rhannau symbolaidd iddynt yn y bywyd tragwyddol.
- Claddedigaethau Bicer yw'r claddedigaethau cyntaf i gynnwys eiddo
personol gyda'r corff.
- Roedd y biceri'n ddigon pwysig i'w rhoi yn y beddau.
- Mae'r safleoedd hyn yn llai na safleoedd comunol Oes y Cerrig ac
mae llai wedi'u darganfod/goroesi.
yn ôl i'r brig