Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Dyn Brymbo : Newid Barn

 

1958

Roedd gweddillion Dyn Brymbo mewn cyflwr gwael ac yn brin. Nid yw hyn yn syndod o ganlyniad i gladdedigaeth mor agos i'r wyneb. Maen debygol bod rhai o'r esgyrn wedi'u symud.

 

NAWR

Mae archaeolegwyr nawr wedi dod o hyd i gistiau agos i'r wyneb mewn lleoedd eraill. Nid oedd y cistiau hyn wedi cael eu tarfu. Pam gwneud y rhagdybiaethau hyn am fedd Dyn Brymbo?

 

1958

Claddwyd Dyn Brymbo yn ei gwrcwd. Roedd wedi'i glymu;n dyn ac yna'i ostwng i'r edd. Dim ond unwaith cafodd ei gladdu.

 

NAWR

Ni all hyn esbonio;r esgyrn coll. Dim on 13% o'i sgerbwd sydd ar ô'l. Mae tystiolaeth ar yr esgyrn bod cnawd wedi'i dorri i ffwrdd oddi ar rhai esgyrn cyn ei gladdu. Efallai cafodd ei adael ar y wyneb i bydru. Yn hwyrach ymlaen claddwyd rhai o'r esgyrn. Mae'n debyg mai "claddiad eilaidd" oedd hwn. Beth ddywed hyn am bwysigrwydd Dyn Brymbo?

 

1958

Roedd gn Ddyn Brymbo benglog llydan, nodweddioin garw a rhychau ar ei dalcen. Roedd y nodweddion hyn yn nodweddiadol o oresgynwyr Pobl y Bicer. Roeddent yn bobl ddatblygedig o Ewrop. Gwyddorn eu bod yn wahanol oherwydd eu harferion claddu gwahanol a'u biceri arbennig.

 

NAWR

Mae archaeolegwyr nawr yn credu mai syniadau oedd yn teithio, nid byddinoedd goresgynnol. Clywodd pobl am wneud biceri a phenderfynu gwneud rhai eu hunain. Roedd pobl yn symud o gwmpas, er enghraifft i fasnachu ac roedd ymladd yn digwydd. Nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i ddweud bod Pobl y Bicer yn rym goresgynnol ar wahân. Hefyd, nid ydym wedi dod o hyd i ddigon o benglogau o'r Oes Efydd Cynnar i rannu pobl mewn grwpiau.

 

Y DYFODOL

Mae Dyn Brymbo yn dangos pa mor anodd yw hi i wneud datganiadau pendant am gyn hanes. Bydd marc cwestiwn yn hongian am byth uwchben safleoedd megis cist claddedigaeth Dyn Brymbo. Bydd y ddadl yn parhau...

 

 
English
 

Cyswllt i

Darganfod Dyn Brymbo
   
Yr Adluniad
   
Y Dystiolaeth
   
Y Farn Newidiol
   
Claddedigaethau
   
Deall Cyn Hanes
   
Dyn Brymbo i Blant
   
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint