Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Catholigiaeth yn Wrecsam

Crëwyd yr arddangosfa hon i nodi 150 mlynedd ers agor Eglwys Gadeiriol y Santes Fair, Wrecsam, fel man addoli.

Santes Fair
Cadeirlan Mair Y Gofidiau
1857-2007

Croeso i'r eglwys hon sydd, ers cant a hanner o flynyddoedd wedi bod yn symbol o ffydd y gymuned Babyddol yn Wrecsam, ac yn dyst i'r ffydd honno i'r dref gyfan.

Fel eglwys y plwyf gweinyddwyd defodau hynt bywyd a Sagrafennau'r Eglwys; cynigiwyd gweddi o ddiolchgarwch ac erfyniad; croesawyd dieithriaid ac atgyfnerthwyd cyfeillgarwch presennol; gwyliwyd achlysuron mawr hanes; ac anrhydeddwyd ein hynafiaid.

Fel cadeirlan ers 1907, yn gyntaf o esgobaeth Mynyw ac yna, ers 1987, o esgobaeth Wrecsam bu'n ganolbwynt cymuned Babyddol rhan fawr o Gymru, wrth i bobl gasglu o gwmpas eu hesgob ar achlysur gwyliau a dathliadau Cristionogol o bwys.

Crëwyd yr arddangosfa hon fel rhan o'n dathliadau Pen Blwydd yn 150, ac mae'n cyflwyno dim ond rhai o'r uchafbwyntiau ym mywyd y gymuned o chofion plwyfolion; heb eu hatgofion, ffotograffau, amser ac ymdrech ni gyddai'r arddangosfa hon wedi bod.

Llinell Amser

Y 1800au cynnar Pabyddion Wrecsam yn addoli mewn cyfres o dai preifat.

1828 Sefydlu capel Dewi Sant ar lawr cyntaf tŷr offeiriad ar Stryt y Brenin, ar ôl i werthwr y tir wrthwynebu adeiladu capel ar y safle.

1857 Tachwedd - Agoro a bendithio Eglwys y Santes Fair. Richard Thompson a dalodd amdani er cof am ei wraig, Ellen. Dylunydd: Edward Welby Pugin, mab Augustus Pugin.

1863 Crogi'r gloch gyntaf a fwriwyd gan Murphy's o Ddulyn.

1869 Gwirfoddolwyr yn cynorthwyo adeiladu Ysgol Babyddol newydd, ar gyfer 120 o blant, yn Brookside, Glan yr Afon. Costiodd yr ysgol £700.

1873 Cynhadledd Mair Cymdeithas Sant Vincent De Paul yn dechrau gwaith ar roi cymroth ysbrydol, personol ac ariannol i'r anghenus yn lleol.

1877 Ficer Cyffredinol Esgobaeth Amwythig (y mae Wrecsam yn rhan ohoni), yn gofyn i dai chwaer o Leeiadny'r Teulu Sanctaidd yn Rock Ferry, ddo i ofalu am Ysgolion y Plwyf yn Wrecsam.

1879 Sefydlu Ysgol Gwfaint. I ddechrau yn Stryt y Rhaglaw, ond symudodd i Ffordd Grosvenor yn y 1900auncynnar ac ehangodd yn raddol, gan dael ei chydnabod fel Ysgol Baratoi ac Ysgol Ramadeg yn 1954. Mae Penaethiaid yr Ysgol Gwfaint yn cynnwys: y Chwiorydd Angela, Bernard, Bridget, Imelda, Cyril, Teresa ac Enda.

1884 Simon ac Elizabeth Reilly yn symud i'r plwyf o Crossakeel, Swydd Meath, Iwerddon. Mae ganddynt 10 o blant. Priododd yr wythfed, Elizabeth Reilly, â Frank Bellis ar 1af Ionawr 1904. O'u disgynyddion, mae 74 yn dal yn y plwyf hwn, neu'n gysylltiedig ag ef.

1893 Ysgol y Satnes Fair yn symud i Ffordd Lea, gan fod angen safel Glan yr Afon ar gyfer ymestyn y rheilffordd o Wrecsam i Ellesmere. Y Chwaer Bernard - y brifathrawes o 1879 i 1925. Yr ysgol newydd yn costio £2,500 gyda lle i 350 o blant.

