Mae’r Ganolfan Gasgliadau’n gyfeleuster ymchwilio i ymwelwyr sydd â diddordeb yng nghasgliadau’r amgueddfa. Bu’r amgueddfa’n casglu gwrthrychau ers 1982. Mae’r casgliad yn cynnwys deunyddiau hanes cymdeithasol arwyddocaol, yn enwedig clociau a gwisgoedd. Mae diwydiant yn cael ei gynrychioli hefyd, yn arbennig y diwydiant brics, teils a theracotta. Un o’r ychwanegiadau nodedig diweddar yw Casgliad Pêl-droed Cymru.
Bydd y ganolfan yn darparu mynediad trwy gyfrifiaduron personol arbennig at gasgliadaur amgueddfa. Yna bydd ymwelwyr yn gallu gweld gwrthych(au) os oes angen (gweler yr eithriadau isod*).
Y meysydd parcio agosaf yw maes parcio aml-lawr San Marc y drws nesaf. Sylwer nad oes unrhyw leoedd parcio ar gael yn yr amgueddfa. Ceir tri lle parcio i bobl anabl ar Ffordd San Marc.
Map o Canol Tref Wrecsam a Cyfleusterau Parcio
Mae’r Ganolfan Gasgliadau ar lawr cyntaf yr is-adeilad ac yn hygyrch i ddefnyddwyr anabl.
Mae toiledau ar y safle.
Mae gan yr amgueddfa caffi newydd: Siop Goffi Bwtri (cysylltiadau allanol) – coffïau, cacennau, brechdanau, cawliau ac ystod o brydau ysgafn yn cynnwys rhai o fwydydd gorau yr ardal.
Y Ganolfan Gasgliadau
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Rhaglaw
Wrecsam
LL11 1RB
Ffôn: 01978 297476
Bydd y Ganolfan Gasgliadau ar agor i’r cyhoedd bob prynhawn dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener o 2pm hyd 4pm. Nid oes angen neilltuo lle ymlaen llaw.
Mae’r amgueddfa o fewn pellter cerdded o orsafoedd trenau Cyffredinol a Chanolog Wrecsam.
Sylwer nad oes unrhyw leoedd parcio ar gael yn yr amgueddfa oni bai am leoedd ar Ffordd San Marc i bobl anabl sydd â bathodyn glas. Mae maes parcio aml-lawr y drws nesaf i’r amgueddfa ar Ffordd San Marc ger Stryt y Rhaglaw. Mae maes parcio talu ac arddangos yn Y Werddon hefyd sydd rhyw 5 munud ar droed o’r amgueddfa.
Map o Canol Tref Wrecsam a Cyfleusterau Parcio
Mae’r Orsaf Fysiau ar Stryt y Brenin llai na munud o’r amgueddfa ar droed.
Os oes gennych rywbeth yr ydych chi’n meddwl y byddai’r amgueddfa am ei ychwanegu at ei chasgliadau bydd y Curadur wrth law yn y Ganolfan i edrych ar roddion posibl. Sylwer y dylech fynd â chyhoeddiadau a deunyddiau archifol i Ganolfan A.N Palmer.
Mae’r polisi’n esbonio’r hyn y bydd yr amgueddfa’n ei gasglu mewn perthynas â’r ardal ddaearyddol y bydd yn casglu ohoni a’r mathau o wrthrychau y bydd am eu casglu. Yn yr un modd, mae’n nodi’r hyn nad yw’r amgueddfa am ei gasglu e.e. gwrthrychau neu gasgliadau nad ydynt yn berthnasol i Fwrdeistref Sirol Wrecsam neu arteffactau a gafwyd trwy ddulliau anghyfreithlon. Yn olaf, mae’n amlinellu’r polisïau ar gyfer cael gwared ar wrthrychau o gasgliadau. Adolygwyd y polisi yn 2003 a chaiff ei adolygu eto yn 2008.
Dros 20,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru
British Museum collections database
Adeiladwyd yr Isadeilad gyda chymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
![]()