Croeso i Adeiladau’r Sir cartref hanesyddol Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam !
"Arhoswch! Pwy sydd yna!"
Nid ydym yn cyfarch ymwelwyr fel hyn rwan, ond bron 150 mlynedd yn ôl, mynedfa pencadlys Milisia Brenhinol Sir Ddinbych oedd hwn. Rydych yn sefyll y tu allan i’r hen warchoty.
Dychmygwch Wrecsam, tref ddiwydiannol fywiog yn y 1850au :
Roedd anghydfodau diwydiannol, cau allan o lofeydd, streiciau glowyr a therfysgoedd yn ddigwyddiadau rheolaidd. Roedd aflonyddwch gwleidyddol yn tyfu wrth i bobl fynnu cael pleidleisio. Roedd Prydain mewn rhyfel â Rwsia yn Y Crimea. Roedd y Sefydliad yn teimlo dan fygythiad ac edrychodd ar ei ddiogelwch:
At Ynadon Heddwch ei Mawrhydi dros Sir Ddinbych
Gwyl Fihangel 1854
Rwyf i, Robert Myddelton Biddulph Ysw, Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych a Phrif Gyrnol Milisia’r sir a enwyd, drwy hyn yn nodi bod y lleoliad a ddarperir ar gyfer cadw ynddo arfau ac eiddo Catrawd y Milisia a enwyd, hynny yw Neuadd y Dref, yn anniogel, annigonol ac anaddas ar gyfer cadw arfau fel hyn yn ddiogel.
Trosglwyddwyd dan fy llaw ar yr Ail ddiwrnod ar bymtheg o Fedi 1854R. Myddelton Biddulph.
Yn syml, roedd yn ofni y byddai'r 'Dorf' yn torri i mewn i Neuadd y Dref a chymryd arfau’r Milisia; felly a allai’r Ynadon Heddwch ddod o hyd i’r arian i adeiladu Pencadlys newydd. Fe wnaethant.
Ym mis Hydref 1854 gorchmynnodd yr Ynadon Heddwch"Rhaid darparu storfeydd diogel a mwy addas, ystafell clercod, gwarchoty, arfdy a iard ddigonol lle gall y Milisia ymgynnull. Hefyd annedd i Uwch Ringyll a chwe Rhingyll."
Canlyniad hyn yw’r adeilad hwn, Depo’r Milisia. Yn wreiddiol, roedd gan yr adeilad bedwar twr ac roedd cynlluniau hyd yn oed ar gyfer ffos sych a chaeadau dur ar gyfer y ffenestri i wrthsefyll ymosodiad arfog. Prinder arian neu’r sylweddoliad nad oedd Wrecsam ar fin chwyldroi oedd y rheswm na adawodd y cynlluniau fwrdd dylunio’r pensaer.
Roedd Depo’r Milisia’n gartref i’r Uwch Ringyll, y Swyddog Cyflenwi, sawl Rhingyll a’u teuluoedd. Bob blwyddyn roedd yna fis hyfforddi, pan fyddai Gwyr Milisia Sir Ddinbych yn cymryd y dref drosodd wrth iddynt ymdeithio o amgylch Wrecsam a drilio yn y Cae Ras. Roedd y Gwirfoddolwyr Reiffl a Gwŷr Meirch yr Iwmyn hefyd yn defnyddio’r adeilad hwn.

