Gallwch ddweud llawer am unigolyn oddi wrth
ei wyneb. Nawr gyda chymorth arbenigwyr, gallwch ailgreu wyneb dynol o'i
benglog.

Un o brif arbenigwyr ail-lunio wynebol yw Dr Caroline Wilkinson. Mae'n
gweithio yn Uned Celf Meddygol Prifysgol Manceinion, lle anfonwyd Dyn
Brymbo i'w ailgreu.
Cwestiwn cyntaf: A oedd digon ar ôl o benglog Dyn Brymbo ar gyfer
adluniad? Cael a chael! Nid yw ei benglog yn gyflawn: dim on gên
ei safn sy'n weddill ac mae rhan o ochr chwith ei benglog wedi mynd. On
roedd digon i Caroline weithio arno.

Creodd Caroline gast o'r benglog. Mae penglog Dyn Brymbo yn rhy
hen a bregus i'w ddefnyddio ar gyfer yr adluniad. Mae'r benglog yn hanes
go iawn, felly rhaid oedd ei hamddiffyn rhag difrod di-droi'n ôl.
I wneud y cast, roedd raid i Caroline wneud mowld. Seliodd y tyllau ym
mhenglog Dyn Brymbo ac yna'i orchuddio mewn ffoil alwminiwm i'w amddiffyn
yn ystod creu'r mowld. Mae'r deunydd mowldio, yn union yr un deunydd a
ddefnyddir gan ddeintyddion i wneud argraffiad, yn debyd i uwd a taenir
dros y benglog. Pan fydd wedi caledu, gellir gwneud cast perffaith o benglog
Dyn Brymbo.

Y can nesaf i Caroline oedd cnocio'r pegiau bach i mewn i nodi trwch
y cnawd mewn un ar hugain gwahanol bwynt ar y benglog. Penderfynir ar
y trwch yn dibynnu ar ryw, oed a grwp ethnig yr unigolyn. Mae siâp
eich wyneb hefyd yn dibynnu ar eich pwysau. Ni wyddom a oedd Dyn Brymbo
yn denau neu'n dew, felly gosodwyd y pegiau yn seiliedig ar fesurau 'pwysau
cyfartalog'.

Yna, ychwanegodd Caroline y prif gyhyrau mewn clai. Nododd leoliad a
chryfder cydfannau'r cyhyrau ne fewniadau ar y benglog. Mae'r rhain yn
nodi cryfder cyhyrau'r wyneb ac o ganlyniad siâp wyneb Dyn Brymbo.
Mae bron iawn bob nodwedd y wyneb yn dibynnu ar anatomeg, er enghraifft:
-
Lled y geg gan ffiniau allanol y dannedd llygaid neu ffiniau mewnol
iris y llygad.
-
Mae lled yr agorfa trwynol yn y benglog tua 60% o led y trwyn.
-
Pe byddech yn tynnu llinnell o dreuan isaf asgwrn y trwyn ac un arall
o'r meingefn trwynol ar waelod yr agorfa trwynol, cewch flaen y trwyn
lle bydd y ddwy llinell yn croesi.
-
Gellir darganfod ar ba ongl mae'r llygaid yn goleddu o'r benglog,
yn seilliedig ar yr ongl rhwng y gwagle ar gyfer y chwarren ddagrau
a'r lwmp bach ar du mewn pwll y llygad.
Nid gwaith dyfalu na dychymyg mohono. Yr ymagwedd drefnus hon sy'n sicrhau
bod adluniad wyneb Dyn Brymbo mor agos i'r gwirionedd â phosibl.

Ychwanegir y croen mewn stribedi clai, gyda chymorth y pegiau pren bach.
Wrth wneud hyn, mae Caroline bob amser yn ystyried adeiladwaith y cyhyrau
a greodd ar y dechrau. Mae rhai pethau'n anodd i'w penderfynu'n hollol:
mae gwefusau a chlustiau'n anodd iawn. Y sgil yw sicrhau bod y penderfyniad
yn cyd-fynd â gweddill yr wyneb. Ni ellir ailgreu wyneb sydd wedi
cael llawdriniaeth gosmetig o'r benglog, hyny yw, nid fel y byddai wedi
ymddangos wedi'r lawdriniaeth. Gwnaeth Caroline y modelu terfynol gan
ddibynnu ar ei phrofiad blynyddoedd o adlunio wynebau.

Caroline a Dyn Brymbo
Taith nesaf Dyn Brymbo oedd i Lundain i ymweld â'r artist colur.
Ychwanegodd wallt ac eiliau. Mae penderfynu ar li gwallt a llygaid yn
anodd. Mae llawer o'r penderfyniadau'n seiliedig ar dybiaethau ynghylch
y gorffennol, sy'n datgelu mwy am yr archaeolegwyr a'r cyn-haneswyr sy'n
eu creu na realaeth ei hun. Trwy roi gwallt brown a llygaid gwyrdd i Ddyn
Brymbo, mae'r cwestiwn ynghylch ei wreiddiau yn dal yn ben agored ar gyfer
trafodaethau pellach. Treuliodd lawer o'i amser yn yr awyr agored, felly
roedd rai rhoi gwedd ôl tywydd iddo. Ni wyddom a oedd yn eillio
ai peidio, ond roedd ganddynt raseli yn yr Oes Efydd Cynnar.
Nawr mae wedi dychwelyd i'r Amgueddfa ac fe allwch weld yr adluniad gorffenedig
drostoch eich hun. Dyma sut roedd yn edrych. Nid yn rhy annhebyg i ni
wedi'r cyfan.
Fel polion pabelli a muriau i dai, yn yr un modd mae
esgyrn i bob creadur byw.
Galen, De anatomicus administrationibus, 2nd Century AD
It is the common wonder of all, how among
so many millions of faces, there should be none alike.
Sir Thomas Browne, Religio Medicii, 1643
|