Digwyddiadau i Blant

Bydis Bryn

Clwb hanes a threftadaeth i blant!

  • Ydych chi rhwng 7 a 11 oed?
  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes?
  • Dewch draw felly i glwb Bydis Bryn!

Bob mis byddwn yn teithio’n ôl mewn amser, yn cyfarfod pobl a lleoedd newydd. Byddwn yn gwneud llawer o weithgareddau hwyliog ac yn dysgu am gyfnodau hanes gwahanol. Hyd yn hyn rydym wedi edrych ar fywyd yn ystod yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, wedi ymuno â’r Fyddin Rufeinig a hyd yn oed wedi cynnal ein cloddiad archeolegol ein hunain!

Mae Bydis Bryn yn glwb hanes a threftadaeth wedi ei greu ar gyfer plant sydd rhwng 7 ac 11 oed. Cynhelir Cynhelir y clwb fel arfer ar dydd Sadwrn cyntaf y mis yn Amgueddfa Wrecsam rhwng 10.30am a 12.30pm a’i gost fydd £3 y plentyn fesul sesiwn.

I archebu ac i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Amgueddfa ac Archifdy Wrecsam ar: 01978 297460. Yn lle hynny, gallech e-bostio: museumeducation@wrexham.gov.uk.

Mae neilltuo lle’n hanfodol

For all children’s events, please phone 01978 317 970 and book ahead to guarantee a place

Ar gyfer pob digwyddiad i blant, ffoniwch 01978 297 460 i neilltuo o flaen llaw a sicrhau lle.

 

Look out for changes in the galleries: new displays on the themes of 'Home Life' and 'Work Life'

Cadwch olwg allan am newidiadau yn yr orielau: arddangosfeydd newydd ar y themâu ‘Bywyd yn y Cartref’ a ‘Bywyd yn y Gwaith’.

- Amgueddfa Wrecsam

Er ein bod wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn y raglen hon yn gywir adeg ei gyhoeddiad, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod yn gyfrifol am unrhyw newidiadau, camgymeriadau neu esgeulustra

Digwyddiadau i Blant

Bydis Bryn – PDF fformat 477Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig