Miniog fel Dur, Caled fel Haearn: Stori Brymbo

John Wilkinson, 1728-1808, meistr haearn a sylfaenydd Gwaith Haearn Brymbo © private collection

Roedd Brymbo yn lleoliad gwaith dur cenedlaethol pwysig a oedd wrth galon y gymuned hyd cau'r gwaith yn 1990. Adrodda'r arddangosfa hon stori dur, y gwaith dur, a'r dynion a merched a oedd yn gweithio yno.

Dechreuodd Gwaith Dur Brymbo fel gwaith haearn.  Bu i John Wilkinson, meistr haearn y Bers, brynu ystad Brymbo yn 1792.  Roedd gan yr ystad gyflenwad o lo a haearn bwrw oedd ei angen ar ei waith haearn.  Yn 1796 sefydlodd Wilkinson waith haearn newydd ym Mrymbo.  Fwy na thebyg ef adeiladodd y ffwrnais chwyth a oroesodd ac a adnabuwyd fel Hen Rif 1.

Yn ei flwyddyn gyntaf cynhyrchodd y gwaith haearn 884 tunnell ohono ac roedd gan Wilkinson uchelgais fawr i Frymbo.  Adeiladodd ffwrnais arall yn 1804.  Yn dilyn ei farwolaeth yn 1808, bu i’r gwaith haearn ddioddef anghydfodau anghyfreithlon, absenoldeb meistr haearn crefftus a gostyngiad yn yr archebion ar ôl diwedd y Rhyfeloedd Napoleon.  Bu gwerthiant yr ystad yn 1829 yn gyfle i ddechrau o’r newydd  - yn y diwedd.

 

Rhestr Wirio ar gyfer Gwaith  Haearn Llwyddiannus

Glo ar gyfer golosg a thanwydd
Haearn bwrw i’w doddi
Carreg galch
Tywod ar gyfer y gwlâu i’r haearn bwrw a chastio
Cyflenwad dwr
Ffwrnais chwyth dda
Peiriannau stêm ar gyfer y ffwrnais chwyth
Gweithwyr crefftus
Labrwrs dibynadwy
Meistr haearn talentog
Buddsoddwyr
Rhwydwaith ffyrdd, rheilffordd a chamlas dda
Cwsmeriaid(!)

 

Cyheddodd John Wilkinson arian papur a darnau arian. © Canolfan Dreftadaeth y Bers

Ffwrnais chwyth wreiddiol Brymbo. © Canolfan Dreftadaeth y Bers

Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:

Brymbo 1 - PDF Fersiwn 4Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig