Gweithwyr Brymbo, c.1850, yn y gweithdy atgyweirio’r pwll chwyth© Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint, 86.133.24 – Gweld fersiwn fawr
Roedd gwaith haearn Brymbo yn segur am ddegawd, ond o ganlyniad i arian a thalent o’r Alban, dechreuwyd ar gyfnod newydd. Prynodd Robert Roy ystad Brymbo yn 1841. Yn 1842 comisiynodd buddsoddwyr o’r Alban Henry Robertson, beiriannydd Albanaidd uchelgeisiol i archwilio os oedd y gwaith haearn yn gyfle da i fuddsoddi ynddo.
Dywedodd Robertson y gallai’r gwaith haearn fod yn fusnes proffidiol iawn petai modd gwella’r rhwydwaith cludiant. Gyda chefnogaeth y buddsoddwyr adeiladodd Robertson ffowndri newydd, gweithdai, gosod peiriant chwyth newydd ar gyfer y ffwrnais chwyth a suddo’r pwll glo Chwyth. Mewn partneriaeth â Robert Roy, Alexander MacKenzie Ross a William Betts, sefydlodd Robertson, Gwmni Rheilffordd a Mwynau Brymbo. Gwnaethant agor y lein gangen yn cysylltu Brymbo â rhwydwaith rheilffordd gynyddol Prydain yn 1845. Yn olaf, bu i Robertson chwilio am ddau ddiwydiannwr talentog sef, William a Charles Darby i reoli’r gwaith haearn.
Roedd Brymbo unwaith eto yn waith haearn llwyddiannus, ond roedd rhai o’r cyfarwyddwyr yn anhapus. Yn 1854 bu i’r cyfarwyddwyr fod yn y llys a’i gilydd i frwydro am reolaeth lwyr o’r cwmni. Dywed yr hanes lleol bod Robert Roy a Henry Robertson wedi penderfynu datrys eu hanghydfod mewn ras geffylau i Frymbo. Perchennog y ceffyl fyddai’n cyrraedd y gwaith haearn gyntaf, allai brynu cyfran y cyfarwyddwr arall. Yn ôl traddodiad, roedd y gweithlu o blaid Robertson a gwnaethant sicrhau mai ei geffyl ef enillodd y ras.
Gallai Henry Robertson weld mai dur oedd y dyfodol. Anogodd John H. Darby a Peter Williams i roi cynhyrchu dur ar brawf ym Mrymbo ac yn 1884 ffurfiwyd Cwmni Dur Brymbo. Blwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 1885 cynhyrchodd Brymbo ei ddur cyntaf.
Pibellau turio ym Mrymbo, 19eg ganrif © casgliad preifat Cwmni Dur Brymbo - 1886 Catalog Nwyddau
Pibelli 3 modfedd i 12 modfedd, ar gyfer ffactrïoedd a gweithfeydd dwr
Llifanwyr, ar gyfer pontydd rheilffordd ac adeiladau masnachol, meintiau yn ôl gofynion y cwsmer
Castiadau ar gyfer darnau i beiriannau
Taclau ac offer miniog, amaethyddol, diwydiannol ac ar gyfer y cartref.
Rydym yn cynnig ein dur caled i wneuthurwyr am £5 y dunnell.
Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.