Llun cynnar o'r adeilad hwn , c1860 (gweler fersiwn mawr )
Agorodd Barics Hightown ei ddrysau ac ymsefydlodd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam. Penderfynodd y Milisia adael yr adeilad hwn ac ymuno yng nghartref y milwyr parhaol.
Ni fu’r adeilad hwn yn wag yn hir. Teimlai’r Ynadon nad oedd yr hen Neuadd y Dref yn ddigon urddasol bellach ar gyfer tref bwrdeistref fel Wrecsam. Ar ben hyn, roedd yn rhaid i’r Heddlu weithredu oddi ar ddesg yng nghyntedd blaen Neuadd y Dref. Roeddent oll yn frwdfrydig dros symud yma ac fe wnaethant yn 1879.
I fyny’r grisiau, daeth y cyn arfdy yn llys a thu ôl i'r wal hon, adeiladwyd celloedd yr heddlu. Roedd swyddfa’r Prif Gwnstabl drwy’r drws, i ben y coridor ac ar y chwith.
Nid yn unig fân droseddwyr, pobl feddw ac afreolus yr oedd yr Heddlu yn Wrecsam yn ymdrin â nhw.
Streic y Glowyr yn Nyffryn Moss: Dosbarthodd y Prif Gwnstabl gleddyfau cytlas i gwnstabliaid yr Heddlu a galwyd am gymorth y Milisia pan drodd yr anghydfod yn gas.
Cadwodd Rhyfel y Degwm Heddlu Sir Ddinbych yn brysur. Bu raid i’r Prif Gwnstabl Leadbetter a’i Gwnstabliaid atal y bobl a oedd yn gwrthwynebu talu trethi i Eglwys Lloegr rhag amharu ar arwerthiannau gorfodol o eiddo fferm, fel bod yr Eglwys yn cael ei harian. Cafodd y Prif Gwnstabl ei daro gan dail gwartheg mewn ysgarmes fywiog ar un fferm.
Yn ffodus, nid oedd pob dydd yn waith caled i’r Heddlu yn Wrecsam.
Mehefin 4ydd 1879
Mae’r Prif Gwnstabl yn dymuno i bob dyn a all dyfu locsys a mwstashis da, i wneud hyn, i’r rhai na all, ni chaniateir iddynt wisgo twffiau gên - rhaid eillio.
Rhagfyr 17eg 1883
Gofynnir i gwnstabliaid gadw golwg ar goed Celyn. Gwneir llawer o ddifrod iddynt gan unigolion sy’n eu torri ac yn cludo canghennau i ffwrdd ar gyfer addurn. Dylid euogfarnu os yn bosibl.
Hydref 27ain 1890
Derbyniwyd cwynion ynghylch llanciau yn poeni merched ifanc ar y strydoedd gyda’r nos. Dylid gwneud pob ymdrech gan yr Heddlu, yn enwedig ar nosweithiau Sadwrn a Sul, i roi diwedd ar boeni fel hyn.
Chwefror 17eg 1896
Rwy’n gwrthwynebu ymglymiad a phresenoldeb rheolaidd sy’n ofynnol ar Heddwas sy’n aelod o unrhyw gôr. Mae pobl sydd am droseddu yn dymuno iddo fod o’r ffordd ac unwaith y byddant yn gwybod yn bendant ei fod yn fynychwr côr rheolaidd, maent yn cael cyfle delfrydol.
Symudodd yr ynadon i’r adeilad hwn a’i lys newydd yn 1879. Cyflwynodd yr Ynadon Sirol a’r Barnwyr Sirol gyfiawnder yma. Er yr adroddiadau cychwynnol, nid oedd ganddynt feddwl mawr ohono:
Wrexham Advertiser Ionawr 6ed 1879
Cynhaliwyd y llys am y tro cyntaf yn Adeiladau newydd y Sir, y cyn farics milwrol. Roedd y llys yn ystafell hynod eang a chyfforddus.
Wrexham Advertiser Chwefror 15fed 1879
Llys Cyfforddus ar gyfer Busnes!
Cyfeiriodd Mr Bennion Acton at gyflwr hynod anghyfforddus y neuadd yn y Llys. Nid oedd gwres yn y pibellau, dim tân yn ystafelloedd y cyfreithwyr, dim byrddau a dim cadeiriau! Nododd Ei Anrhydedd Horatio Lloyd Ysw., y dylid cyfeirio’r cwestiwn hwn at Lys yr Ynadon a ddylai, yn bendant, sicrhau bod rhywbeth yn cael ei wneud.
Dywed rhai cyn-gwnstabliaid mai dyletswydd Rhingyll yr Orsaf oedd sicrhau nad oedd y boeler yn diffodd dros y penwythnos, ac y byddai mewn dwr poeth gan yr Ynadon pe byddai’n diffodd.

Gwirfoddolwyr yn ymgynnull y tu allan i Adeiladau'r Sir
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Adeiladau’r Sir a’i weithlu’n wynebu amserau llawer mwy difrifol: Roedd yr Heddlu yn gorfod sicrhau bod y ‘blacowt’ yn cael ei weithredu a chadw golwg am ysbïwyr. Adeiladodd yr ARP (Rhagofalon
Cyrchoedd Awyr) eu garej a depo glanhau yn yr iard y tu ôl. Gosododd yr ARP seiren ar ben yr adeilad yn barod i ganu os oedd bomwyr Yr Almaen uwchben. Cenir y seiren cyrchoedd awyr bob Dydd y Cofio.

Heddlu Wrecsam gyda'r ceir heddlu diweddaraf, 1954
(o'r chwith i'r dde PC174 DP Davies, PC91 JM Lewis, PC115 TM Williams, PC169 DW Lloyd, PC128 E Evans, PC44 I Davies a PS151 AW Hughes)
Yn y diwedd, daeth yr Heddlu a’r Ynadon i’r casgliad bod Adeiladau’r Sir yn rhy fychan ar gyfer anghenion y System Gyfiawnder Troseddol fodern. Erbyn 1979, roeddent wedi ymadael ac roedd yr adeilad dan fygythiad o’i ddymchwel. Achubwyd yr adeilad a symudodd Coleg Celf Wrecsam i mewn. Yn 1995, prynodd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yr adeilad fel cartref i amgueddfa ar gyfer pobl y dref a'r cymunedau cyfagos.