
Roedd Brymbo yn hanfodol yn ymdrech y rhyfel. © Archifau Wrecsam, WM210
Bu i waith dur Brymbo ffynnu ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd buddsoddiad mewn technoleg newydd a bu i’r gwaith cynhyrchu ddyblu rhwng 1898 a 1914.
Roedd contractwyr o’r Almaen yn brysur yn gosod craen magnet newydd yn 1914 pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y cwbl eu caethiwo a rheolwyd Brymbo gan y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel. Bu i’r gwaith gynhyrchu dur arbennig ar gyfer rhwydi torpido a mecanwaith ffiwsiau ffrwydron.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roeddem yn gwneud dur ar gyfer plenni rhwyllo arfogaeth. Mi wnaethom ein rhan i roi stop ar danciau’r Almaenwyr!
Bu’r blynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn galed i’r diwydiant dur. Gorfodwyd i’r gwaith dur gau oherwydd Streic y Glowyr (1921) a’r Streic Gyffredinol (1926) ac aeth y gwaith i fethdaliad yn 1931 oherwydd diffyg archebion a’r Dirwasgiad Mawr (1929-32). Roedd gan Brymbo'r lefel uchaf o ddiweithdra ym Mhrydain oherwydd bod y gwaith ar gau.
Yn 1933 bu i Syr Henry Robertson arbed y gwaith dur gael ei ddymchwel pan gymerodd ei gwmni newydd y gwaith gan y gweinyddwyr. Rhoddodd y gwaith o gael y gwaith yn ôl ar ei draed i Emrys Davies a Thomas Roberts tra roedd yntau’n chwilio am farchnadoedd newydd i ddur Brymbo.
Llwyddodd Robertson yn ei drafodaeth gyda Rolls-Royce a’r Lluoedd Awyr i Frymbo ddarparu’r dur arbennig ar gyfer peiriannau awyrennau. Roedd Robertson wedi dewis marchnad a oedd yn cynyddu gyda Phrydain yn ailarfu yn 1936 mewn ymateb i bolisi tramor ymosodol Hitler.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiodd Brymbo ei ffwrneisi arc trydan, a’i felin rholio i gynhyrchu dur arbennig. O 1943 ymlaen bu i ferched wneud y gwaith yn y gwaith dur: gweithredu’r craeniau a gweithio’r melinau. Bu i’r gweithwyr dur ddathlu diwedd y rhyfel yn 1945, ond daeth heriau newydd yn sgîl heddwch.

Gweithwyr y ffowndri, Brymbo. © Gwasanaethau Treftadaeth Wrecsam, 91.94.1

Cynhyrchu Dur ym Mrymbo (tunnell o ddur)
1796 – 884 (haearn)
1898 – 30,000
1914 – 60,000
1932 – 0
1936 – 65,000
1950 – 109,000
1960 – 143,000
1963 – 260,000 tunnell ingot
1965 – 315,000 tunnell ingot
1967 – 272,455
1972 – 350,000
1974 – 409,000 tunnell ingot
1990 – 245,000 (cynhwysedd 1990 – dur wedi’i gorffen 560,000 tunnell)
Mae’r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat isod:
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.