1896 Armando Marubbi a'i deulu'n cyrraedd o'r Eidal, ynghyd â thuluoedd Sidoli a Peeney. Cytynodd y tri theulu na fyddent (dan gosb o 1 gini) yn masnachu o fewn 40 militir i'w gilydd. Sefydlodd teulu Peeney eu hunain yn Blackpool, teulu Sidoli yn Amwythig, a dechreuodd Armando ei gaffi cyntaf yn Stryt Yorke. Agorodd y caffi yn Stryt y Banc yn 1936.

1898 Dyrchafu Esgobaethh Mynyw.

1907 Cysegru eglwys y Santes Fair ar 7fed Tachwedd fel is-gadeirlan o Esgobaeth Mynyw.

1911 Adeiladu Sefydliad y Santes Fair ("Y Neuadd" heddiw) ar diroedd tŷ'r offeiriad.

1924 Geni Dorothy Mary Jones. Roedd ei theulu'n byw ger Wrecsam ac mae'n cofio cerdded i'r eglwys ar gyfer Offeren a Bendith - awr a phum munud bob ffordd.

1934 Offeren Dros y Meirw yn nhrychineb Pwll Glo Gresffordd.

1944 Awyr-llefftenant David S.A. Lord DFC., unwaith yn ddisgybl yn Ysgol y Santes Fair a gwas allor yn y Gadeirlan, yn cael ei ladd uwchben Arnhen ar 19eg Medi. Dyfarnwyd Croes Fictoria iddo ar ôl ei farwolaeth.

Y 1940au diweddau Ailadeiladu Capel y Methodistiaid yng Nghoed-poeth, a fomiwyd yn ystod y rhyfel, a'i gysegru fel Eglwys y Teulu Sanctaidd. Cyn hyn, gweinyddwyd yrr Offeren mewn cwt pren yn Ffordd y Castell, neu'n achlysurol ym Mhlas Pentre Saeson. Teuluoedd o wlad Pwyl a'r Eidal yn ymuno â'r gynulleidfa.

1948 Y côr yn canu yng Nghystadleuaeth Gorawl yr Eisteddfod Gydwladol. Arweinwyr y côr - Winnie Taffe a'r Chwaer Christina. Y côr yn canu yno dros lawer blwyddyn, yn yr Offeren awyr agored ar y Sul. Esgob Pettit yn gofyn i'r Tad C. Schwarz ddechrau Sgowtiaid - Bishop's Own. Merched yn mynychu 5ed llu Wrecsam.

Y 1950au ymlaen Y côr yn canu carolau pob Nadolig yn ysbytai Wrecsam. Mae arweinwyr y côr yn cynnwys y Chwiorydd Salome a Clare.

1953 Gosod organ newydd yn eglwys y Santes Fair. Michael a Val O'Keefe yn priodi yn eglwys y Santes Fair - teithiwyd o Goed-poeth i'r briodas mewn bysiau ar wahân a dychwelyd fel pâr priod, mewn un!

1957 Ehangu eglwys y Santes Fair: Aildrefnu'r Seintwar ac adeiladu Cysegrfa.

1960 Dyfodiad Chwiorydd Sant Joseph o Chambery, yn wreiddiol i weithredu fel gofalwyr tŷi'r Esgob Pettit. Agor Ysgol Uwchradd Fodern Babyddol Sant Joseph. Prifathro - Mr Martin Cleary.

1962 Creu ail blwyf yn Wrecam o ran ddwyreiniol plwyf y Gadeirlan, o gwmpas Eglwys y Santes Ann, Parc y Frenhines, oedd newydd ei hadeiladu.

1963 Chwefror - Darlledu Canu Cynulleidfaol o Gadeirlan y Santes Fair.

1965 Dyfodiad Chwiorydd Tlawd Nasareth gan agor Tŷ Nasareth, gofalu am yr oedrannus ac edrych ar ôl mamau dibriod a'u babanod. Mabwysiadwyd llawer o blant oddi yma.

1966 Estyniad sylweddol i'r eglwys - adeiladu Clawstr a Chapel Ystlys.

1970 Canoneiddio Richard Gwyn, (tua 1536-84) y merthyr o'r unfed ganrif ar bymtheg, a ddienyddiwyd yn y Beast Market, Wrecsam.

1972 Addysg gyfun yn dechrau - Ysgol Ramadeg Gwfaint y Teulu Sanctaidd yn cau ac ysgol Sant Joseph yn dod yn Ysgol Uwchradd Gyfun. Disgyblion Ysgol Gynradd y Santes Fair yn symud dros dro i adeiladau'r hen ysgol ramadeg, tra bo ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Ffordd Lea.

