Roedd Brymbo yn lleoliad gwaith dur cenedlaethol pwysig a oedd wrth galon y gymuned hyd cau'r gwaith yn 1990. Adrodda'r arddangosfa hon stori dur, y gwaith dur, a'r dynion a merched a oedd yn gweithio yno.
Bydd yr arddangosfa yn dangos yn yr Ystafell Brymbo yng Nghanolfan Dreftadaeth Y Bers ar ol yr arddangosfa dros dro wedi cau yn Ebrill 2008.
Y Fforman
Y fi oedd yn gyfrifol am ffwrnais tân agored gwaith dur Brymbo. Esboniaf sut yr oeddem yn gwneud dur yn 1900.
Peter Williams
Fi yw Peter Williams. Roeddwn i yma pan ddechreuwyd gwneud dur. Esboniaf y pethau sylfaenol, felly gwrandewch!
Rheolwr y felin
Roeddwn i'n gweithio yn y felin rholio ac yn ddiweddarach yn y ffreutur. Roeddwn iān gwybod beth oedd pawb yn ei wneud ac yn adnabod pawb ym Mrymbo.
Gweinyddes De
Roeddwn i'n rheoli'r melinau rholio ym Mrymbo. Roedd yn waith pwysig. Mae'n ymddangos yn gymhleth ond mi wna ddatgelu ein cyfrinachau i chi.
Cydnabyddiaeth
Diolch i'r canlynol am eu help:
Colin Davies, Reg Parry, Walter Salisbury, Raymond Hughes, Wrexham Archives & Local Studies, Bark Design, Mako-CS
yn ôl i'r brig