Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Calon y Gymuned

Roedd y gwaith dur wrth galon y gymuned leol.  Roedd ffyniant y ddau yn glos iawn. 

Fel anghydffurfiwr a diwydiannwr Fictoraidd bu i William Darby gymryd diddordeb yn lles ei weithlu.  Sefydlodd Sefydliad ac Ystafell Ddarllen Brymbo.  Nid oedd mor llwyddiannus ac yr oedd wedi ei obeithio gan mai prin oedd y gweithwyr dur a oedd yn llwyrymwrthodwyr¹.  Yn ddiweddarch bu i’r gweithwyr dur gymryd y sefydliad drosodd a’u rheoli eu hunain.  Roedd y sefydliad yn cefnogi’r clwb criced, reiffls, tennis, a bowls, yn ariannu’r band arian ac yn darparu papurau newydd a chylchgronau ar gyfer yr ystafell ddarllen.

Band Arian Brymbo. © Archifau Wrecsam, casgliad cerdyn post

Roedd cylchgrawn y gwaith yn cynnig dewis o straeon newyddion, digrif, straeon o ddiddordeb cyffredinol, erthyglau addysgol am wyddoniaeth, peirianneg, gwneud dur a hanes y gwaith dur. © Casgliad Canolfan Dreftadaeth Y Bers

Yn ystod yr ugeinfed ganrif, bu i’w olynydd sef Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo fod yn ganolfan gymdeithasol i weithwyr dur Brymbo a’u teuluoedd.  Digwyddodd popeth yno, neu yn y cae gerllaw: cystadlaethau chwaraeon rhyngadrannol, discos a dawnsfeydd rheolaidd, cyfarfodydd undeb a digwyddiadau cyflwyno gwobrau heb anghofio’r carnifal a choroni’r Frenhines Ddur bob blwyddyn!

Rhoddodd y gwaith dur mwy na swyddi, rhoddodd hunaniaeth unigryw a balchder hefyd i’r pentref.

Roedd y gweithwyr dur yn gymuned gweithgar - yn codi arian ar gyfer elusennau lleol ac yn trefnu parti Nadolig blynyddol i’r plant. ©Casgliad Canolfan Dreftadaeth Y Bers

Roedd y gweithwyr dur yn gymuned gweithgar - yn codi arian ar gyfer elusennau lleol ac yn trefnu parti Nadolig blynyddol i’r plant. ©Casgliad Canolfan Dreftadaeth Y Bers

Stryd Fawr Brymbo, yn dangos y co-op lleol, ar ddechrau’r 20fed ganrif. © Archifau Wrecsam, casgliad cerdyn post

Ym mhle oedd gweithwyr dur Brymbo yn byw?

Where did Brymbo steelworkers live?

Brymbo – 152
Pentrefi ardal Brymbo – 396
Wrecsam – 252
Coedpoeth a’r cyffiniau – 160
Pentrefi diwydiannol Gorllewin Wrecsam – 74
Pentrefi gwledig Wrecsam – 50
Sir Ddinbych a Sir y Fflint – 40
Sir Gaer – 10
Cyfanswm – 1,134