1975 Cylch Chwarae'n dechrau. Arweinwyr yn cynnwys "Modrabedd" Sheila, Rosemary, Zelma, Debbie, Angela a Pauline.

1980 Mawrth 23ain - Darlledu "Sunday Half Hour" ar BBC2 o'r Gadeirlan.

1981 Gosod ffenestr Sant Richard Gwyn, yng Nghapel Mair, a hefyd y gefnlen i'r Pieta.

1982 Ymweliad y Pab John Paul II. Naw llond bws o blwyfolion yn teithio i gan'ur offeren gyda'r Pab ar Feysydd Pontcanna, Caerdydd, ar 2 Mehefin. Pedwar plentyn yn derbyn Cymun drwy law'r Pab. Sgowtiaid y Bishop's Own yn mabysiadu lliwiau'r Pab, i anrhydeddu'r achlysur.

1983 Ffurfio Grŵp 155 o HCPT (Ymddiriedolaeth Pererindod Plant Anabl).

1985 5ed Geidiaid a Brownis Wrecsam yn ymuno â'r Sgowtiaid fel 5fed Bishop's Own Wrecsam a phawb yn mabwysiadau cadachau gwddf lliwiau melyn a gwwyn y Pab. Cwt Sgowtiaid - adeiladwyd ar Gae Howard, Ffordd Sonlli. Y Canon Schwarz - Arweinydd y Grŵp tan ei farwolaeth yn 1989.

1987 Dyfodiad Chwiorydd Undeb La Sainte i Wrecsam. Canolfan Cyfiawnder a Heddwch yn agor. Eglwys y Santes Fair yn dod yn gadeirlan wrth ffurfio Esgobaeth Wrecsam.

1991 18fed medi - Cysegru'r eglwys newydd yn Queen's Place, Coed-poeth.

1993 Ysgol y Santes Fair yn dathlu ei Chanmlwyddiant ar safle Ffordd Lea.

1995 ymlaen Teuluoedd Prtiwgeaidd, Ffilipino ac Indiaidd Kerala'n ymuno â'r gynulleidfa.

1997 Gorffennaf - Offeren Dros y Meirw i'r Esgob Langton Fox, Esgob Mynyw 1972-1981.

1998-2000 Dawn Rogers yn rhedeg y Côr Ieuenctid (a ddecreuwyd gan Clare Sullivan).

1999 Tachwedd - Archesgob Oscar Rodriguez o Hondwras yn canu Offeren ac yn traddodi darlith Cafod, "Dyled y Tydydd Byd".

2000 Cysegru eicon o Sant Richard Gwyn. Arddangosfa o Eiconau

2001 Coed-poeth - Patrick Walters yn creu Safleoedd y Groes.

2002 Sul y Pasg - Disgyblion o ysgolion y Santes Fair a Sant Joseph yn cymryd rhan mewn darllediad BBC Radio Cymru.

2003 Ailweirio ac ail-oleuo'r Gadeirlan.

2004 Ionawr - Byddin yr Iachawdwriaeth yn mynd i gytundeb i ddefnyddio Eglwys y Teulu Sanctaidd yng Nghoed-poeth ar y cyd.

2005 Ail ymfudiad o Bwyliaid yn ymuno â'r gynulleidfa.

2006 Mawrth - Gweinyddu'r Offeren yn ô'l Defod Syro-Malabar, ar gyfer y gymuned Indiaidd Kerala. Offeren y Sul wythnosol yn y Bwyleg yn dechrau. Ysgol Sant Joseph yn ailagor fel Ysgol Uwchradd Babyddol/Anglicanaidd gyfunol. Ymweliad Archesgob Faustino Sainz Munoz, llysgennad Apostolaidd y Pab ym Mhrydain.

2007 BBC Radio Cymru'n darlledu dau Ddathliad Sul o'r Gadeirlan. Penodi Offeiriaid Pwylaidd i weithio gyda'r gymuned Bwylaidd. Gwaith ar y Gadeirlan: Ailadeiladu'r meindwr. Crogi rhes o glychau. Adfer y Fedyddfa. Dechrau aildrefnu'r Seintwar: caffael pupud PP Pugin. Arddangosfa o grochenwaith a choed. Cynnal Gŵyl Flodau ar y cyd ag eglwys San Silyn. Y Plwyf yn cael statws Masnach Deg.