Compendiwm Botanegol Rhagorol Dr Drinkwater

Croeso i Compendiwm Botanegol Rhagorol Dr Drinkwater

Llun o Dr Drinkwater Llun o Cyfoeth Cymru Gyfan Llun o taflen 1912 Eisteddfod

Ganed Dr Harry Drinkwater yn Northwich, Sir Gaer ac ym 1890 daeth i Wrecsam i weithio fel meddyg. Bu'n byw yn y dref tan ei farwolaeth ym 1925.

Ers ei ddyddiau fel myfyriwr roedd gan Dr Drinkwater ddiddordeb mewn botaneg maes ac roedd yn mwynhau peintio. Dechreuodd gasglu a darlunio planhigion wedi marwolaeth ei wraig gyntaf. Casglodd bron y cyfan o'r planhigion yn ei ddarluniau yng Ngogledd Cymru. Casglodd nifer ohonynt ar ei deithiau i ymweld â'i gleifion yn y wlad o gwmpas Wrecsam.

Roedd yn tynnu lluniau'r planhigion ar bapur llwydwyrdd gan ddefnyddio gouache - dyfrlliw wedi'i gymysgu â gwyn Tsieineaidd i wneud y lliwiau'n llachar ac afloyw. Ceisiai ddarlunio'r planhigion cyn gynted â phosibl ar ôl eu casglu. Ond, roedd ei waith yn tarfu ar hynny weithiau, ac o ganlyniad, mae rhai o'r lluniau heb eu gorffen wedi iddo ymateb i alwadau brys.

Ei nod oedd cynhyrchu set gyflawn o luniau'r planhigion yn ardal Wrecsam. Cwblhaodd yn agos i 500 o luniau rhwng 1903 -1915. Ym 1912 arddangosodd 200 o'i ddarluniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Arweiniodd yr arddangosfa at ddiddordeb yn ei waith, ac ym mhen hir a hwyr rhoddoddi ei luniau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn parhau i ofalu am ddarluniau planhigion Dr Drinkwater. Ceir detholiad o'i luniau isod. Lluniau artistig yw'r rhain yn hytrach na rhai gwyddonol. Fel cyfanrwydd maent yn arweiniad ardderchog i flodau Wrecsam.

Cliciwch ar unrhyw un o'r delweddau i weld fersiwn mwy.

Cysylltiadau Perthnasol

Llun o Crib y Pannwr Dr Drinkwater   Llun o Celynnen Dr Drinkwater   Llun o Tegeirian Coch Dr Drinkwater
Crib y Pannwr   Celynnen   Tegeirian Coch
Llun o Uchelwydd Dr Drinkwater   Llun o Bysedd y Cwn Dr Drinkwater   Llun o Alan Mawr Dr Drinkwater
Uchelwydd   Bysedd y Cwn   Alan Mawr
Llun o Pannog Melyn Dr Drinkwater   Llun o Rhosyn Coch Gwyllt Dr Drinkwater   Llun o Rhosyn Coch Gwyllt
Pannog Melyn   Rhosyn Coch Gwyllt   Rhosyn Coch Gwyllt
Llun o Castanwydden y Meirch   Llun o Cyngaf Bychan Dr Drinkwater   Llun o Cenhinen Bedr Dr Drinkwater
Castanwydden y Meirch   Cyngaf Bychan  

Cenhinen Bedr

Llun o Ywen Dr Drinkwater   Llun o Eirlys Dr Drinkwater   Llun o Codwarth Caled Dr Drinkwater
Ywen   Eirlys   Codwarth Caled
Llun o Draenen Ddu Dr Drinkwater   Llun o Cwsglys Dr Drinkwater   Llun o Marchysgallen Dr Drinkwater
Draenen Ddu   Cwsglys   Marchysgallen
Llun o Tafod y Fuwch Dr Drinkwater        
Tafod y Fuwch        

Llun o Cyfoeth Cymru GyfanCyfoeth Cymru Gyfan

'Detholiad Botanegol Gwych Dr Drinkwater' oedd y'r arddangosfa gyntaf i'w threfnu ar y cyd gan Amguedfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, fel rhan o gynllun 'Cyfoeth Cymru Gyfan - Sharing Treasures'.

Mae 'Cyfoeth Cymru Gyfan - Sharing Treasures' yn gynllun newydd a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gyngor Amgueddfeydd Cymru. Nod y cynllun yw dod â thrysorau Cymru at bobl Cymru drwy gydweithio rhwng Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a'i bartneriaid.

Defnyddir y lluniau hyn dan drwydded gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (Kay Kays, Swyddog Trwyddedu, ffôn: 02920 573280)

Cysylltiadau Perthnasol

 Gwe Cam Wrecsam

 Canolfan Croeso

 Taith Arlein Wrecsam

 Gwasanaeth Cefn Gwlad Wrecsam

yn ôl i'r brig