Cyflwyno Dyn Brymbo
Yn Awst 1958, roedd gweithwyr lleol, gan gynnwys Ron Pritchard,
yn tyllu ffos ar gyfer peipen ger rhif 79 Golygfa Sir Gaer, Brymbo,
ger Wrecsam, pan ddaethant ar draws mwy na'r disgwyl: capfaen tua
1 droedfedd / 30 cm o dan yr wyneb. Roeddent wedi dod o hyd i Ddyn
Brymbo.
Pan gyrhaeddodd archeolegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Cymru i archwilio,
cloddiwyd blwch carreg gyda leinin neu gist o dan y capfaen. Tu
mewn, roedd gweddillion anghyflawn o sgerbwd, llestr pridd bychan
a chyllell fflint.
Roedd y bedd hwn a'r llestr, a adnabyddir fel Bicer gan yr archaeologwyr,
yn dyddio Dyn Brymbo i'r Oes Efydd Cynnar, mae'n debyg tua 1600CC.
Hyd at yn diweddar iawn, nid oeddern yn gwybod llawer am Ddyn Brymbo.
Mae technegau gwyddonol modern a gwybodaeth ehangach ynghylch y gorffennol
pell yn golygu nad yw hyn yn wir bellach. Darllenwch ymlaen i gael gwybod
mwy ynghylch trigolyn hynaf Brymbo.
Beth
wyddom am yr Oes Efydd?
- Daw rhwng Oes y Cerrig a'r Oes Haearn.
- Dyma'r tro cyntaf i bobl ddefnyddio metel ar gyfer ofer ac arfau.
- Mae'n para'n fras o 2300 hyd 600CC. Mae'n pontio oddeutu'r un faint
o amser â rhwng diwedd yr Ymerodraeth Rufeinig a heddiw.
- Mae'n amser o newid gyda dyfodiad credoau ac arferion newydd.
- Dyma'r tro cyntaf i eiddo personol gael eu claddu gyda'r meirw; efallai
i'w defnyddio yn y byd tragwyddol.
- Deall Cyn Hanes
Ond beth oedd bywyd fel yng nghyfnod Dyn Brymbo...?
Ciplwg ar fyd Dyn Brymbo
- Roedd ei gartref mewn cymuned ffermio ac roedd yn byw oddi ar y tir.
- Roedd ei gymuned mewn cysylltiad â'r byd mawr: Darganfuwyd
cychod Oes Efydd yn aber yr Humber, mae eiddo mewn beddau wedi cynnwys
cynnyrch nad yw ar gael yn lleol, megis ambr o Sgandinafia a faience
o'r Aifft. Daeth masnach â syniadau newydd megis gwaith metel.
- Efallai ei fod yn fwy brwdfrydig dros syniadau newydd na phobl fwy
gorllewinol. Yng Ngwynedd, parhaodd y traddodiad o gladdu comunol
yn yr Oes Efydd. Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, bodolai'r gwahanol arferion
claddu ochr yn ochr. Roedd y syniadau newydd yn cynnwys claddu pobl
dan eu carreg a thwmpath pridd eu hunain, o'r enw gwyddgrug.
- Mae'n anodd dweud faint o bobl oedd yn byw yng Nghymru'r Oes Efydd
Cynnar. Amcangyfrifir rhwng 10-20,000.
- Roedd y tywydd yn ddigon cynnes a sych i ffermwyr allu defnyddio
ucheldir ar gyfer pori a thyfu cnydau.
- Roedd llawer o goedwigoedd ar y iseldir, nid oedd llawer o goed yn
ardaloedd yr ucheldiroedd.
Mae dehongliad gyda lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau canlynol:
Dyn Brymbo - fformat PDF 208Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
yn ôl i'r brig