Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Cyfuniad Ffrwydrol: Codi Glo yng Ngogledd Cymru

Mae glo wedi siapio hanes gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae glo'n adnodd gwerthfawr. Mor bell yn ôl â'r bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd Bwrdeisiaid Holt yn gwarchod yn ofalus eu hawl i gloddio am lo yn 'nhiroedd diffaith' Brymbo a Choed-poeth. Yn 1536 soniodd John Leland, oedd yn ysgrifennu am deithio, bod glo'n cael ei godi o gwmpas yr Wyddgrug ac mewn lle o'r enw 'Y Mwyngloddiau', y Mwynglawdd heddiw.

Yn ystod yr 17eg ganrif, tyfodd y galw am glo wrth i fwy o dai gael simneiau. Yn Sir y Fflint, aeth Pyrs Mostyn a Syr Thomas Mostyn i'r llys i benderfynu gan bwy oedd yr hawliau i'r pwll glo yn y Morfa. Yn Sir Ddinbych, cyflogodd Syr Thomas Myddelton ddyn 'that is goode to find coales' ar ei stad yn y Waun. Erbyn 1690 roedd y pwll glo yn y Parc Du ar stad y Waun yn cynhyrchu 3,500 wagen o lo bob blwyddyn.

Codwyd mwy a mwy o lo yn y 18fed ganrif. Dechreuwyd ddefnyddio glo mewn diwydiannau oedd wedi sefydlu fel gwaith haearn y Bers. Yn Sir y Fflint, sefydlwyd mwyndoddwyr plwm ar hyd yr arfordir, ger y pyllau glo, gan ei bod yn haws mynd â'r mwyn plwm ar i lawr na chludo'r glo ar i fyny i'r pyllau plwm.

Creodd glo gyfleoedd newydd hefyd. Yn y ddwy sir, gwnaed defnydd buddiol o'r clai tân oedd i'w gael ochr yn ochr â'r glo: crochenwaith ym Mwcle a brics, teils a therracotta yn Rhiwabon ac Acrefair.

Yn y 19eg ganrif, daeth y rheilffyrdd ag oes euraid glo: glo i wneud y cledrau haearn, ac i yrru'r trenau stêm. Fodd bynnag, daeth yr elw am bris mawr.

Cydnabyddiaeth

Archifdy Sir Ddinbych, Archifdy Sir y Fflint, Science & Society Picture Library, Mary Evans Picture Library, Liverpool Daily Post & Echo, Archifdy Wrecsam, Knew Productions, Tony Hall, Edward McKay, Nigel Chadwick, Alan Jefferies, Glyn Cooper, Elfed Owens, Lawrence Pritchard, Peter Appleton, Bark Design, Through Design a Wall Signs.

Defnyddiwch y saethau neu'r rhagolygon cryno i we-lywio drwy'r galeri delweddau. Os hoffech weld rhagor o wybodaeth ar y ddelwedd cliciwch yr "i" sydd ar y gornel uchaf ar y chwith.

Casgliadau Cloddio am Lo, Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam (Cedwir yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chanolfan Dreftadaeth y Bers) Lampau mwyngloddio trwm (Ber 657.1) Cyflwyno lamp mwyngloddio, Mehefin 1975 (Drwy Garedigrwydd Ted McKay) Lamp Davy (Drwy garedigrwydd Ted McKay) Blwch ffrwydron (Ber 302.62.1) Cynhwysydd ffrwydron (Ber 302.62.3) Bag i ddal tanwyr ffrwydron Amddiffynwyr pengliniau glowyr (Ber 319.1/574.7) Helmed dyn achub y pyllau glo o Orsaf Achub y Pyllau Glo, Ffordd Maesgwyn, Wrecsam (Ber 363.5-6) Offer Anadlu Savox, a ddefnyddiwyd gan dimau achub yn y pyllau glo (Ber 307.8) Offer Anadlu Savox, a ddefnyddiwyd gan dimau achub yn y pyllau glo (Ber 307.8) Clocsiau Glowyr a wisgwyd gan löwr ym Mhwll Glo'r Hafod ac yn ddiweddarach ym Mhwll Glo Gresffordd Tin 'Snappin' (brechdanau), i gadw cinio'r glöwr (Ber 318.1) Siaced waith 'donkey' glöwr  (blaen, Ber 302.25) Siaced waith 'donkey' glöwr (cefn, Ber 302.25) Arwydd Rhybudd, o Bwll Glo Glanrafon (Ber 333.18) Arwydd Rhybudd, o Bwll Glo Glanrafon (Ber 333.19) Arwyddion Gwybodaeth y Siafftau, o Bwll Glo Glanrafon (Ber 402.69) Arwydd y Ffreutur o Bwll Glo Glanrafon Bwrdd Cynhyrchu, o Swyddfa Tanddaear y Rheolwr, Pwll Glo Glanrafon (Ber 356.9) Rhaw glöwr (Ber 302.3.1) Tocynnau lamp o Bwll Glo Gresffordd (Drwy garedigrwydd Derrick Jones) Tocynnau lamp o byllau glo lleol, a bathodyn cynrychiolwr yr undeb (Ber 650, 455, 447, 400 & 427) Tocynnau bath pen y pwll, a ddefnyddiwyd ym Mhwll Glo Gresffordd, tua 1940–47 (Ber 650) Methanomedr er mwyn canfod lefelau'r nwy ffrwydrol methan (Ber 488) Sampler aer, rhan o offer cymryd sampl aur tan ddaear. Pecyn anadlu brys hunan achubwr - model hyfforddi (Ber 311.8-10) Tin brechdannauu cymorth cyntaf a ddefnyddiwyd tanddaear (Ber 650.3) Slip cyflog glöwr, Pwll Glo'r Hafod, Mawrth 1958 (Ber 440.1-2) Slip cyflog glöwr sy'n dangos didyniadau, Pwll Glo Glanrafon, Awst 1966 (Ber 505) Baner Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru, arddangoswyd fel rhan o arddangosfa dros dro Cyfuniad Ffrwydrol:  Cloddio am Lo yng Ngogledd Cymru.