Dyn Brymbo : Y Dystiolaeth

I ddeall Prydain Oes yr Efydd, mae'n rhaid i ni ddibynnu ar astudiaethau cofadeiladau a darganfyddiadau sydd wedi goroesi hyd heddiw.

Yn achos Dyn Brymbo, beth sydd gennym fel tystiolaeth?

Y Sgerbwd

Gall patholegwyr ddweud llawer am unigolyn pan oedd yn fyw trwy archwilio sgerbwd dynol: oed, rhyw, taldra, diet, lle cafodd ei fagu ac achos marwolaeth yr unigolyn.

Y Bicer

Mae'r math o grochenwaith, siâp, deunydd ac addurn oll yn gliwiau. Mae archaeolegwyr nawr yn gwybod bod biceri wedi newid dros amser. Byddant yn defnyddio'r rhain i weithio allan brasamcan dyddiad y gwneuthuriad.

Y Gyllell Fflint

Fel y crochenwaith, mae'n bosibl gweithio allan bras ddyddiad cyllell fflint trwy edrych ar ei siâp a llafnau torri. Byddwn yn edrych ar fflintiau tebyg y gwyddom eu hoed eisoes.

Y Gist Garreg

Roeddent yn nodwedd cyffredin yn yr Oes Efydd Cynnar, yn enwedig mewn Claddedigathau Bicer.

Roedd creu bedd fel hwn yn golygu llawer o waith. Pa fath o unigolyn oedd yn haeddu bedd fel hwn? A oedd yn arbennig, neu a oes llawer o feddau tebyg i hwn yn dal heb eu darganfod?

Mwy o Wybodaeth ynghylch Claddedigaethau Neolithig ac Oes Efydd >>

Dyn Brymbo - Yr hyn a wyddom?

Oed: oddeutu 35

Trwy wirio;r trael ar ei ddannedd ac ymasiad esgyrn ei benglog.

Dyddiad Geni: c1635CC

Trwy nodi bod y bicer yn fath "Gwddf Byr" a wnaed oddeutu 1600CC.

Taldra: 5'8"/173cm

Trwy fesur ei tibia (asgwrn rhan isaf y goes). Mae ei hyd yn gyfrannol i'w daldra.

Corff: Stwcyn

Mae siâp ei benglog a'r cysylltiad i'r cyhyrau i'r cyhyrau yma ac i esyrn ei goesau'n dangos ei fod yn ddyn llydan a chryf.

Llun o Clwyf uwchben rhimyn y gwallt ar y talcen Dyn BrymboNodweddion Gwahaniaethol: Clwyf uwchben rhimyn y gwallt ar y talcen

Trwy archwilio'r niwed i'w benglog yn ofalus, gallwn ddweud ei fod wedi goroesi'r anaf oherwydd gallwn weld ei fod wedi iachau. Mae'n debyg mai pwynt saeth carreg siâp deigryn oedd yr achos tebygol.

Llun o esgryrn Dyn BrymboDigwyddiadau Post Mortem

Trwy archwilio'r esgyrn yn ofalus, nododd yr arbenigwr esgyrn olion toriadau a wnaed gyda offeryn miniog. Efallai bod eu harferion claddu yn cynnwys torri'r cnawd oddi ar esgyrn.

Tadogaeth Crefyddol: Credu yn y bywyd tragwyddol

Mae'n bosibl bod y bicer yn cynnwys diod ar gyfer ei daith i'r bywyd tragwyddol. Efallai bod y gyllell fflint yno er mwyn i Ddyn Brymbo allu paratoi byrbryd ar y ffordd.

Llun o Claddedigaethau Dyn Brymbo

Mwy o wybodaeth am newid barn ynghylch Dyn Brymbo >>

yn ôl i'r brig