Astudiaeth Gyffredin

Astudiaeth Partneriaethau Amgueddfeydd - Gogledd a Chanolbarth, Cymru.

Crynodeb Gweithredol

Nid yw deialog "o un amgueddfa i'r llall" yn dda. Byddai'n fantais cael cyfarfod pobl eraill. (Ivor Murrant, Elusendai Llanrwst)

Mae ein lleoliad yng Ngogledd Cymru yn eich torri i ffwrdd. Mae rhwyg rhwng Gogledd a De Cymru, ond nid i'r graddau ei bod yn amhosibl newid hynny. Mae'n dibynnu llawer ar y cymeriadau. Mae'n rhaid i chi neilltuo'r amser i wybod beth sy'n digwydd (Pat West, Ynys Môn)

Sefydlwyd yr astudiaeth gan Grwp Llywio yn cynnwys swyddogion amgueddfeydd proffesiynol Gogledd a Chanolbarth Cymru, a chafodd ei gyllido gan CyMAL. Mae'n cynnwys ardaloedd i'r gogledd o linell rhwng Aberystwyth a Threfaldwyn. Mae natur darpariaeth amgueddfeydd yn golygu fod gwasanaethau'n fach ac wedi eu hynysu yn ddaearyddol. O ganlyniad, mae gweithgaredd busnes o un amgueddfa i'r llall yn gyfyngedig, yn yr un modd â'r cyfleoedd i rannu profiad a gwybodaeth.

Casgliadau

Ym maes dysgu ffurfiol a storio, roedd amgueddfeydd awdurdodau lleol yn ardal yr astudiaeth gwneud yn well na chyfartaledd cenedlaethol Cymru o ran lefel ei darpariaeth. Roeddynt hefyd yn perfformio'n well na chyfartaledd Cymru wrth ddarparu adeiladau addas. Mae hyn yn rhyfeddol oherwydd ei bod yn glir o'r dadansoddiad o ddata ariannol gan Sbotolau Cymru fod cyllidebau amgueddfeydd nad ydynt dan reolaeth genedlaethol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, 30% yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Os ydynt yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau, neu amgueddfeydd, mae'r rhan fwyaf o amgueddfeydd ardal yr astudiaeth yn cyflawni gwyrthiau bychain ar gyllidebau bach. Er hynny, mae Sbotolau Cymru yn nodi fod yr amgueddfeydd yn aml yn methu cyflawni'r un lefelau o wasanaethau a chyfartaledd Cymru.

Os yw amgueddfeydd ardal yr astudiaeth am wella a chyflawni'r un lefelau o ddarpariaeth gwasanaeth a chyfartaledd Cymru, mae angen iddynt gael eu nodi'n achosion arbennig, a fydd yn derbyn cefnogaeth benodol.

Er bod eu gwaith yn aml yn dda yn unigol, mae hyder curaduriaid yn isel, a bydd angen cynyddu hyder cyn gwneud gwelliannau. Rhai o'r meysydd a fyddai'n elwa'n bennaf o weithio mewn partneriaeth yw:

  • Cyfranogiad cymunedol, ymchwil y farchnad;
  • gwasanaethau ar y we;
  • asesiadau o gasgliadau a gwybodaeth am gasgliadau;
  • prif ffrydio'r Iaith Gymraeg;
  • arddangosfeydd dros dro;
  • cysylltu gyda strategaethau diwylliannol, treftadaeth a thwristiaeth;
  • datblygu gyrfa.

Mae angen llais cryfach i anghenion a chyfraniadau pob amgueddfa yn ardal yr astudiaeth os ydynt am osgoi teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu yn genedlaethol. Dylai hyn hefyd gynnwys ymddiriedolwyr, aelodau etholedig a phrif swyddogion.

Mae teimlad cryf o frwdfrydedd am waith ar y cyd mewn amgueddfeydd ar lawr gwlad a gan unigolion blaenllaw lleol a chenedlaethol. Oherwydd y niferoedd isel o staff sy'n nodweddu amgueddfeydd yn ardal yr astudiaeth, ychydig o adnoddau wrth gefn sydd ar gael i fuddsoddi mewn sefydlu a chynnal partneriaethau, pa bynnag mor fuddiol ydynt yn y tymor hir. Ni ddylid cymryd yn ganiataol fod modd gwella safonau cyffredinol yn effeithiol heb gefnogaeth ychwanegol wedi'i dargedu'n benodol.

Bydd cefnogaeth i wella amgueddfeydd ardal yr astudiaeth yn y dyfodol yn dibynnu ar gyfuniad o strwythurau cenedlaethol, buddsoddiad lleol a chyd gefnogaeth effeithiol. I hyn lwyddo, byddai angen cyfraniad ymarferol gan:

  • Grwp Gogledd a Chanolbarth Cymru gyda llais cryf
  • Awdurdodau Lleol
  • Amgueddfa Cymru
  • CyMAL
  • Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru

Dylid ail ffurfio grwp Curaduriaid Gogledd a Chanolbarth Cymru fel grwp cynhwysol a gweithredol sy'n gweithio mewn modd ffederal gyda chlystyrau bach a sefydliadau mawr cenedlaethol, gan ymateb i ymgynghoriadau a chynrychioli lles amgueddfeydd ardal yr astudiaeth.

Dylid penodi Swyddog Partneriaethau ar gontract dwy flynedd i gynorthwyo gyda'r gwaith o sefydlu a chyd-drefnu perthnasau newydd a rhoi cymorth ymarferol iddynt.

Ar lefel cenedlaethol, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yw'r sefydliad mwyaf priodol i sicrhau fod amgueddfeydd Gogledd a Chanolbarth Cymru'n cael eu cydnabod yn llawn a'u cynnwys yn y teulu Cymru gyfan. Fodd bynnag, byddai'n rhaid iddo newid ei arferion gwaith er mwyn i hyn weithio'n foddhaol.

Argymhellion

  • Mae 16 argymhelliad i gymuned amgueddfeydd Gogledd a Chanolbarth Cymru fuddsoddi amser ac egni mewn rhwydweithio o un amgueddfa i'r llall, cynrychiolaeth a dylanwad, a rhannu profiad.
  • Mae 7 argymhelliad i weithio gyda CyMAL
  • Mae 7 argymhelliad i weithio gydag Amgueddfa Cymru.
  • Mae 4 argymhelliad i weithio gyda Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
  • Mae 1 argymhelliad i awdurdodau lleol.

Astudiaeth Gyffredin - Adroddiad

Astudiaeth Gyffredin - Adroddiad - fformat Word 568Kb

Astudiaeth Gyffredin - Adroddiad - fformat PDF 398Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol